Dewis Iaith
  • English
    Official
  • Cymraeg
    Official
  • Default
    Reset
  • Afrikaans
    Afrikaans
  • Albanian
    shqip
  • Amharic
    ኣማርኛ
  • Arabic
    عربي
  • Armenian
    Հայերէն
  • Azerbaijani
    آذربايجانجا ديلي
  • Basque
    euskara
  • Bengali
    বাংলা (baɛṅlā)
  • Belarusian
    Беларуская мова
  • Bosnian
    bosanski
  • Bulgarian
    български (bãlgarski)
  • Catalan
    català
  • Cebuano
    Sinugboanon
  • Chichewa
    Chicheŵa
  • Chinese Simplified
    中国简化
  • Chinese Traditional
    中國傳統
  • Corsican
    corsu
  • Croatian
    Hrvatski
  • Czech
    čeština
  • Danish
    dansk
  • Dutch
    Nederlands
  • English
    English
  • Esperanto
    Esperanto
  • Estonian
    eesti keel
  • Filipino
    filipino
  • Finnish
    suomi
  • French
    français
  • Frisian (West)
    Frysk
  • Galician
    Galego
  • Georgian
    ქართული (kʻartʻuli)
  • German
    Deutsch
  • Greek
    ελληνικά
  • Gujarati
    ગુજરાતી
  • Haitian Creole
    Kreyòl ayisyen
  • Hausa
    حَوْس
  • Hawaiian
    ʻōlelo Hawaiʻi
  • Hebrew
    עִבְרִית
  • Hindi
    हिन्दी
  • Hmong
    Hmong
  • Hungarian
    Hungarian magyaChichewar
  • Icelandic
    Íslenska
  • Igbo
    Igbo
  • Indonesian
    Bahasa Indonesia
  • Irish (Gaelic)
    Gaeilge
  • Italian
    italiano
  • Japanese
    日rus本語
  • Javanese
    baṣa Jawa
  • Kannada
    ಕನ್ನಡ
  • Kazakh
    Қазақ тілі
  • Khmer
    ភាសាខ្មែរ
  • Korean
    한국어
  • Kurdish
    Kurmanji
  • Kyrgyz
    قىرعىز
  • Lao
    ພາສາລາວ
  • Latin
    Lingua Latina
  • Latvian
    latviešu valoda
  • Lithuanian
    lietuvių kalba
  • Luxembourgish
    Lëtzebuergesch
  • Macedonian
    македонски
  • Malagasy
    Fiteny Malagasy
  • Malay
    Bahasa melayu
  • Malayalam
    മലയാളം
  • Maltese
    Malti
  • Maori
    te Reo Māori
  • Marathi
    मराठी
  • Mongolian
    Монгол
  • Myanmar (Burmese)
    ဗမာစကား
  • Nepali
    नेपाली
  • Norwegian
    norsk
  • Pashto
    پښتو
  • Persian
    فارسى
  • Polish
    polski
  • Portuguese
    português
  • Punjabi
    ਪੰਜਾਬੀ
  • Romanian
    limba
  • Russian
    Русский язык
  • Samoan
    Gagana Samoa
  • Scots Gaelic
    Gàidhlig
  • Serbian
    српски
  • Sesotho
    seSotho
  • Shona
    chiShona
  • Sindhi
    سنڌي
  • Sinhala
    සිංහල
  • Slovak
    slovenčina
  • Slovenian
    slovenščina
  • Somali
    af Soomaali
  • Spanish
    español
  • Sundanese
    Basa Sunda
  • Swahili
    Kiswahili
  • Swedish
    svenska
  • Tamil
    தமிழ்
  • Tajik
    тоҷики
  • Telugu
    తెలుగు
  • Thai
    ภาษาไทย
  • Turkish
    Türkçe
  • Ukrainian
    Українська
  • Urdu
    اردو
  • Uzbek
    أۇزبېك ﺗﻴﻠی o\'zbek tili ўзбек тили
  • Vietnamese
    tiếng việt
  • Yiddish
    ײִדיש
  • Xhosa
    isiXhosa
  • Yoruba
    Yorùbá
  • Zulu
    isiZulu
Helpu ffoaduriaid i ddeall eu hawliau

beth sydd angen i chi ei wybod?

Gallwch gael gafael ar yr holl wybodaeth a chyngor diweddaraf am y coronafeirws yma:

https://covid.reciteme.com/nhs-novel/

Gallwch ledaenu'r feirws hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw symptomau. Mae’n bosibl y bydd gan bobl sy'n sâl beswch neu dymheredd uchel.

 Os oes arnoch angen unrhyw driniaeth i symptomau coronafeirws, ni fydd yn rhaid i chi dalu. Nid oes angen i chi boeni, ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu â Llywodraeth y DU.

Cysylltwch â '999' os oes angen sylw meddygol brys arnoch.

Hefyd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llunio llyfryn cymorth am y coronafeirws. Mae ar gael mewn sawl iaith wahanol:

https://phw.nhs.wales/topics/latest-information-on-novel-coronavirus-covid-19/coronavirus-grid-links/covid-19-help-for-refugees-and-asylum-seekers/ 

Mae 'Doctors of the World ' wedi darparu gwybodaeth mewn llawer o wahanol ieithoedd:

https://www.doctorsoftheworld.org.uk/coronavirus-information/#

 

Accordion
Title
Iechyd Meddwl
Body

Llinell gymorth iechyd meddwl ar gyfer Cymru yw C.A.L.L.. Mae'n gweithredu 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae'n cynnig gwasanaeth gwrando cyfrinachol a chefnogaeth yn ystod argyfwng y coronafeirws.

 

Os oes arnoch chi angen siarad â rhywun, gallwch ffonio'r rhif ffôn di-dâl isod:

 0800 132 737 neu;

Tecstiwch 'Help ' i 81066

I gael gwybodaeth am unrhyw gymorth arall sydd ar gael, ewch i'r wefan hon:

http://www.callhelpline.org.uk/

 

Mae 'Doctors of the World ' wedi darparu gwybodaeth mewn llawer o wahanol ieithoedd:

https://www.doctorsoftheworld.org.uk/wellbeing-guidance/#

Title
Tai
Body

Yn ystod argyfwng Covid-19, dylai eich awdurdod lleol ddarparu llety ar gyfer ceiswyr lloches a wrthodwyd neu unrhyw un sy'n ddigartref gyda 'Dim hawl i gael arian cyhoeddus'.

 Defnyddiwch y dudalen 'Eich ardal leol' i gael gwybod sut i gysylltu â'ch awdurdod lleol i gofrestru am lety. 

Ni ddylid rhannu eich gwybodaeth â'r Llywodraeth Deyrnas Unedig.

 

Title
Addysg i bob oed
Body

Yn ystod argyfwng Covid-19, mae ysgolion ar gau a gofynnir i blant ddysgu gartref. Os nad oes gennych fynediad at y dechnoleg sydd ei hangen arnoch i wneud hyn, dylai eich awdurdod lleol allu eich helpu. Defnyddiwch y dudalen 'Eich ardal leol' i gael gwybod sut i gysylltu â'ch awdurdod lleol i gael gafael ar y dechnoleg gywir.

Prydau ysgol am ddim

Mae mynediad at brydau ysgol am ddim yn debygol o fod yn wahanol yn ystod argyfwng Covid-19. Bydd pob awdurdod lleol yn penderfynu sut i wneud yn siŵr y gall ceiswyr lloches gael gafael ar arian i fwydo eu plant. Defnyddiwch y dudalen 'Eich ardal leol' i gael gwybod sut i gysylltu â'ch awdurdod er mwyn cael prydau ysgol am ddim.

Dysgu Saesneg

Mae rhai adnoddau yn parhau i fod ar gael i'r rhai sy'n ceisio dysgu Saesneg. Gellir dod o hyd i'r adnoddau hyn yma:

Headway ar-lein www.elt.oup.com . Mae’n rhad ac am ddim ac mae’r cwrs ar lefel mynediad 1 hyd at lefel 2

Cyrsiau ESOL (dechreuwyr) https://www.esolcourses.com/content/topicsmenu/beginners.html

https://en.diglin.eu/

Title
Cyfraith Lloches
Body

Yn ystod argyfwng Covid-19, mae rhai o'r prosesau ceisio lloches wedi newid neu wedi cael eu hatal dros dro. Bydd achos pob unigolyn yn wahanol. Mae'n bwysig nad ydych yn anwybyddu llythyrau swyddogol. Gofynnwch am gyngor cyfreithiol personol gan gynghorydd cyfreithiol.

Title
Swyddi
Body

Yn ystod argyfwng Covid-19, mae Llywodraeth y DU yn gweithredu Cynllun Cadw Swyddi i atal pobl rhag colli eu swyddi.

https://www.gov.uk/guidance/claim-for-wages-through-the-coronavirus-job-retention-scheme.cy

e

Title
Diffyg Fitamin D
Body

Ar hyn o bryd rydym yn cynghori pobl i aros gartref. Ar gyfer y mwyafrif, bydd hyn yn golygu bod y tu mewn am ran helaeth o'r diwrnod, a gallai hyn olygu nad yw pobl yn cael digon o fitamin D o fod allan yn yr heulwen.  

Mae fitamin D yn helpu i gadw esgyrn, dannedd a chyhyrau yn iach. Mae hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y system imiwnedd, sy'n helpu ein cyrff i frwydro yn erbyn heintiau.

Mae'r risg o fod â diffyg fitamin D yn uwch ymysg grwpiau penodol, fel menywod beichiog, babanod a phlant ifanc. Gallai hyn fod yn wir am bobl sydd â chroen tywyllach hefyd, gan nad yw eu cyrff yn gallu gwneud cymaint o fitamin D.

Rydym yn argymell yn gryf y dylai pobl yn y grwpiau canlynol gymryd atchwanegiad dyddiol yn cynnwys 10 microgram o fitamin D.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i:

https://llyw.cymru/cyngor-fitamin-d-i-bawb-coronafeirws  

 

Title
Pryd i wneud cais am brawf
Body

Gwneud cais am brawf

Cyn gwneud cais am brawf, rhaid bod gennych symptomau. Gallai hyn fod yn beswch cyson newydd. Gallai fod yn dymheredd uchel. Neu mae’n bosibl eich bod wedi colli’ch synnwyr blasu neu arogli neu wedi sylwi ar newid ynddynt.

Os byddwch yn datblygu un o'r symptomau hyn dilynwch y canllawiau hunanynysu

Gallwch wneud cais i chi eich hun neu i unrhyw un yn eich cartref sydd â symptomau. Os nad oes profion ar gael, rhowch gynnig eto yn nes ymlaen gan fod profion yn dod ar gael yn ystod y dydd.

Gallwch ffonio 119 (rhwng 7am ac 11pm).

I gael gafael ar wasanaeth cyfieithu o 119, mae angen ichi ddewis yr opsiynau canlynol unwaith y byddwch wedi deialu: -

Pwyswch 3 i gadarnhau eich bod yn galw o Gymru.

Pwyswch 2 i gadarnhau yr hoffech siarad â siaradwr Saesneg.

Yna byddwch yn clywed neges wedi'i recordio. Mae hon yn esbonio mai dim ond oes oes gennych symptomau y dylech archebu prawf. Ar ôl i’r neges orffen, bydd angen ichi ddewis opsiwn 2.

Unwaith y byddwch wedi’ch cysylltu ag asiant, bydd yn cysylltu â Language Line. Yna cewch sgwrs 3 ffordd gyda'r galwr a'r asiant.

 

Gall pobl sydd â nam ar y clyw neu’r lleferydd ffonio 18001 119. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i’ch helpu wrth archebu prawf ac wrth gael y prawf.

Defnyddiwch y gwasanaeth coronafeirws 111 ar-lein os ydych chi’n teimlo na allwch ymdopi â’ch symptomau gartref. Gellir defnyddio’r gwasanaeth hefyd os yw eich cyflwr yn gwaethygu neu os nad yw’r symtpomau yn gwella ar ôl 7 diwrnod.

Ar gyfer argyfwng meddygol, ffoniwch 999.

Dewisiadau profi

Mae’n bosibl y cewch ddewis sut i gael y prawf. Gallech gael prawf mewn canolfan brofi drwy ffenest y car neu mewn uned brofi symudol. Mae profion yn cael eu cynnal hefyd mewn unedau profi lleol neu yn y cartref os ydych yn weithiwr hanfodol.

Yng Nghymru, mae profion yn cael eu cynnal naill ai drwy gymryd un swab sych o gefn y gwddf, neu drwy gymryd swab o’r gwddf a’r trwyn.

Canlyniadau profion

Wrth archebu eich prawf, byddwch yn cael rhagor o wybodaeth am sut y byddwch yn cael y canlyniad. Dylech gael canlyniad eich prawf o fewn 72 awr.

Ffoniwch 119 os ydych chi’n cael trafferth cael eich canlyniadau. Gall pobl sydd â nam ar y clyw neu’r lleferydd ffonio 18001 119. Mae’r ganolfan gyswllt ar agor o 7am tan 11pm.

 

Ewch i'r wefan isod os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os bydd angen cyngor arnoch pan gewch ganlyniad eich prawf. Gwybodaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer unigolion sydd wedi cael prawf am haint COVID-19

 

Title
Lawrlwytho'r ap COVID-19
Body

Mae ap COVID-19 y GIG yn rhan bwysig o'n rhaglen Profi Olrhain Diogelu i reoli lledaeniad COVID-19. Mae’r ap yn rhan o'n rhaglen raddfa fawr profi ac olrhain cysylltiadau'r coronafeirws (COVID-19) o'r enw Profi, Olrhain, Diogelu y GIG. Caiff yr ap ei ddefnyddio, ochr yn ochr ag olrhain cysylltiadau traddodiadol, i hysbysu defnyddwyr os byddant yn dod i gysylltiad â rhywun sy'n profi'n bositif am y coronafeirws yn ddiweddarach.

Mae'r ap yn galluogi pobl i adrodd am symptomau, archebu prawf coronafeirws, cofrestru mewn lleoliadau drwy sganio côd QR ac mae'n helpu'r GIG i olrhain unigolion a allai fod wedi cael y coronafeirws.

Bydd yr ap yn helpu'r GIG i ddeall a yw'r feirws yn lledaenu mewn ardal benodol, ac felly bydd modd i awdurdodau lleol ymateb yn gyflym i'w atal rhag lledaenu ymhellach ac achub bywydau.

Mae'r ap yn gwneud hyn wrth ddiogelu anhysbysrwydd y defnyddiwr. Fydd neb, gan gynnwys y llywodraeth, yn gwybod pwy yw defnyddiwr penodol neu ble mae e.

Mae'r ap ar gael i'w lawrlwytho o siop Apple app neu siop Google Play.

Drwy lawrlwytho a defnyddio'r ap, gallwch helpu i gadw eich teulu a'ch ffrindiau yn ddiogel. Po fwyaf o bobl sy'n defnyddio'r ap, po fwyaf ein siawns o leihau lledaeniad y feirws.

Sut mae'r ap yn eich cynorthwyo chi

Os ydych chi'n dewis lawrlwytho'r ap, mae chwech nodwedd allweddol a fydd yn eich helpu chi a'ch cymuned.

Olrhain

Er mwyn olrhain cysylltiadau, mae'r ap yn canfod ac yn cofnodi defnyddwyr eraill yr ap sydd gerllaw drwy ddefnyddio rhifau adnabod unigryw ac ar hap. Os bydd unrhyw un o'r defnyddwyr hynny yn profi'n bositif am y coronafeirws (COVID-19) yn ddiweddarach, byddwch yn derbyn hysbysiad o amlygiad ynghyd â chyngor ar beth i'w wneud.

Rhybudd

Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer yr ap am y tro cyntaf, gofynnir i chi am hanner cyntaf eich côd post. Gallwch wirio'r ap bob dydd i weld a yw'r ardal lle rydych chi'n byw wedi dod yn ardal risg uchel ar gyfer y coronafeirws. Os yw hi, byddwch yn derbyn hysbysiad i roi gwybod i chi. Bydd hyn yn eich helpu i wneud penderfyniadau bob dydd i'ch diogelu chi a'r bobl rydych chi'n eu caru.

Mewngofnodi

Mae'r ap yn caniatáu i chi recordio pan fyddwch yn ymweld â lleoliad drwy fewngofnodi pan fyddwch yn cyrraedd, gan ddefnyddio cod QR y lleoliad. Mae'r ap yn cofnodi eich bod yn cyrraedd y lleoliad heb gofnodi unrhyw wybodaeth bersonol. Byddwch yn derbyn hysbysiad os yw'r lleoliad hwnnw'n cael ei nodi'n ddiweddarach gan awdurdodau iechyd fel 'risg uchel' oherwydd achosion coronafeirws a gadarnhawyd ar adeg eich ymweliad.

Symptomau

Os ydych chi'n teimlo'n anhwylus, gallwch ddefnyddio'r ap i wirio a allai eich symptomau fod yn gysylltiedig â'r coronafeirws (COVID-19).

Profi

Os oes gennych chi symptomau'r coronafeirws, bydd yr ap yn mynd â chi i wefan lle gallwch archebu prawf i weld a oes gennych chi'r coronafeirws ai peidio.

Ynysu

Os ydych chi wedi derbyn cyngor gan yr ap i hunanynysu, mae'r ap yn cynnig amserydd ôl-gyfrif er mwyn bod cofnod gennych chi am ba mor hir y bydd angen i chi hunanynysu. Pan fyddwch chi'n dod i ddiwedd eich cyfnod o hunanynysu, bydd yr ap yn anfon hysbysiad atgoffa gyda dolen i'r cyngor diweddaraf ar eich cyfer.

Efallai eich bod yn gymwys i gael taliad o £750 drwy gynllun cymorth hunanynysu gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru. Mwy o wybodaeth am sut i wneud cais trwy ap COVID-19 ar cefnogaeth ap COVID-19 y GIG.

Sut mae'r ap yn gweithio

Mae ap COVID-19 y GIG yn defnyddio nodwedd bresennol “Cofnogi Amlygiad” eich ffôn clyfar i ganfod a ydych chi wedi treulio amser yn agos at ddefnyddwyr ap eraill sydd wedi profi'n bositif ar gyfer y coronafeirws (COVID-19).

Er mwyn i hyn weithio, mae angen i'ch Bluetooth fod wedi'i droi ymlaen: ni fydd hyn yn disbyddu eich batri gan fod yr ap yn defnyddio “Bluetooth Egni Isel”.

Bydd yn defnyddio eich ardal cod post i ddweud wrthych a yw eich ardal mewn perygl. Pan fyddwch yn lawrlwytho'r ap gofynnir i chi rannu 4 llythyren a digid cyntaf eich cod post gyda GIG Cymru. Yn gyffredinol, mae ardal cod post yn cynnwys tua 8,000 o gyfeiriadau. Mae hyn yn golygu na ellir adnabod eich lleoliad penodol.

Eich preifatrwydd a'ch data personol

Ni fydd yr ap yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch nac yn olrhain eich lleoliad.

Mae'r ap yn defnyddio rhifau adnabod unigryw ar hap i ganfod defnyddwyr eraill ap Profi ac Olrhain y GIG er mwyn anfon rhybuddion. Bydd defnyddio'r rhifau adnabod ar hap hyn yn golygu bod eich rhyngweithio â defnyddwyr eraill yr ap yn aros yn breifat. Caiff yr holl gofnodion, megis dyddiad, amser a pha mor agos ydych chi at ddefnyddwyr eraill, eu cadw ar eich ffôn chi'n unig. Gallwch chi hefyd ddileu'r ap a'r holl ddata mae'n ei gadw pryd bynnag y mynnoch.

Nid oes modd defnyddio'r ap:

  • i'ch adnabod chi
  • i'ch olrhain chi
  • i wirio a ydych chi'n hunanynysu
  • gan wasanaethau gorfodi'r gyfraith a mewnfudo

Mwy o wybodaeth am ap COVID-19 y GIG

Mae mwy o wybodaeth am yr ap a sut i’w ddefnyddio ar wefan cefnogi ap COVID-19 y GIG.

Title
Rheolau Coronafeirws’
Body

O 15 Ionawr

  • Gall hyd at 500 o bobl fod yn bresennol mewn digwyddiadau tu allan. Nid yw hyn yn cynnwys y rheiny sy’n cymryd rhan mewn digwyddiad chwaraeon tîm, sy’n golygu gall 500 o bobl fod yno’n gwylio.

O 21 Ionawr

  • ni fydd cyfyngiad cyfreithiol bellach ar y nifer o bobl all gyfarfod tu allan
  • bydd angen Pàs COVID ar gyfer digwyddiadau mawr tu allan

O 28 Ionawr

  • bydd clybiau nos yn cael ailagor
  • bydd angen Pàs COVID ar gyfer digwyddiadau mawr dan do, clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd
  • bydd gweithio o gartref yn bwysig o hyn ond yn symud o gyfraith i ganllawiau
  • mewn lletygarwch, ni fydd cyfyngiadau ar gyfarfod pobl a dim gofyniad am wasanaeth wrth y bwrdd na 2 fetr o ymbellhau corfforol

 

 

Yn ogystal â’r Cwestiynau Cyffredin hyn, mae canllawiau manylach ar gael yn y meysydd canlynol:

Mae angen i bob un ohonom barhau i weithio gyda'n gilydd i ddiogelu Cymru a chadw lefelau’r coronafeirws dan reolaeth.

Po fwyaf o’r rhain y byddwn yn eu gwneud, gorau oll, er mwyn torri trosglwyddiad COVID-19:

Dylech wneud y canlynol bob amser:

Os yw’n bosibl, dylech barhau i wneud y canlynol:

I ddiogelu eich gilydd yn eich cartrefi, rydym yn cynghori bod pawb yn gwneud y pum peth canlynol:

  • cyfyngu nifer y bobl sy’n dod i’ch cartref
  • os bydd pobl yn ymweld, sicrhau eu bod yn gwneud prawf llif unffordd yn y bore cyn dod
  • mae cwrdd yn yr awyr agored yn well nag o dan do. Os byddwch yn cwrdd o dan do, gadewch ddigon o awyr iach i mewn i’r ystafell
  • gadael bwlch rhwng unrhyw ymweliadau
  • cofio cadw pellter cymdeithasol a golchi’ch dwylo

Cymdeithasu

  • Y mwyaf o bobl y byddwn yn eu gweld, y mwyaf yw’r risg y byddwn yn dal y feirws neu’n ei ledaenu.
  • Mae’n syniad da cyfyngu ar nifer y bobl rydych yn cymdeithasu â nhw a gadael diwrnod rhwng cwrdd â gwahanol bobl.
  • Os bydd pobl yn ymweld â chi, agorwch y ffenestri neu’r drysau am 10 munud yn rheolaidd i adael y feirws allan a chadw gwesteion yn ddiogel. Neu, byddai cwrdd yn yr awyr agored yn well fyth.
  • Byddwch yn arbennig o ofalus os ydych chi’n gweld pobl hŷn neu bobl â chyflyrau iechyd sy’n golygu eu bod mewn mwy o berygl o ddioddef salwch difrifol yn sgil COVID-19.
  • Cyn i chi fynd allan, cymerwch brawf dyfais llif unffordd, ac arhoswch adref os yw’r prawf yn bositif.
  • Cofiwch eich Pàs COVID y GIG neu dystiolaeth o brawf llif unffordd negatif os ydych yn mynd i leoliad lle mae hynny’n ofynnol.

Brechu

  • Nid yw’n rhy hwyr i fanteisio ar y brechlyn. Os nad ydych wedi cael eich dos cyntaf (neu’ch ail ddos) eto, ewch i’w gael nawr.
  • Rydym yn gweithio i roi’r pigiad atgyfnerthu i gymaint o bobl gymwys â phosibl. Pan ddaw eich tro, rhowch y pigiad ar frig eich rhestr Nadolig a’i flaenoriaethu cyn popeth arall.
  • Rhowch yr anrheg gorau i chi’ch hun, y cyfle i gael eich diogelu rhag y feirws a mwynhau blwyddyn newydd iach.

Rydym wedi ceisio sicrhau bod cyn lleied â phosibl o wahaniaethau rhyngom â rhannau eraill o'r DU, ac rydym yn cydweithio'n agos iawn â’r gwledydd eraill. Mae'n bwysig deall bod y rheolau yma yng Nghymru yn wahanol.

Mae'r canllawiau a'r Cwestiynau Cyffredin hyn yn berthnasol i Gymru. I weld y rheolau neu'r canllawiau ar gyfer rhannau eraill o’r DU, ewch i'r safleoedd ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

A yw’r coronafeirws yn dal i ledaenu?

Nid yw'r pandemig ar ben ac mae'r feirws yn dal i ledaenu. Mae’n bosibl y gwelwn achosion yn cynyddu wrth inni gymysgu ag eraill. Mae ymddangosiad yr amrywiolyn Omicron hefyd yn ddatblygiad difrifol yn y pandemig parhaus ac mae angen i bob un ohonom gymryd camau i ddiogelu ein hunain.

Brechu a phigiadau atgyfnerthu yw un o'r ffyrdd gorau o’n hamddiffyn yn erbyn lledaeniad y coronafeirws. Ond nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, a gallai rhai pobl sydd wedi'u brechu'n llawn gael eu heintio o hyd, neu drosglwyddo'r feirws i eraill heb wybod. Po fwyaf o bobl sy'n cael eu brechu, y lleiaf yw'r risg i bawb arall.

Mae'n bwysig iawn i bawb dderbyn y cynnig o frechlyn gan gynnwys y pigiad atgyfnerthu os gallant. Dylem hefyd barhau i feddwl am yr hyn y gallwn ni barhau i'w wneud i gadw ein hunain a'n hanwyliaid yn ddiogel. Ond rydym yn sylweddoli bod rhai pobl nad ydynt yn gallu manteisio ar y cynnig o frechlyn, neu nad yw'r brechlyn yn gweithio cystal iddynt.

Mae brechlynnau wedi gwanhau'r cysylltiad rhwng heintiau, salwch difrifol a gorfod mynd i’r ysbyty, ond nid yw'r cysylltiad hwnnw wedi'i dorri. Po uchaf yw cyfraddau lledaenu’r coronafeirws, y mwyaf o bobl fydd yn cael COVID-19, a bydd rhai hefyd yn dioddef o COVID hir.

Sut y gallaf i amddiffyn fy hun ac eraill ac atal y coronafeirws rhag lledaenu?

Mae’n rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan o hyd i atal lledaeniad y feirws. Mae trosglwyddo’r coronafeirws yn cael ei gysylltu fwyaf â bod mewn cysylltiad agos ac estynedig â phobl dan do. Mae'r risgiau uchaf mewn mannau gorlawn ac mewn mannau sydd wedi'u hawyru'n wael dros gyfnodau estynedig.

Y ffordd fwyaf effeithiol o leihau risgiau, yn enwedig salwch difrifol, yw manteisio ar y cynnig i gael ein brechu, os gallwn. Mae angen y ddau ddos o’r brechlyn a phigiad atgyfnerthuy i gael amddiffyniad. Mae'n cymryd o leiaf bythefnos (14 diwrnod) ar ôl yr ail ddos cyn y bydd y brechlyn yn amddiffyn y person yn llawn.

Mae ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwn a chael ein brechu yn golygu ein bod yn ystyriol o eraill ac y gallwn ddychwelyd at wneud y pethau rydym wedi gweld eu heisiau fwyaf. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael y brechlyn ac mae canolfannau galw heibio ar agor ar gyfer y dos cyntaf, yr ail ddos a’r dos atgyfnerthu. Dylai busnesau a chyflogwyr annog eu gweithlu i fanteisio ar y brechlyn.  

Hyd yn oed os ydych wedi cael dau ddos o’r brechlyn cofiwch mai’r ffyrdd gorau o leihau risgiau yw dilyn y canlynol:

Sut i gael brechlyn COVID-19

Mae pob un o’r brechlynnau COVID-19 a awdurdodwyd yn y DU yn ddiogel ac yn rhoi lefel uchel o amddiffyniad yn erbyn haint a salwch difrifol. Ar hyn o bryd rydym yn rhoi’r brechlynnau Pfizer BioNTech a Moderna yn ein canolfannau brechu; mae’r brechlynnau hyn yn cael eu cynnig ar gyfer dosau cyntaf beth bynnag fo’ch oedran

I wneud apwyntiad ar gyfer y brechlyn neu bigiad atgyfnerthu, cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol neu edrychwch ar eu gwefan i gael gwybod sut i drefnu slot neu i gael gwybod am eu lleoliadau brechu galw heibio.

I gael rhagor o wybodaeth am y brechlynnau, darllenwch y canllawiau brechu diweddaraf.

Rwy'n cael fy ystyried yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol - pa gamau y dylwn eu cymryd i fod yn ofalus?

Os ydych yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol, gallwch ddilyn yr un rheolau a chanllawiau â phawb arall yng Nghymru. Ond fe'ch cynghorir hefyd i gymryd gofal ychwanegol wrth ystyried sut y gallwch leihau'r risg er mwyn cadw eich hun yn ddiogel. Yn ogystal â chael cyn lleied o gysylltiadau â phosibl, efallai yr hoffech feddwl yn arbennig am fod yn ofalus wrth gwrdd â phobl eraill nad ydych fel arfer yn cwrdd â nhw, er mwyn lleihau'r risg o ddal neu ledaenu COVID-19. Er enghraifft:

  • cwrdd yn yr awyr agored os oes modd. Mae'r gronynnau sy'n cynnwys y feirws sy'n achosi COVID-19 yn cael eu chwythu i ffwrdd yn gyflym, sy'n ei gwneud yn llai tebygol y cânt eu hanadlu gan berson arall
  • os ydych dan do gwneud yn siŵr bod y lle wedi'i awyru'n dda os ydych yn cwrdd tu mewn, trwy agor ffenestri a drysau os gallwch, i sicrhau bod digon o awyr iach yn dod i mewn
  • golchi’ch dwylo yn rheolaidd ac osgoi cyffwrdd eich wyneb

Mae canllawiau yma ar gyfer pobl sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol.

A ddylwn i gymryd unrhyw gamau ychwanegol i fod yn ofalus os ydw i'n feichiog?

Os ydych yn feichiog, dylech o leiaf ddilyn y canllawiau swyddogol a ddarperir i bawb. Os ydych fwy na 27 wythnos yn feichiog, neu os ydych yn feichiog a bod gennych gyflwr iechyd sy’n bodoli eisoes sy'n golygu bod mwy o risg ichi gael salwch difrifol os byddwch yn dal COVID-19 yn ystod eich beichiogrwydd, efallai y byddwch am ystyried osgoi cysylltiad agos â phobl nad ydych yn cwrdd a nhw’n aml, er mwyn lleihau’r risg o ddal COVID-19. Byddai'n rhoi mwy o amddiffyniad i chi a'ch babi pe bai'r holl bobl rydych yn cwrdd â nhw wedi cael eu brechu’n llawn. Mae cyngor pellach ar gael yma ar feichiogrwydd a’r coronafeirws (COVID-19).

Os ydych yn feichiog neu'n ystyried beichiogi ac nad ydych wedi cael eich brechu eto, fe'ch cynghorir i gael eich brechu cyn gynted â phosibl. Mae cyngor pellach ar gael yn Beichiogrwydd, bwydo ar y fron, ffrwythlondeb a'r brechlyn coronafeirws (COVID-19 (ar www.nhs.uk)

Faint o bobl sy’n cael dod i’m cartref?

Yr unig gyfyngiadau cyfreithiol ar nifer y bobl sy'n gallu cwrdd yng nghartrefi ei gilydd yw uchafswm o:

  • 30 o dan do
  • 500 yn yr awyr agored, nid yw hyn yn cynnwys y rheiny sy’n cymryd rhan mewn digwyddiad chwaraeon tîm, sy’n golygu gall 500 person fod yn bresennol i wylio.

Ond dylech barhau i feddwl am y risgiau o gael pobl yn eich cartref ac ystyried sut y gallwch leihau'r risgiau hynny.

Rhaid inni barhau i wneud y pethau hynny yr ydym yn gwybod eu bod yn ein diogelu ni ac eraill. Er enghraifft:

  • os oes modd, cwrdd â phobl yn eich gardd neu yn yr awyr agored
  • golchi dwylo'n rheolaidd a thisian i hancesi papur y byddwch yn eu taflu
  • sicrhau bod awyr iach mewn mannau dan do, drwy agor ffenestri a drysau
  • cyfyngu ar nifer y bobl rydych chi'n cwrdd â nhw ar unrhyw un achlysur, cyfyngu ar faint o amser rydych yn ei dreulio gyda phobl a chadw pellter corfforol lle gallwch
  • cymryd prawf dyfais llif unffordd cyn ymweld â phobl eraill, gan gynnwys yn eich cartref chi neu eu cartref hwythau

A oes unrhyw reolau ynghylch pwy y gallaf gwrdd â nhw, ble a phryd?

Rydyn ni i gyd eisiau cwrdd â ffrindiau eto ond meddyliwch am yr hyn sydd fwyaf synhwyrol i chi ei wneud i amddiffyn eich teulu.

Mae’n well gweld un neu ddau unigolyn yn rheolaidd na gweld llawer o wahanol bobl yn achlysurol. Po leiaf o bobl rydyn ni'n cwrdd â nhw a'r lleiaf o amser rydyn ni’n ei dreulio mewn torfeydd, y lleiaf o siawns sydd inni gael ein heintio â’r coronafeirws, neu ei ledaenu. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd cyfraddau’r coronafeirws yn uchel.

  • ni chewch gwrdd â mwy na 5 o bobl eraill mewn tafarndai, caffis, bwytai a safleoedd eraill a reoleiddir
  • bydd mesurau ychwanegol, gan gynnwys rheoli mynediad a gwasanaeth bwrdd, yn ofynnol ym mhob safle trwyddedig
  • caiff uchafswm o 30 o bobl fod yn bresennol mewn gweithgareddau o dan do
  • uchafswm o 500 o bobl mewn gweithgareddau awyr agored, nid yw hyn yn cynnwys y rheiny sy’n cymryd rhan mewn digwyddiad chwaraeon tîm, sy’n golygu gall 500 person fod yn bresennol i wylio.
  • bydd rhaid gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do heblaw pan fydd pobl yn eistedd i fwyta neu yfed

Cartrefi preifat neu fannau cyhoeddus

Cewch gwrdd ag eraill mewn cartrefi preifat. Ond rydym yn eich cynghori i feddwl yn ofalus am nifer y bobl rydych yn cwrdd â nhw. Os byddwch yn cwrdd â gwahanol grwpiau o bobl ar adegau gwahanol, dylech adael o leiaf ddiwrnod rhwng gweld y gwahanol bobl.

Ni chaiff dros 30 o bobl o dan do neu 500 o bobl yn awyr agored ymgynnull mewn cartrefi a gerddi preifat. Gallech gael Hysbysiad Cosb Benodedig am fynd dros y niferoedd hyn.

Rydym hefyd yn cynghori pawb i gymryd prawf llif unffordd (LFD) cyn cwrdd ag unrhyw un yn gymdeithasol, boed hynny o dan do neu yn yr awyr agored.

Os yw’r prawf LFD yn bositif, dylech roi gwybod am eich canlyniad a dilyn y canllawiau hunanynysu ar unwaith. Nid ydych yn cael eich cynghori mwyach i drefnu prawf PCR dilynol i gadarnhau'r canlyniad, oni bai eich bod mewn grŵp sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol, ac y byddai angen triniaeth gynnar arnoch o bosibl, neu eich bod wedi cael eich cynghori i wneud hynny fel rhan o raglen ymchwil neu raglen cadw gwyliadwriaeth.

Cofiwch, os oes gennych unrhyw symptomau dylech barhau i drefnu prawf PCR a dilyn y canllawiau hunanynysu pan fo hynny'n briodol.

Rydym yn fwy tebygol o ddal y coronafeirws oddi wrth bobl rydym mewn cysylltiad agos â nhw bob dydd, ac o’i basio ymlaen i’r bobl hynny. Mae’r amrywiolyn Omicron yn lledaenu’n arbennig o hawdd. Y peth mwyaf diogel i’w wneud yw osgoi cysylltiad â phobl eraill nad ydych yn byw gyda nhw. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cyfyngu ar nifer y bobl sy’n dod i mewn i’ch cartref a’ch bod yn ystyried ffurfio aelwyd unigryw gyda nifer cyfyngedig o aelwydydd eraill.

Rydym yn gofyn ichi ystyried nid yn unig beth y cewch ei wneud yn ôl y gyfraith, ond beth ddylech ei wneud – beth yw’r peth cywir i’w wneud i leihau lledaeniad y coronafeirws. Yn benodol, rydym yn gofyn ichi:

  • geisio cyfyngu ar faint o wahanol bobl rydych yn eu gweld. Mae’n well gweld yr un criw o bump o bobl yn rheolaidd na gweld llawer o wahanol bobl yn achlysurol
  • ceisio cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr, gan gynnwys yn yr awyr agored, oddi wrth unrhyw un nad yw’n byw gyda chi
  • osgoi gweithgareddau a allai gynyddu’r risg o drosglwyddo’r feirws (er enghraifft, gweiddi er mwyn i bobl eich clywed dros gerddoriaeth uchel, neu ganu’n agos at bobl eraill)
  • cwrdd yn yr awyr agored â phobl nad ydych yn byw gyda nhw, os yw’n bosibl. Os byddwch yn cwrdd o dan do, cofiwch awyru’r ystafell yn dda. 

Bwytai, caffis a thafarndai

Mae’n ofynnol i leoliadau fel bwytai, caffis a thafarndai gymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws. Er enghraifft:

  • annog cwsmeriaid i archebu ymlaen llawn gan roi manylion pawb a fydd yn bresennol
  • bydd manylion cyswllt yn ofynnol at ddibenion olrhain cysylltiadau
  • rheoli mynediad i’r safle
  • bydd safleoedd trwyddedig, fel tafarndai, yn darparu gwasanaeth bwrdd yn unig
  • dylid bwyta ac yfed wrth y bwrdd yn unig
  • gweithredu mesurau cadw pellter cymdeithasol, fel creu pellter rhwng byrddau
  • rhaid gwisgo gorchudd wyneb heblaw pan fydd pobl yn eistedd i fwyta neu yfed

Cewch fynd i fannau o dan do ac awyr agored mewn safleoedd trwyddedig fel caffis, bwytai, tafarndai a bariau gyda phobl sy’n byw gyda chi.

Ond os hoffech fynd i safleoedd trwyddedig gyda phobl nad ydych yn byw gyda nhw, ni chewch gwrdd â mwy na phump o bobl eraill, hynny yw ni chaiff dros chwech o bobl o hyd at chwe aelwyd fod yn eich grŵp ar unrhyw un adeg (ac eithrio unrhyw ofalwyr neu blant o dan 11 mlwydd oed o unrhyw rai o’r aelwydydd hynny).

A yw gweithgareddau sydd wedi’u trefnu yn dal i gael eu caniatáu?

Ydynt, mae gweithgareddau sydd wedi’u trefnu yn dal i gael eu caniatáu o fewn cyfyngiadau. Ond dylid rhoi mesurau rhesymol ar waith i ddiogelu pawb rhag lledaeniad y feirws.

Mae gweithgareddau sydd wedi’u trefnu yn cynnwys ystod eang o weithgareddau ar gyfer pobl o unrhyw oed. Mae hyn yn cynnwys pethau fel dosbarthiadau ymarfer corff, cyfarfodydd grwpiau crefyddol a grwpiau cymorth. Yn ystod y gweithgareddau hyn, bydd hyd at 500 o bobl o unrhyw oed yn cael ymgynnull o gymysgedd o aelwydydd yn yr awyr agored (nid yw hyn yn cynnwys y rheiny sy’n cymryd rhan mewn digwyddiad chwaraeon tîm, sy’n golygu gall 500 person fod yn bresennol i wylio) a hyd at 30 o bobl o gymysgedd o aelwydydd o dan do.

Nid yw gweithgareddau sydd wedi’u trefnu yn cynnwys pethau fel partïon neu gynulliadau cymdeithasol ehangach rhwng teuluoedd a ffrindiau y tu hwnt i’r trefniadau ar gyfer cwrdd â phobl eraill. Ni chaniateir i weithgareddau awyr agored sydd wedi’u trefnu gael eu cynnal yng ngerddi neu ar dir cartrefi preifat ac ni chaniateir yfed alcohol fel rhan o’r gweithgaredd hwn.

Rhaid i weithgaredd sydd wedi’i drefnu gael ei drefnu gan fusnes, corff cyhoeddus neu sefydliad elusennol, buddiannol, addysgol neu ddyngarol, clwb neu sefydliad gwleidyddol, neu gorff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon neu weithgaredd arall. Rhaid i drefnydd y gweithgaredd fodloni gofyniad yn y Rheoliadau i gynnal asesiad risg a chymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws.

Ceir rheolau gwahanol ar gyfer gemau chwaraeon tîm fel gêm rygbi gymunedol.

A gaiff plant gymryd rhan mewn gweithgareddau sydd wedi’u trefnu, ar gyfer eu datblygiad a’u lles?

Cânt – caniateir gweithgareddau sydd wedi’u trefnu ar gyfer datblygiad a lles plant. Gallai’r gweithgareddau hyn gynnwys ystod o glybiau neu ddosbarthiadau ar gyfer plant o dan 18 oed, megis clybiau chwaraeon, grwpiau rhieni a babanod/plant bach, grwpiau ieuenctid a grwpiau crefyddol. Nid yw hyn yn cynnwys gweithgareddau fel partïon pen-blwydd plant neu gynulliadau cymdeithasol ehangach rhwng teuluoedd a ffrindiau y tu hwnt i’r trefniadau presennol ar gyfer cwrdd â phobl eraill, a amlinellir yn y canllawiau ar gyfer y cyhoedd.

Pam nad ydych wedi gwneud rheolau am bobl yn cymysgu yng nghartrefi ei gilydd?

Nid ydym yn gwneud darpariaethau cyfreithiol ymwthiol ynghylch yr hyn y mae pobl yn ei wneud yn eu cartrefi eu hunain. Nid ydym yn ailgyflwyno rheolau ar gymysgu yng nghartrefi pobl oherwydd bod rhai amgylchiadau wedi newid – mae gennym bellach boblogaeth sydd wedi'i brechu i raddau helaeth ac mae'r pigiad atgyfnerthu'n cael ei gyflwyno'n gyflym, ac mae profion llif unffordd ar gael yn hawdd. Mae pobl wedi arfer byw gyda'r feirws a gallant wneud penderfyniadau mwy gwybodus am y risgiau y maent yn eu hwynebu o ganlyniad.

Fodd bynnag, rydym yn cynghori pobl Cymru i fod yn ofalus iawn ac i gyfyngu ar eu rhyngweithio cymdeithasol.

Pam na chaniateir digwyddiadau? Pam mae bar neu ffair mewn digwyddiad yn cael ei drin yn wahanol i unrhyw far neu ffair arall?

Ni chaniateir digwyddiadau mawr oherwydd un o'u dibenion yw denu pobl i ddod at ei gilydd mewn un lle. Bydd hyn yn golygu cymysgu ychwanegol yn y digwyddiad ei hun ac mewn safleoedd lletygarwch ger y digwyddiad. Yn gyffredinol, mae hefyd yn golygu bod nifer mawr o bobl yn teithio gyda'i gilydd ar yr un pryd, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus i fynd i'r digwyddiad a'i adael. Ni fydd bar neu ffair sy'n barhaol yn denu'r un nifer o bobl i ddod at ei gilydd at un diben.

Faint o bobl all fynd i ddigwyddiad chwaraeon tîm fel gêm rygbi gymunedol

Y rheol syml yw dim mwy na:

  • 30 o bobl dan do  
  • 500 o bobl yn yr awyr agored, nid yw hyn yn cynnwys y rheiny sy’n cymryd rhan mewn digwyddiad chwaraeon tîm, sy’n golygu gall 500 person fod yn bresennol i wylio.

A gaf i fynd i dderbyniadau priodas, partneriaeth sifil neu briodas amgen a gwylnosau?

Cewch – nid oes cyfyngiadau cyfreithiol ar nifer y bobl sy'n gallu mynychu derbyniad priodas, partneriaeth sifil neu briodas amgen a gwylnosau (te angladd). Fodd bynnag, dylid cymryd camau rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws a'i ledaenu.

Bydd y niferoedd mewn derbyniad priodas a phartneriaeth sifil neu wylnosau yn cael eu pennu gan leoliadau a’r angen i gadw pellter corfforol. 

Dylech anelu at gadw pellter corfforol o 2m oddi wrth unrhyw un nad ydych yn byw gyda nhw cymaint â phosibl.

Gofynnwn ichi gymryd prawf dyfais llif unffordd ar ddiwrnod y digwyddiad, p'un a ydych wedi'ch brechu'n llawn ai peidio. Os cewch ganlyniad cadarnhaol, ni ddylech fod yn bresennol, dylech hunanynysu a chymryd prawf PCR.

Yn yr un modd, os ydych yn sâl a/neu'n arddangos symptomau dylech hunanynysu a chymryd prawf PCR.

Bydd rheolau lletygarwch yn berthnasol yn ystod y briodas, y derbyniadau partneriaeth sifil neu'r gwylnosau. Mae hyn yn cynnwys darparu gwasanaeth bwrdd, pellter corfforol o 2m rhwng grwpiau o uchafswm o chwech o bobl o hyd at chwe aelwyd (heb gynnwys plant o dan 11 oed o'r aelwydydd hynny neu ofalwyr y rhai sy'n bresennol) neu aelwyd unigol os yw'n fwy, a gwisgo gorchudd wyneb pan nad yw pobl yn eistedd wrth fwrdd. Gellir tynnu gorchuddion wyneb dros dro ar gyfer y seremoni briodas.

A ganiateir adloniant byw yn fy nerbyniad priodas, partneriaeth sifil neu briodas amgen?

Er y caniateir adloniant byw, gan gynnwys DJ neu fand mewn priodas, rhaid i bawb sy'n bresennol aros ar eu heistedd ac felly ni chaniateir dawnsio ar hyn o bryd gan fod rheolau lletygarwch yn berthnasol.

Yr unig eithriad yw'r ddawns gyntaf i'r cwpl eu hunain. Caniateir hyn.

A yw’r rheolau ar ymweld ag ysbyty wedi newid?

Nid yw’r canllawiau presennol ar ymweld ag ysbyty wedi newid. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar daro cydbwysedd gofalus rhwng diogelu’r nifer mawr o unigolion agored i niwed sy’n cael triniaeth yn ein hysbytai a chaniatáu ymweliadau sy’n bwysig ar gyfer lles cleifion a ffrindiau a theuluoedd. Mae’r canllawiau’n caniatáu i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd bennu polisïau ymweld ar sail asesiad risg lleol sy’n ystyried nifer yr achosion o COVID-19 yn yr ardal leol ac unrhyw achosion o drosglwyddo’r feirws o fewn yr ysbyty. Ni ddylech ymweld ag unrhyw un yn yr ysbyty am 10 niwrnod os ydych wedi cael eich adnabod fel rhywun sydd wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif am COVID-19 neu ar ôl ymgymryd â gweithgareddau risg uwch.

Darllenwch ragor o wybodaeth am y canllawiau ar ymweld ag ysbyty.

A yw’r rheolau ar ymweld â chartref gofal wedi newid?

Cafodd y canllawiau ar ymweld â chartrefi gofal eu diwygio yn sgil amrywiolyn Omicron COVID-19. Cynghorir darparwyr cartrefi gofal i asesu risg ymweliadau yn unol â’r canllawiau diweddaraf, gan wneud penderfynu ar sail iechyd corfforol a meddyliol a lles preswylwyr.

Ceir trefniadau penodol i alluogi preswylwyr i fynd ar ymweliadau allan o’r cartref gofal, oni bai bod brigiad o achosion yn y cartref gofal.

Dylai ymwelwyr (gan gynnwys plant 11 mlwydd oed a hŷn) gymryd prawf Dyfais Llif Unffordd (LFD) o fewn 24 awr cyn yr ymweliad. Yn ôl penderfyniad y darparwr, gellir cymryd y prawf LFD i ffwrdd o’r cartref gofal. Dylai pob ymwelydd ddangos canlyniad prawf negatif cyn mynd i mewn i’r cartref gofal.

Er nad oes cyfyngiad penodol ar nifer yr ymwelwyr â phreswylydd unigol, dylai cartrefi gofal gyfyngu ymwelwyr i ymwelwyr mynych sy’n deall gofynion i ddiogelu preswylwyr a staff ac sy’n gallu cydymffurfio â’r gofynion hynny.

Nid oes cyfyngiad penodol ar amlder ymweliadau nac am ba hyd y caiff ymwelwyr aros. Ond dylai cartrefi gofal reoli hyn yn unol â’u capasiti staffio a’u hasesiadau risg.

Dylai ymwelwyr wisgo gorchuddion wyneb wrth fynd i mewn i’r cartref a thra maent yn ystafell y preswylydd neu yn yr ystafell ymweld ddynodedig.

Caiff ymwelwyr hanfodol barhau i ymweld hyd yn oed pan fo brigiad o achosion o COVID-19 yn y cartref gofal. Ond ni ddylai’r ymwelydd hanfodol ymweld os yw wedi profi’n bositif am COVID-19. Ni ddylai ymweliadau ddigwydd os yw’r preswylydd wedi profi’n bositif am COVID-19, oni bai bod amgylchiadau eithriadol.

Darllenwch ragor o wybodaeth am y canllawiau ar ymweld â chartref gofal.

Pryd y bydd angen imi wisgo gorchudd wyneb?

Rhaid gwisgo gorchuddion wyneb ym mhob man cyhoeddus dan do, ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys mewn tacsis.

Mae’n ofynnol hefyd i weithwyr a chwsmeriaid wisgo gorchudd wyneb o dan do, oni bai eu bod wedi’u heithrio:

  • Mewn lleoliadau lletygarwch fel bwytai, caffis, tafarndai a chlybiau (gan gynnwys clybiau aelodau preifat)
  • Yn awditoria theatr, sinema neu neuadd gyngerdd a mannau gwyliau arena a stadiwm o dan do
  • Mewn derbyniad priodas, partneriaeth sifil neu briodas amgen

Mewn lleoliadau defnydd cymysg, pan fydd bwyd neu ddiod yn cael ei fwyta mewn rhan o safle, fel caffi siop adrannol, neu fwyty gwesty, mae'n rhaid i chi wisgo gorchuddion wyneb ar y safle ac eithrio pan fyddwch yn eistedd wrth fwrdd yn y man sydd wedi'i neilltuo ar gyfer bwyta ac yfed.

Darllenwch fwy am y canllawiau ynghylch gorchuddion wyneb i’r cyhoedd.

Darllenwch fwy am y canllawiau ynghylch gorchuddion wyneb mewn addysg.

A oes angen i mi gadw pellter o 2 fetr oddi wrth bobl eraill o hyd?

Dylech geisio cadw pellter corfforol o 2m oddi wrth unrhyw un nad yw’n byw gyda chi, cymaint ag sy’n bosibl.

O 27 Rhagfyr ymlaen, rhaid i safleoedd trwyddedig sicrhau y cedwir pellter corfforol rhwng aelwydydd unigol neu grwpiau o hyd at chwech o bobl o uchafswm o chwe aelwyd (heb gynnwys plant o dan 11 mlwydd oed o unrhyw rai o’r aelwydydd hynny neu ofalwyr unrhyw un sy’n bresennol) yn eu safleoedd. Rhaid iddynt hefyd ddarparu gwasanaeth bwrdd yn unig.

Mae cadw pellter corfforol yn ffordd allweddol o atal y coronafeirws rhag lledaenu. Mae’r coronafeirws yn dal i ledaenu yn y gymuned a byddem yn annog pawb i feddwl sut y gallant amddiffyn eu hunain a'u hanwyliaid.

Mae aros o leiaf 2 fetr i ffwrdd oddi wrth bobl nad ydych yn byw gyda nhw yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran lleihau'r siawns y bydd y feirws yn lledaenu. Po agosaf yr awn at eraill a pho fwyaf o amser y byddwn yn ei dreulio wyneb yn wyneb ag eraill, y mwyaf yw'r risg o ddal y feirws.  

Os byddwch yn cael eich heintio, cadwch eich pellter oddi wrth aelodau eraill o'ch cartref gymaint â phosibl, yn enwedig os ydynt yn eithriadol o agored niwed yn glinigol.

Mae'n debygol y bydd y rhan fwyaf o fusnesau, gweithleoedd a lleoedd eraill yn dal i wneud rhywfaint o gadw pellter corfforol yn ofynnol. Mae dyletswydd gyfreithiol ar fannau o’r fath i gymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Sut ydw i'n gwybod os oes gen i COVID-19 a sut ydw i'n cael prawf os ydw i'n meddwl bod gen i COVID-19?

Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd â’r coronafeirws yn cael o leiaf un o’r tri phrif symptom hyn, sef:

  • tymheredd uchel: mae hyn yn golygu bod eich brest neu eich cefn yn teimlo’n boeth wrth eu cyffwrdd (nid oes angen i chi fesur eich tymheredd)
  • peswch cyson, newydd: mae hyn yn golygu pesychu llawer am fwy nag awr, neu 3 neu fwy o byliau o besychu mewn 24 awr (os oes gennych beswch fel arfer, gallai fod yn waeth nag arfer)
  • colli eich synnwyr arogli neu flasu, neu newid yn un o’r synhwyrau hynny: mae hyn yn golygu eich bod wedi sylwi nad ydych yn gallu arogli neu flasu unrhyw beth, neu fod pethau’n arogli neu’n blasu’n wahanol i’r arfer

Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw un o'r tri symptom hyn o COVID-19 aros gartref a hunanynysu wrth wneud trefniadau i gael prawf. Os yw canlyniad y prawf yn negatif, gall y person ddychwelyd i'w drefn arferol pan fydd yn ddigon da i wneud hynny.

Pryd ddylwn i wneud Prawf Dyfais Llif Unffordd (LFD)?

Os ydych yn bwriadu ymweld â rhywle, rydym yn gofyn ichi gymryd prawf LFD cyn mynd allan, hyd yn oed os nad oes gennych chi unrhyw symptomau COVID-19, ac ni waeth a ydych wedi’ch brechu’n llawn ai peidio.

Os ydych chi’n bwriadu treulio amser mewn mannau caeedig, ymweld â phobl agored i niwed, neu deithio i rywle arall, gwnewch brawf ar y diwrnod cyn ichi fynd. Dylech wneud prawf LFD ddwywaith yr wythnos i wirio nad oes gennych COVID-19.

Nid oes gan 1 o bob 3 o bobl sydd â coronafeirws unrhyw symptomau ond gallant heintio eraill. Mae gwneud prawf rheolaidd yn un ffordd o wybod os oes gennych y feirws er mwyn eich atal rhag ei roi i eraill yn ddiarwybod.

Cewch eich canlyniadau mewn 30 munud. Beth bynnag fo’r canlyniad – positif, negatif neu annilys – dylech roi gwybod ar gov.uk cyn gynted â phosibl.

Os yw’r prawf LFD yn bositif, dylech roi gwybod am eich canlyniad a dilyn y canllawiau hunanynysu ar unwaith. Nid ydych yn cael eich cynghori mwyach i drefnu prawf PCR dilynol i gadarnhau'r canlyniad, oni bai eich bod mewn grŵp sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol ac y byddai angen triniaeth gynnar arnoch o bosibl, neu eich bod wedi cael eich cynghori i wneud hynny fel rhan o raglen ymchwil neu raglen cadw gwyliadwriaeth.

Cofiwch, os oes gennych unrhyw symptomau dylech barhau i drefnu prawf PCR a dilyn y canllawiau hunanynysu pan fo hynny'n briodol.

Mae profion llif unffordd ar gael AM DDIM i bawb yng Nghymru.

Gallwch gael eich profion chi drwy:

Gofynnwyd imi gymryd prawf gwrthgyrff. Allwch chi egluro pam?

Ers 24 Awst 2021, cafodd pawb dros 18 oed gynnig i optio i mewn i gael profion gwrthgyrff wrth iddynt gofrestru i gael prawf adwaith cadwyn polymeras (PCR) ar borthol ar-lein y llywodraeth. Mae unigolion sydd wedi cael eu dewis ar hap, o blith y rheini sy’n optio i mewn ac sy’n profi’n bositif wedi hynny am COVID-19 yn dilyn prawf PCR, yn cael dau brawf gwrthgyrff pigiad bys drwy’r post i’w defnyddio gartref a’u dychwelyd i gael eu dadansoddi. Mae hyn yn rhan o raglen gwrthgyrff ar gyfer y DU gyfan i gefnogi ein dealltwriaeth o effeithiolrwydd y brechlyn ac ymateb imiwnyddol i COVID-19 sy’n cael ei alw yn Fenter Profion Gwrthgyrff PCR ôl-gadarnhaol (PPPATI).

I gael rhagor o wybodaeth am PPPATI ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Beth yw’r rheolau hunanynysu?

Hunanynysu pan mae gennych symptomau, ar ôl profi’n bositif am COVID-19, neu pan fyddwch wedi’ch nodi fel rhywun sydd wedi dod i gysylltiad agos ag achos positif ac wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu gan swyddog olrhain cysylltiadau, yw un o’r pethau pwysicaf y gallwch eu gwneud i ddiogelu eraill. Mae hunanynysu yn helpu i atal pobl sydd wedi cael prawf COVID-19 positif rhag ei basio i’w ffrindiau, eu teulu a’r gymuned ehangach, gan gynnwys eu cydweithwyr. Yng Nghymru, mae’n ofyniad cyfreithiol i chi hunanynysu yn dilyn prawf positif neu wedi i swyddogion olrhain cysylltiadau Profi, Olrhain, Diogelu ofyn ichi wneud hynny (dros y ffôn neu mewn llythyr).

I gael rhagor o wybodaeth am Profi, Olrhain, Diogelu, darllenwch ganllawiau’r strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu.

I gael rhagor o wybodaeth am hunanynysu darllenwch y canllawiau hunanynysu.

Pa gymorth sydd ar gael i wella o COVID-19?

Mae’r term COVID hir yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio arwyddion a symptomau sy'n parhau neu'n datblygu ar ôl COVID-19. Gallai hyn gynnwys blinder, diffyg anadl, effaith ar y galon, neu effeithiau corfforol neu seicolegol.

Mae'n debygol y bydd angen llwybr adsefydlu ar y rhan fwyaf o bobl sydd â COVID hir. Mae gwasanaethau iechyd a gofal yn y gymuned mewn sefyllfa ddelfrydol i ddarparu hyn. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen ichi fynd i'r ysbyty i gael ymchwiliad pellach. Os felly, byddwch yn cael eich cyfeirio gan eich meddyg teulu.

Mae rhagor o wybodaeth yma am y cymorth sydd ar gael, ynghyd â dolenni i gael gwybod mwy am gymorth gan eich bwrdd iechyd lleol a ffynonellau gwybodaeth eraill, gan gynnwys Ap Adfer COVID.

Beth mae’n rhaid i fusnesau a chyflogwyr ei wneud i'm diogelu?

Mae gan fusnesau a chyflogwyr a sefydliadau eraill ddyletswydd i ddiogelu eu gweithwyr a'u cwsmeriaid.

Mae gofyniad cyfreithiol i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill gynnal asesiad risg a chymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws, gan gynnwys cymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod pobl yn cadw pellter o 2 fetr oddi wrth ei gilydd.

Mae amrywiaeth eang o bethau y gallai fod angen ichi eu gwneud i leihau risgiau. Mae’r rhain yn cael eu hesbonio’n fanylach mewn canllawiau ar wahân.

Dylech fod yn ymwybodol bod y gofynion hyn yn ddyletswydd gyfreithiol ac y dylech ddilyn unrhyw reolau sy’n cael eu rhoi ar waith gan eich cyflogwr neu unrhyw fusnesau neu sefydliadau eraill yr ydych yn ymweld â nhw. Gan ddibynnu ar y lleoliad, rhaid i hyn neu fe allai hyn gynnwys:

  • cadw pellter corfforol yn y safle
  • cyfyngu ar niferoedd neu ar faint grŵp
  • darparu manylion cyswllt i gefnogi gwaith olrhain cysylltiadau
  • darparu gwasanaeth gweini wrth y bwrdd
  • cyfyngu ar nifer y bobl mewn mannau cyfyng, fel toiledau
  • defnyddio gorchudd wyneb mewn safleoedd dan do nad ydynt ar agor i’r cyhoedd fel arfer neu os nad yw’n ofyniad cyfreithiol i wneud hynny.
  • dangos y Pàs COVID i gael mynediad.  

Bydd mesurau eraill y bydd busnesau ac eraill yn eu cymryd nad ydynt efallai mor weladwy, er enghraifft os bydd lleoliad yn gwella’r awyru neu’n profi’r staff yn rheolaidd. 

 

Pa gymorth sydd ar gael i fusnesau?

Bydd cymorth ariannol o hyd at £120m ar gael i fusnesau y mae’r cyfyngiadau newydd hyn yn effeithio’n sylweddol arnynt, i gefnogi costau gweithredu penodol, ac eithrio staffio. Bydd y cymorth hwn ar gyfer y cyfnod rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022.

Bydd rhagor o fanylion, gan gynnwys y gwiriwr cymhwysedd, ar gael ar wefan Busnes Cymru o 30 Rhagfyr 2021 ymlaen.

Manylion am y cyllid

Bydd cyllid yn cael ei ddarparu drwy grantiau sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig (NDR) i fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth nad ydynt yn hanfodol (NERHLT) ac y mae’r cyfyngiadau’n effeithio arnynt. Bydd busnesau cofrestredig yn y sectorau NERHLT yng Nghymru yn gymwys am grantiau untro o hyd at £6,000 y safle.    

Yn ogystal, bydd cronfa ddewisol yn cael ei rhedeg gan awdurdodau lleol drwy broses ymgeisio fer i gefnogi busnesau eraill fel unig fasnachwyr, gweithwyr llawrydd a gyrwyr tacsi, a busnesau sy’n cyflogi pobl ond nad ydynt yn talu ardrethi busnes.

Gall busnesau yn y sectorau lletygarwch, hamdden ac atyniadau neu eu cadwyni cyflenwi hefyd wneud cais i Lywodraeth Cymru am hyd at £25,000 o gymorth grant ychwanegol drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd (ERF) sy’n werth £25m. Mae’r elfen hon wedi’i hanelu at fusnesau yn y sectorau lletygarwch, hamdden ac atyniadau a’u cadwyni cyflenwi sy’n gorfod cau o dan y rheoliadau, neu sy’n gweld effaith o dros 60%, neu’n disgwyl hynny yn y dyfodol agos, ar eu trosiant o gymharu â chyfnodau cyfatebol yn 2019 a 2020. 

Bydd y gwiriwr cymhwysedd ar gael ar wefan Busnes Cymru ar 30 Rhagfyr 2021. Bydd grantiau cysylltiedig ag NDR yn dechrau cael eu rhoi, a cheisiadau’n dechrau cael eu gwneud i’r gronfa ddewisol, yn yr wythnos sy’n dechrau ar 10 Ionawr 2022. Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer ERF yn agor yn yr wythnos sy’n dechrau ar 17 Ionawr 2022. Bydd taliadau’n dechrau cyrraedd busnesau o fewn dyddiau.

Grantiau cysylltiedig ag NDR

Bydd awdurdodau lleol yn rhedeg cronfa grantiau cysylltiedig ag NDR i fusnesau NERHLT. Ni fydd proses ymgeisio ar gyfer yr elfen hon ond i gael taliad, rhaid i fusnesau gofrestru â’u hawdurdod lleol i gadarnhau eu manylion. Yna bydd grantiau cysylltiedig ag NDR yn cael eu talu’n uniongyrchol i dalwyr ardrethi fel a ganlyn:

  • Bydd busnesau NERHLT sy’n derbyn Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (SBRR) ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai yn gymwys am daliad o £2,000.
  • Bydd busnesau NERHLT sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000 yn gymwys am daliad o £4,000 os yw’r cyfyngiadau’n effeithio arnynt.
  • Bydd busnesau NERHLT sydd â gwerth ardrethol rhwng £51,001 a £500,000 yn gymwys am daliad o £6,000 os yw’r cyfyngiadau’n effeithio arnynt.
  • Bydd busnesau cymwys yn y gadwyn gyflenwi yn gymwys am gymorth os ydynt yn gweld gostyngiad o fwy na 40% yn eu trosiant yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.

O ganlyniad i’r cyfyngiadau sydd wedi’u cyflwyno ac i ganolbwyntio ar ddarparu’r cyllid brys hwn, mae’r Gronfa Datblygu ac Adfer Busnesau sy’n werth £35m wedi’i thynnu’n ôl. Serch hynny, bydd ymrwymiadau sydd eisoes o dan gontract yn cael eu gwireddu.

Cronfa ddewisol

Bydd awdurdodau lleol hefyd yn rhedeg cronfa ddewisol drwy broses ymgeisio fer. Bydd unig fasnachwyr, gweithwyr llawrydd a gyrwyr tacsi yn gallu gwneud cais am £500 a bydd busnesau sy’n cyflogi pobl ond nad ydynt yn talu ardrethi busnes yn gallu gwneud cais am £2,000.

Y Gronfa Cadernid Economaidd (ERF)

Bydd yr elfen ERF o’r cyllid yn cael ei rhedeg gan Lywodraeth Cymru i ddarparu grantiau dewisol i sectorau lletygarwch, hamdden ac atyniadau a’u cadwyni cyflenwi drwy broses ymgeisio ac yn amodol ar feini prawf cymhwysedd.

Mae’r ERF wedi’i hanelu at y canlynol:

  • Busnesau yr effeithir arnynt rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022 ac sydd wedi’u cau gan reoliadau ar 27 Rhagfyr 2021.
  • Mannau digwyddiadau ac atyniadau yr effeithir yn ddifrifol arnynt rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022.
  • Busnesau eraill sy’n gweld effaith o dros 60% ar eu trosiant rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022 o ganlyniad uniongyrchol i gyfyngiadau.

Mae’r ERF ar agor i ficrofentrau sydd â rhwng 1 a 9 o gyflogeion cyfwerth â llawn amser (FTE) a busnesau bach a chanolig sydd â hyd at 249 o gyflogeion FTE, gan gynnwys elusennau a mentrau cymdeithasol.

Dyma’r grantiau sydd ar gael:

Cyfwerth â llawn amser (FTE)

Busnesau wedi’u cau gan reoliadau ar 27.12.21

Mannau digwyddiadau ac atyniadau

Busnesau eraill sydd â chyfyngiadau

1-3

£5,000

£3,500

£2,500

4-9

£10,000

£7,000

£5,000

10-49

£15,000

£12,000

£7,500

50-99

£20,000

£15,000

£10,000

100+

£25,000

£20,000

£15,000

Edrychwch ar wefan Busnes Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cyllid sydd ar gael, yn ogystal â chyngor a chymorth amrywiol arall ynghylch dechrau neu dyfu busnes, gan gynnwys Cronfa Dyfodol yr Economi.

Mae Banc Datblygu Cymru yn parhau i ddarparu cyllid busnes hyblyg ar gyfer cwmnïau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, yn amrywio o £1,000 i £10 miliwn.

Bydd pob busnes manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o £500,000 neu lai yn cael rhyddhad ardrethi annomestig o 100% yn 2021-22.   Darllenwch y canllawiau ar y cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch.

Pa gymorth sydd ar gael os na allaf fynd i weithio?

Gall pobl wneud cais i dderbyn taliad o £750 os ydynt wedi cael prawf coronafeirws positif neu os yw gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru neu Ap COVID-19 y GIG wedi dweud wrthynt am hunanynysu.

Mae’r taliad ar gael i bobl ar incwm isel nad ydynt yn gallu gweithio gartref ac a fyddai’n colli incwm o ganlyniad i hunanynysu. I fod yn gymwys, mae’n rhaid i bobl fod yn hunanynysu ac yn derbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-dal penodedig arall.

Gall pobl hefyd wneud cais i'w hawdurdod lleol am daliad disgresiwn os nad ydynt yn gallu gweithio gartref a'u bod yn colli incwm ac yn wynebu caledi ariannol. Mae rhieni a gofalwyr plant y gofynnwyd iddynt hunanynysu drwy eu lleoliad addysg hefyd yn gallu gwneud cais.

Mae’r cynllun Taliad Hunanynysu ar waith ers 16 Tachwedd 2020. Mae pobl yn gallu gwneud cais am y taliadau drwy wefan eu hawdurdod lleol, a rhaid gwneud hawliad o fewn 21 diwrnod i’r cyfnod hunanynysu ddod i ben. Gweler tudalen y cynllun cymorth hunanynysu i gael rhagor o wybodaeth.

Efallai y bydd pobl sy'n hunanynysu hefyd yn gallu cael cymorth gan fudiadau gwirfoddol yn eu hardal os nad oes ganddynt unrhyw ffrindiau neu deulu a all eu helpu i gael bwyd a hanfodion eraill.

Oes rhaid i mi weithio gartref?

O dan y rhan fwyaf o amgylchiadau, rhaid ichi weithio gartref lle bo'n rhesymol ymarferol ichi wneud hynny. Yn unol â’u dyletswyddau i gymryd mesurau rhesymol, rhaid i gyflogwyr alluogi neu ganiatáu i’w gweithwyr weithio gartref, neu ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny, oni bai bod anghenion busnes neu iechyd meddwl a lles clir a fyddai’n golygu na fyddai’n ymarferol iddynt weithio gartref.

Fodd bynnag, os na allwch weithio gartref, ond yn gallu gweithio'n ddiogel yn eich gweithle, cewch wneud hynny.

Mae ein canllawiau ar gyfer cyflogwyr, busnesau a sefydliadau yn nodi na ddylid ei gwneud yn ofynnol i weithwyr ddychwelyd i weithle, na rhoi pwysau arnynt i wneud hynny, os nad oes achos busnes clir dros wneud hynny. Dylai cyflogwyr sy'n ystyried ei gwneud yn ofynnol i'w staff ddychwelyd i’r gweithle asesu'n gyntaf a allai trefniadau amgen ddiwallu'r rhan fwyaf o anghenion y cyflogwr. Dylid trafod hyn gyda’r staff a/neu gynrychiolwyr staff. Dylai cyflogwyr gofnodi’r holl drafodaeth a’r penderfyniadau yn llawn yn yr asesiad risg COVID-19, a rhannu hyn gyda’r staff a/neu gynrychiolwyr staff.

Rhaid i gyflogwyr sicrhau bod staff yn gallu gweithio gartref mewn ffordd rhesymol ymarferol. Gallai hyn gynnwys rhoi gliniaduron neu ffonau symudol i staff a hwyluso cyfathrebu â phawb.

Dylai cyflogwyr drafod trefniadau gweithio gartref gyda'r gweithlu, a gallai hynny ddigwydd drwy eu hundebau llafur lle bo'n briodol. Dylent hefyd ymgyfarwyddo â chanllawiau gan ACAS a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys canllawiau ar weithio gartref yn ddiogel ac ar arferion rheoli ar gyfer gweithio gartref.

Mae'n bwysig iawn, os oes gennych symptomau coronafeirws, nad ydych yn dod i'r gwaith; dylech hunanynysu a chael prawf PCR o fewn 24 awr.

Dydy fy nghyflogwr ddim yn caniatáu imi weithio gartref, rwy'n poeni y byddaf yn cael dirwy, beth allaf ei wneud?

Rhaid i gyflogwyr ganiatáu neu ei gwneud yn ofynnol i'w gweithwyr weithio gartref oni bai bod anghenion busnes neu anghenion lles clir a fyddai’n golygu na fyddai’n ymarferol iddynt weithio gartref, yn unol â’u dyletswyddau i gymryd mesurau rhesymol.

Gallai fod angen busnes neu les gwirioneddol sy'n golygu na ellir gwneud eich swydd o gartref. Rhaid i'ch cyflogwr ddangos nad oes unrhyw ddewisiadau rhesymol ymarferol eraill ar gael iddynt, ar wahân i'w gwneud yn ofynnol i chi fynychu eich gweithle yn bersonol.

Os ydych yn credu y gallwch weithio gartref, dylech drafod hyn gyda'ch cyflogwr neu undeb llafur yn y lle cyntaf. Os na allwch ddod i gytundeb, dylech gysylltu â'ch undeb llafur neu ofyn am gyngor gan ACAS.

Beth os ydw i'n poeni am y mesurau diogelwch yn fy ngweithle?

Mae'r cyfyngiadau coronafeirws yn gosod rhwymedigaethau ar bobl sy'n gyfrifol am safleoedd lle mae gwaith yn digwydd i gymryd mesurau rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i fusnesau ac eraill ddeall difrifoldeb y sefyllfa yr ydym yn ei hwynebu fel cymdeithas a bydd yn cymryd y camau rhesymol sy’n angenrheidiol.

Os na allwch weithio gartref, boed hynny oherwydd natur eich swydd neu oherwydd effeithiau andwyol ar eich iechyd meddwl a'ch lles, a bod gennych bryderon bod eich iechyd a'ch diogelwch yn cael eu peryglu yn y gwaith, dylech drafod hyn gyda'ch cyflogwr neu undeb llafur yn y lle cyntaf. Os na allwch ddod o hyd i benderfyniad, dylech gysylltu â'ch undeb llafur neu ofyn am gyngor gan ACAS.

Os oeddech yn gwarchod gynt neu'n poeni am wynebu mwy o risg o symptomau difrifol, gallwch gwblhau asesiad risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu. Dylech drafod y canlyniadau gyda'ch cyflogwr a allai gymryd camau priodol. Dylech hefyd siarad â chynrychiolydd eich undeb llafur os ydych yn aelod o undeb.

Beth yw’r rheolau ynglŷn â rhannu car

Os na allwch weithio gartref a bod angen ichi deithio i’ch gwaith, dylech ystyried sut i wneud hynny yn y ffordd fwyaf diogel posibl. Gweler Lefel rhybudd 2: canllawiau i'r cyhoedd ac adroddiad Grŵp Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru ar sgriniau plastig mewn tacsis a cherbydau hurio preifat i gael rhagor o wybodaeth.

Pan na ellir ei osgoi, dylech gymryd camau i leihau risg y coronafeirws, er enghraifft drwy gynyddu pellter corfforol cymaint â phosibl, agor ffenestri ar gyfer y daith gyfan neu yn rheolaidd am 10 eiliad ar y tro a gwisgo gorchudd wyneb a chymryd prawf llif unffordd ddwywaith yr wythnos os nad oes gennych unrhyw symptomau.

Beth yw’r sefyllfa mewn lleoliadau gofal plant, gwaith chwarae ac addysg?

Er y byddem yn disgwyl i leoliadau gofal plant a gwaith chwarae fod yn gweithredu mewn ffordd mor agos i'r arferol â phosibl, bydd angen iddynt barhau i asesu eu darpariaeth a sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r canllawiau ar gyfer eu sectorau.

Darllenwch ganllawiau pellach:

Canllawiau COVID-19 ar gyfer Gofal Plant a Gwaith Chwarae

Gweithrediadau ysgol: coronafeirws

Canllawiau gweithredu diogel: darparwyr dysgu ôl-16

Ble bydd hi’n ofynnol imi ddangos tystiolaeth fy mod wedi fy mrechu’n llawn neu wedi cael prawf llif unffordd negatif yn y 24 awr ddiwethaf er mwyn cael mynediad?

Mae’n ofynnol i unrhyw un dros 18 mlwydd oed ddangos Pàs COVID y GIG i brofi eu bod naill ai wedi'u brechu'n llawn neu wedi cael prawf dyfais llif unffordd negatif yn ddiweddar a gymerwyd yn y 24 awr ddiwethaf, er mwyn mynd i mewn i'r lleoliadau a'r digwyddiadau canlynol:

  • Theatrau
  • Sinemâu
  • Neuaddau cyngerdd

Mae gwybodaeth am sut i gael eich pàs i’w gweld yma

Gellir archebu profion dyfais llif unffordd drwy wefan Llywodraeth Cymru yma: Cael profion llif unffordd COVID-19 cyflym os nad oes gennych symptomau.

Fel y rhai sy’n mynd i ddigwyddiadau, mae cael y ddau frechiad (a’r pigiad atgyfnerthu pan fyddwch yn cael gwahoddiad) os gallwch chi yn gallu bod yn eithriadol o bwysig. Mae'r brechlyn yn cynnig amddiffyniadau sylweddol nid yn unig i chi ond hefyd i eraill, gan gynnwys y bobl yr ydych yn poeni amdanynt (hyd yn oed os oeddech yn ansicr a heb fanteisio ar y cynnig eto, nid yw'n rhy hwyr).

Defnyddio’r Pàs COVID a phrofion dyfais llif unffordd negatif yw un ffordd y gellir lleihau’r risg y bydd pobl heintus yn mynd i leoliadau a lledaenu coronafeirws. Dylech wneud prawf llif unffordd adref cyn mynd (hyd yn oed os ydych wedi cael cwrs llawn y brechlyn) er mwyn diogelu eich hun, ac eraill, a sicrhau diogelwch y digwyddiad.

Cofiwch, os oes gennych unrhyw symptomau, ni ddylech fynd i'r digwyddiad yn y lle cyntaf, dylech hunanynysu a threfnu prawf PCR cyn gynted â phosibl.

Beth yw’r rheolau ar gyfer corau?

Y nifer mwyaf o bobl a gaiff gymryd rhan mewn ymarfer côr neu fand yw 30 o dan do a 500 yn yr awyr agored. Mae’n rhaid i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill, gan gynnwys trefnwyr gweithgareddau a digwyddiadau, gynnal asesiad risg coronafeirws pwrpasol o’u safle a’u digwyddiadau a chymryd mesurau rhesymol i leihau’r tebygolrwydd o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a’i ledaenu, yn seiliedig ar yr asesiad risg pwrpasol hwnnw.

Mae canu neu lafarganu yn cynyddu’r aerosolau sy’n cael eu gollwng i’r awyr o gegau pobl. Drwy ganu llai neu roi’r gorau i ganu, gellir helpu i leihau’r perygl o drosglwyddo’r haint.

Os bydd canu neu lafarganu yn digwydd, gan gynnwys fel rhan o gôr, dylid rhoi mesurau lliniaru eraill ar waith fel rhan o’r asesiad risg penodol ar gyfer COVID-19. Gall mesurau ymarferol gynnwys gwella’r awyru, symud y gweithgarwch allan i’r awyr agored, cynyddu'r gofod rhwng pobl, neu ganiatáu i lai o bobl fod yn bresennol.

Fe allai’r angen i wisgo gorchudd wyneb fod yn un o’r mesurau rhesymol a nodir fel rhan o’ch asesiad risg penodol ar gyfer COVID-19. Fodd bynnag fe fydd hyn yn ddibynnol ar eich asesiad chi o’r holl risgiau a’r camau lliniaru y gallwch eu rhoi ar waith yn ymarferol.

Beth yw'r rheolau ar gyfer teithwyr domestig sy’n teithio i mewn neu allan o Gymru neu i rannau eraill o’r DU?

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar deithio i mewn neu allan o Gymru cyn belled â'ch bod yn teithio i wlad, neu o wlad, sydd o fewn y DU neu'r Ardal Deithio Gyffredin ehangach (Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel).

Mae'n bwysig deall bod y rheolau yma yng Nghymru ychydig yn wahanol. 

Mae'n ddyletswydd gyfreithiol yng Nghymru i wisgo gorchudd wyneb ym mhob man cyhoeddus dan do. Mae'r gofyniad hwn yn berthnasol i bob math o drafnidiaeth gyhoeddus (heblaw trafnidiaeth awyr agored), tacsis a cherbydau hurio preifat ac mae'n cynnwys ardaloedd dan do mewn canolfannau trafnidiaeth megis gorsafoedd bysiau, gorsafoedd trenau, meysydd awyr a phorthladdoedd fferi. 

Os ydych yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus byddem yn eich annog i gynllunio eich taith. Os ydych yn dymuno osgoi cyfnodau prysur gallwch ddefnyddio apiau, fel gwiriwr capasiti Trafnidiaeth Cymru, i osgoi teithio yn ystod cyfnodau prysur.  Mae’n synhwyrol osgoi teithio i mewn neu allan o ardaloedd sydd â chyfraddau uwch o achosion, os gallwch.

Nid ydym yn cyflwyno unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ar deithio o fewn y DU ar hyn o bryd, ond ein cyngor clir yw na ddylai pobl deithio i ardaloedd lle mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn uchel os oes modd osgoi hynny. Hyd yn oed os ydych wedi cael eich brechu, mae’r risg o ddal COVID-19 yn uwch yn yr ardaloedd hynny, felly dylech osgoi teithio iddynt os oes modd.

Mae rheolau gwahanol yn berthnasol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae’n bosibl fod cyfyngiadau ar deithio i mewn ac allan o wahanol leoedd yno. Dylech edrych beth yw’r rheolau cyn teithio i'r gwledydd hynny, ac i Iwerddon ac Ynysoedd y Sianel, oherwydd y gallai cyfyngiadau fod ar waith.

Peidiwch â theithio os oes gennych symptomau COVID-19 neu os ydych yn hunanynysu. Trefnwch brawf a dilynwch y canllawiau.

Byddem yn annog unrhyw un sy’n bwriadu dod i Gymru o ran arall o’r DU i brofi eu hunain, gan ddefnyddio’r profion llif unffordd COVID-19 am ddim, cyn iddynt deithio. Dim ond y rhai sy’n cael canlyniad prawf negatif ac sydd heb symptomau’r coronafeirws ddylai deithio. Dylai pawb sy’n dod i Gymru o ardaloedd eraill  ddod â phecynnau profion llif unffordd gyda nhw i barhau i brofi eu hunain yn rheolaidd tra byddant ar wyliau.

Mae pecynnau profion llif unffordd ar gael o bwyntiau casglu lleol ledled y DU. Gellir cael rhagor o wybodaeth yn: Profion llif unffordd cyflym a rheolaidd ar gyfer y coronafeirws (COVID-19) (ar www.nhs.uk)

Beth yw’r rheolau ar deithio rhyngwladol?

Mae mesurau i atal heintiau coronafeirws newydd rhag cael eu mewnforio – yn enwedig amrywiolion newydd – o ganlyniad i deithio rhyngwladol yn bwysig a byddant yn parhau i fod yn rhan o'r mesurau sydd eu hangen ar lefel rhybudd sero.

Mae ymddangosiad yr amrywiolyn Omicron yn ddatblygiad difrifol yn y pandemig parhaus ac mae angen i bob un ohonom gymryd camau i ddiogelu ein hunain.

Rydym yn parhau i gynghori’n gryf yn erbyn unrhyw deithiau rhyngwladol nad ydynt yn hanfodol.

Os oes angen i chi deithio dramor, darllenwch yr wybodaeth i gael gwybod beth mae angen ichi ei ystyried cyn mynd, ac edrychwch ar y canllawiau ar gyfer teithwyr sy’n cyrraedd Cymru - Rheolau ar gyfer teithio dramor ac i mewn ac allan o Gymru.

Title
Brechu
Body

Mae brechlynnau diogel ac effeithiol yn cynnig amddiffyniad i unigolion rhag COVID-19. Maent hefyd yn cynnig amddiffyniad gwell i’n hanwyliaid a'n cymunedau.

Bydd brechu'r boblogaeth gyda brechlyn diogel ac effeithiol yn:

  • diogelu pobl rhag COVID-19
  • ein galluogi i lacio’r cyfyngiadau pan ddaw yr amser
  • ein helpu i ddychwelyd i fywyd mwy normal

Ar hyn o bryd mae 3 brechlyn COVID-19 ar gael, sydd wedi’u cymeradwyo fel brechlynnau diogel gan Reoleiddiwr Meddyginiaethau’r DU:

  • Pfizer-BioNTech
  • Rhydychen-AstraZeneca
  • Moderna

Yn unol â chyngor arbenigol y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), bydd y GIG yn sicrhau bod y brechlyn priodol ar gael ar yr adeg gywir i unigolion.

Darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am y brechlyn COVID-19 ar Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Brechlyn Covid i fenywod beichiog

Mae brechu'n cael ei gynnig i fenywod beichiog yr un pryd â gweddill y boblogaeth, yn seiliedig ar oedran a risg glinigol.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr wedi creu offeryn gwneud penderfyniadau am frechlynnau COVID-19 a beichiogrwydd.

Os ydych yn feichiog, mae’n well ichi gael y brechlyn Pfizer/BioNTech neu’r brechlyn Moderna. Mae’r cyngor hwn yn cael ei roi oherwydd eu bod wedi cael eu defnyddio’n fwy eang yn ystod beichiogrwydd mewn gwledydd eraill ac ni nodwyd unrhyw faterion o safbwynt diogelwch.

Dylai menywod beichiog sydd wedi dechrau ar gwrs o frechlyn gael yr un math o frechlyn i gwblhau’r cwrs. Gallwch siarad gyda'r person sy'n rhoi'r brechlyn neu weithiwr iechyd proffesiynol am y brechiad os oes unrhyw bryderon gennych.

Cael eich apwyntiad am frechlyn

Mae’r GIG yn brechu pobl yn nhrefn risg glinigol (ar GOV.UK), yn seiliedig ar grwpiau oedran, o'r hen i'r ifanc. Mae risg rhai pobl o gymhlethdodau difrifol o COVID-19 yn llawer uwch nag eraill. Dyna pam cafodd y rhaglen frechlyn ei blaenoriaethu i'w diogelu nhw yn gyntaf. 

Pan fydd hi'n amser i chi gael y brechlyn, bydd y GIG yn cysylltu gyda chi. Byddant yn cysylltu gyda chi drwy ffonio neu anfon llythyr.

Mae pob bwrdd iechyd bellach yn gwahodd pawb sy’n 16 oed neu’n hŷn i gael eu brechu. Os nad ydych wedi cael gwahoddiad, neu eich bod yn credu eich bod wedi eich colli, cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol. Mae byrddau iechyd lleol yn cynnig clinigau brechu galw i mewn felly gofynnwch am fanylion.

Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau: mae'r brechlyn am ddim i bawb. 

Ni fydd neb fyth yn gofyn am daliad na manylion banc.

Cael ail ddos y brechlyn

Bydd pawb dros 18 oed (gan gynnwys y rheini sydd o fewn 3 mis i’w pen-blwydd yn 18 oed) yn cael dau ddos o'r brechlyn. Byddwch yn cael lefel uchel o amddiffyniad ar ôl y dos cyntaf.  Byddwch yn cael eich galw yn ôl am eich ail ddos o fewn 12 wythnos o'r cyntaf.

Cyhoeddodd y JCVI y bydd unigolion sy’n 16 neu’n 17 oed yn cael cynnig dos cyntaf o’r brechlyn Pfizer/BioNTech.

Datganiad JCVI ar frechiadau COVID-19 i blant a phobli ifanc 12 i 17 oed: 4 Awst 2021 - GOV.UK (www.gov.uk)

Pan fyddwch yn cael eich brechlyn COVID-19, byddwch yn cael cerdyn imiwneiddio GIG Cymru maint cerdyn credyd. Caiff y cerdyn ei ddefnyddio i gofnodi gwybodaeth ynghylch eich brechiad, eich apwyntiadau ac mae'n cynnwys cyngor ar sut i adrodd am unrhyw sgil effeithiau.

Hunanynysu

Os ydych chi wedi cael brechlyn y coronafeirws ond bod gennych chi symptomau neu’ch bod wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu, mae’n rhaid i chi hunanynysu o hyd.

Ar ôl eich gwyliau

Bydd angen i chi barhau i ddilyn y rheolau ar ôl derbyn y brechlyn er mwyn diogelu eich hun a phobl eraill.