Dewis Iaith
  • English
    Official
  • Cymraeg
    Cymraeg
  • Default
    Reset
  • Afrikaans
    Afrikaans
  • Albanian
    shqip
  • Amharic
    ኣማርኛ
  • Arabic
    عربي
  • Armenian
    Հայերէն
  • Azerbaijani
    آذربايجانجا ديلي
  • Basque
    euskara
  • Bengali
    বাংলা (baɛṅlā)
  • Belarusian
    Беларуская мова
  • Bosnian
    bosanski
  • Bulgarian
    български (bãlgarski)
  • Catalan
    català
  • Cebuano
    Sinugboanon
  • Chichewa
    Chicheŵa
  • Chinese Simplified
    中国简化
  • Chinese Traditional
    中國傳統
  • Corsican
    corsu
  • Croatian
    Hrvatski
  • Czech
    čeština
  • Danish
    dansk
  • Dutch
    Nederlands
  • English
    English
  • Esperanto
    Esperanto
  • Estonian
    eesti keel
  • Filipino
    filipino
  • Finnish
    suomi
  • French
    français
  • Frisian (West)
    Frysk
  • Galician
    Galego
  • Georgian
    ქართული (kʻartʻuli)
  • German
    Deutsch
  • Greek
    ελληνικά
  • Gujarati
    ગુજરાતી
  • Haitian Creole
    Kreyòl ayisyen
  • Hausa
    حَوْس
  • Hawaiian
    ʻōlelo Hawaiʻi
  • Hebrew
    עִבְרִית
  • Hindi
    हिन्दी
  • Hmong
    Hmong
  • Hungarian
    Hungarian magyaChichewar
  • Icelandic
    Íslenska
  • Igbo
    Igbo
  • Indonesian
    Bahasa Indonesia
  • Irish (Gaelic)
    Gaeilge
  • Italian
    italiano
  • Japanese
    日rus本語
  • Javanese
    baṣa Jawa
  • Kannada
    ಕನ್ನಡ
  • Kazakh
    Қазақ тілі
  • Khmer
    ភាសាខ្មែរ
  • Korean
    한국어
  • Kurdish
    Kurmanji
  • Kyrgyz
    قىرعىز
  • Lao
    ພາສາລາວ
  • Latin
    Lingua Latina
  • Latvian
    latviešu valoda
  • Lithuanian
    lietuvių kalba
  • Luxembourgish
    Lëtzebuergesch
  • Macedonian
    македонски
  • Malagasy
    Fiteny Malagasy
  • Malay
    Bahasa melayu
  • Malayalam
    മലയാളം
  • Maltese
    Malti
  • Maori
    te Reo Māori
  • Marathi
    मराठी
  • Mongolian
    Монгол
  • Myanmar (Burmese)
    ဗမာစကား
  • Nepali
    नेपाली
  • Norwegian
    norsk
  • Pashto
    پښتو
  • Persian
    فارسى
  • Polish
    polski
  • Portuguese
    português
  • Punjabi
    ਪੰਜਾਬੀ
  • Romanian
    limba
  • Russian
    Русский язык
  • Samoan
    Gagana Samoa
  • Scots Gaelic
    Gàidhlig
  • Serbian
    српски
  • Sesotho
    seSotho
  • Shona
    chiShona
  • Sindhi
    سنڌي
  • Sinhala
    සිංහල
  • Slovak
    slovenčina
  • Slovenian
    slovenščina
  • Somali
    af Soomaali
  • Spanish
    español
  • Sundanese
    Basa Sunda
  • Swahili
    Kiswahili
  • Swedish
    svenska
  • Tamil
    தமிழ்
  • Tajik
    тоҷики
  • Telugu
    తెలుగు
  • Thai
    ภาษาไทย
  • Turkish
    Türkçe
  • Ukrainian
    Українська
  • Urdu
    اردو
  • Uzbek
    أۇزبېك ﺗﻴﻠی o\'zbek tili ўзбек тили
  • Vietnamese
    tiếng việt
  • Yiddish
    ײִדיש
  • Xhosa
    isiXhosa
  • Yoruba
    Yorùbá
  • Zulu
    isiZulu
Helpu ffoaduriaid i ddeall eu hawliau

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data

Dan y Rheoliad Cyffredinol, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn gennych chi. Rydym yn defnyddio meddalwedd amgryptio i ddiogelu eich data, ac atal unrhyw fynediad heb ei awdurdodi atynt.

Nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw drydydd parti nag unrhyw adran arall o'r Llywodraeth.

Eich hawliau

Dan y Rheoliad Cyffredinol, mae gennych hawliau fel unigolion ac mae modd i chi eu harfer mewn perthynas â'r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi. Y rhain yw;

  • yr hawl i gael mynediad at gopi o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y data personol a gedwir amdanoch chi;
  • yr hawl i wrthwynebu prosesu'r data sydd sy’n achosi niwed neu drallod neu sy’n debygol o wneud hynny;
  • yr hawl i rwystro prosesu'r data i'w marchnata'n uniongyrchol;
  • yr hawl i wrthwynebu gwneud penderfyniadau drwy ddull awtomatig;
  • yr hawl mewn amgylchiadau penodol i gywiro, rhwystro, dileu neu ddinistrio unrhyw ddata personol gwallus; a hefyd
  • yr hawl i geisio am iawndal am ddifrod a achosir wrth dorri'r Ddeddf.

Gallwch ddarllen rhagor am yr hawliau hyn yma.

Ymwelwyr â’n gwefannau

Pan fyddwch yn ymweld â www.sanctuary.gov.walesrydym yn defnyddio ‘Google Analytics’ gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Ein bwriad wrth wneud hyn yw canfod nifer yr ymwelwyr â rhannau amrywiol y wefan, er enghraifft. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei phrosesu'n gwbl ddienw ac nid oes modd adnabod unrhyw un yn unigol. Nid ydym ni yn ceisio canfod pwy sy'n ymweld â'n gwefan, ac nid ydym yn caniatáu i Google wneud hynny chwaith. Os byddwn am gasglu gwybodaeth adnabyddadwy bersonol drwy ein gwefan, byddwn yn agored am hyn. Wrth gasglu gwybodaeth bersonol, byddwn yn nodi hynny'n glir ac yn egluro beth rydym yn bwriadu ei wneud â’r wybodaeth hon.
 

Pobl sy’n Anfon E-bost Atom

Rydym yn defnyddio Diogelwch Haen Cludo (TLS) i amgryptio a diogelu traffig e-bost yn unol â gofynion y Llywodraeth. Os nad yw eich gwasanaeth e-bost yn cefnogi Diogelwch Haen Cludo, dylech fod yn ymwybodol ei bod yn bosibl na fydd modd i’r negeseuon e-bost rydym yn eu hanfon neu'n eu cael drosglwyddo’n ddiogel.
 

Byddwn hefyd yn monitro unrhyw negeseuon e-bost sy'n cael eu hanfon atom, gan gynnwys atodiadau, am feirysau neu feddalwedd maleisus. Dylech fod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw e-bost y byddwch yn ei anfon yn cydymffurfio â’r gyfraith.

Cwynion neu ymholiadau

Rydym yn ceisio bodloni'r safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Felly, rydym yn trin unrhyw gwynion a ddaw i law ynghylch hyn yn wirioneddol o ddifrif. Cysylltwch â ni os ydych yn credu ein bod yn casglu neu'n defnyddio gwybodaeth mewn modd annheg, camarweiniol neu amhriodol. Byddem hefyd yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella ein gweithdrefnau.

Cafodd y polisi preifatrwydd hwn ei ddrafftio i fod yn gryno ac yn eglur. Nid yw'n cynnwys holl fanylion pob agwedd ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn fodlon darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol neu eglurhad yn ôl yr angen. Dylid anfon unrhyw geisiadau am hyn i'r cyfeiriad isod.

Dolenni i wefannau eraill

Nid yw'r polisi preifatrwydd hwn yn cynnwys y dolenni sy'n arwain at wefannau eraill. Rydym yn eich annog i ddarllen y datganiadau preifatrwydd ar y gwefannau eraill y byddwch yn ymweld â nhw.

Dewis

Mae’r wefan Noddfa yn defnyddio cronfa ddata Dewis Cymru i helpu defnyddwyr i ddod o hyd i wybodaeth am wasanaethau yn eu hardal. Dim ond gwybodaeth ddienw sy’n nodi ble y mae defnyddwyr yn chwilio am wasanaethau yr ydym yn ei chofnodi. Nid oes unrhyw ddata am wasanaethau y ceir mynediad atynt yn cael eu storio gan Lywodraeth Cymru.

Newidiadau i’r polisi Preifatrwydd hwn

Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi fersiwn ddiwygiedig ar y dudalen hon. Mae ail-edrych ar y dudalen hon yn rheolaidd yn sicrhau eich bod wastad yn ymwybodol pa wybodaeth yr ydym yn ei chasglu a sut yr ydym yn ei rhannu. 

Cafodd y polisi preifatrwydd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 8 Mai 2019.

Sut i gysylltu â ni

Os hoffech ofyn am wybodaeth am ein polisi preifatrwydd, gallwch anfon e-bost atom yn cymorthigwsmeriaid@llyw.cymruneu ysgrifennu at:

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

Caerdydd

CF10 3NQ.

Adborth

Rydym yn croesawu eich adborth. Os byddwch yn cysylltu â ni i ofyn am wybodaeth, efallai y bydd yn rhaid i ni gysylltu ag adrannau eraill o'r Llywodraeth i ddod o hyd i’r wybodaeth honno. Os yw eich cwestiwn yn dechnegol, efallai y bydd yn rhaid i ni ei anfon at ein cyflenwyr technoleg.

Ni fyddwn yn rhoi eich gwybodaeth bersonol i unrhyw un wrth ymdrin â’ch ymholiad, oni bai y byddwch wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Ar ôl i ni ymateb i'ch ymholiad, byddwn yn cadw cofnod o’ch neges at ddibenion archwilio.

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'ch data, ysgrifennwch atom gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Dyma fanylion Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

Caerdydd

CF10 3NQ. E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru