Mae’r adran hon o’r wefan hefyd yn egluro pethau y mae angen i chi eu gwybod am Gymru a Llywodraeth Cymru.
Mae Cymru yn un o bedair gwlad yn y Deyrnas Unedig. Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yw gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.
Mae gan Gymru ei Llywodraeth ei hun o'r enw ‘Llywodraeth Cymru’. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb am addysg, gofal iechyd a thrafnidiaeth. Mae hefyd yn helpu pobl i gyd-dynnu'n heddychlon yn y gymuned. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gyfrifol am dai. Caiff y Llywodraeth ei harwain gan Brif Weinidog Cymru. Mark Drakeford yw ei enw.
Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am rai pethau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys llety lloches a phenderfynu pwy sy'n cael ei gydnabod yn ffoadur. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn gyfrifol am yr heddlu, taliadau lles, rheolau cyflogaeth a deddfau mewnfudo. Caiff Llywodraeth y DU ei harwain gan y Prif Weinidog. Boris Johnson yw ei enw.
Mae gan Gymru iaith ei hun
Mae gan Gymru ei hiaith a'i diwylliant ei hun. Cymraeg yw enw’r iaith ac fe’i siaredir gan tuag 20% o’r boblogaeth. ‘Saesneg’ yw’r iaith a siaredir fwyaf yng Nghymru.
Mae pobl o wahanol ddiwylliannau a chenhedloedd yn byw ym mhob rhan o Gymru. Mae gan Gymru hanes hir o groesawu pobl o bob rhan o'r byd.
Mae Cymru'n falch o groesawu pobl o wahanol ddiwylliannau, crefyddau a chefndiroedd ac rydym am i bob un ohonynt alw Cymru yn gartref iddynt. Credwn fod y gymysgedd o wahanol ddiwylliannau wedi gwneud Cymru hyd yn oed yn well.
Gobeithiwn y gallwch chi hefyd helpu i wella Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae Cymru'n rhan fach o'r DU, o'i chymharu â Lloegr. Mae Cymru'n gartref i 3.1 miliwn o bobl. Caerdydd yw ein prifddinas. Gelwir diwrnod cenedlaethol Cymru yn Ddydd Gŵyl Dewi, ac mae’n cael ei ddathlu ar 1 Mawrth bob blwyddyn. Symbolau Cymru yw'r ddraig goch, cennin Pedr a’r genhinen.
Ar draws y DU gyfan, defnyddir y bunt sterling (£) fel yr arian swyddogol. Mae pen y Frenhines Elizabeth II ar bob nodyn a darn arian mewn cylchrediad.
Mae Cymru wedi'i rhannu'n 22 ardal ddaearyddol a elwir yn siroedd neu fwrdeistrefi. Rheolir y siroedd hyn gan awdurdodau lleol (a elwir hefyd yn Gynghorau). Mae gan gynghorau lawer o gyfrifoldebau, sy'n cael eu hesbonio ar y dudalen 'Eich Ardal Leol'.
Mae gan Gymru hanes cyfoethog hefyd y gellir ei archwilio ar-lein, neu mewn amgueddfeydd a chestyll ledled y wlad.