Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu cynllun i ddisgrifio sut y byddwn yn cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches dros y blynyddoedd nesaf. Y cynllun Cenedl Noddfa yw’r enw arno. Mae’r cynllun llawn i’w weld yma.
Byddwn yn:
- Sicrhau bod ffoaduriaid yn gallu dod o hyd i lety newydd pan ydynt yn gadael llety lloches.
- Cynorthwyo ceiswyr lloches i gael llety lloches o ansawdd da gan Lywodraeth y DU.
- Cynorthwyo ffoaduriaid i gael mynediad at gyflogaeth neu sefydlu eu busnes eu hunain.
- Helpu pobl sy’n ceisio noddfa i osgoi tlodi.
- Hyrwyddo Llywodraeth Cymru fel lle i ffoaduriaid weithio.
- Helpu ffoaduriaid neu geiswyr lloches sydd wedi goroesi cam-drin domestig i gael cymorth.
- Ceisio atal pobl sy’n ceisio noddfa rhag dod yn ddioddefwyr caethwasiaeth neu fasnachu pobl.
- Sicrhau bod anghenion iechyd pobl sy’n ceisio noddfa’n cael eu deall a lleihau rhwystrau i ofal iechyd.
- Helpu plant i gael dechrau iach mewn bywyd.
- Lleihau’r cyflyrau iechyd meddwl a brofir gan bobl sy’n ceisio noddfa.
- Hyrwyddo cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
- Helpu ysgolion i gynorthwyo dysgwyr i gael addysg dda, atal bwlio a darparu gwasanaethau cwnsela.
- Annog mwy o deuluoedd i ddefnyddio cyfleoedd addysg y ‘Cyfnod Sylfaen’, ‘Dechrau’n Deg’ a ‘Teuluoedd yn Gyntaf’.
- Gwneud yn siŵr eich bod yn cael mynediad at gyfleoedd i ddysgu ieithoedd a datblygu llythrennedd digidol.
- Cynyddu cyfleoedd i gael mynediad at addysg bellach ac uwch.
- Cynorthwyo plant sy’n ceisio lloches i gael y cyngor a’r cymorth y mae arnynt eu hangen.
- Helpu awdurdodau lleol i ofalu am blant sy’n ceisio lloches.
- Cynorthwyo cymunedau i gyd-dynnu.
- Gwneud yn siŵr bod pobl sy’n ceisio noddfa yn gallu cael gwybodaeth am eu hawliau a chyngor.
- Cefnogi cyfleoedd gwirfoddoli.
- Darparu arweinyddiaeth mewn perthynas ag integreiddio ac ailsefydlu ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.
- Hybu dealltwriaeth am ddiwylliant a threftadaeth Cymru.
Darparu mynediad cyfartal at y Rhyngrwyd ar gyfer pobl sy’n ceisio noddfa yng Nghymru.