Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn darparu dau fath o grant nad oes angen i chi eu talu'n ôl. Gall y ‘Taliad Cymorth Brys’ dalu am gostau hanfodol mewn argyfwng. Gall hyn gynnwys bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio brys.
Gall y ‘Taliad Cymorth Unigol’ eich helpu chi neu helpu rhywun yr ydych yn gofalu amdanynt i fyw'n annibynnol yn hytrach na gorfod byw mewn cartref gofal neu ysbyty.
Dim ond trwy sefydliad cymorth y gall ceiswyr lloches a cheiswyr lloches a wrthodwyd gael mynediad at y Gronfa. Gallwch ddod o hyd i sefydliad a all helpu yn ein ardal chi trwy’r dudalen Dod o Hyd i Gymorth.