Rydym eisiau i chi gadw’n ddiogel yn ystod argyfwng y coronafeirws. Darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf yma:
https://noddfa.llyw.cymru/covid-19
Mae deddfau mewnfudo yn gymhleth iawn. Bydd eich hawliau yn wahanol os ydych yn ‘ffoadur’, yn ‘geisiwr lloches’, yn ‘geisiwr lloches a wrthodwyd’ neu'n rhywun â statws mewnfudo arall. Mae Llywodraeth Cymru am ddarparu noddfa i unrhyw un y mae arno angen cymorth ac angen cael ei amddiffyn. Rydym yn ymdrechu'n galed i sicrhau bod unrhyw un yn y sefyllfaoedd hyn yn gallu cael mynediad at wasanaethau ond nid yw hyn yn bosibl bob amser.
Ni chaniateir i Lywodraeth Cymru roi cyngor cyfreithiol uniongyrchol i unrhyw unigolyn. Mae'n bwysig iawn eich bod yn cael cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr sy’n gymwys ac yn cael ei reoleiddio. Mae'n rhaid bod sefydliad yn cael ei reoleiddio gan ‘Swyddfa’r Comisiynydd Gwasanaethau Mewnfudo’ (OISC) os yw'n rhoi cyngor i chi am eich statws. Os nad yw, efallai ei fod yn torri'r gyfraith. Gallwch chwilio am gynghorydd cyfreithiol a reoleiddir gan OISC yn eich ardal chi trwy chwilio ar wefan OISC.
Gall y broses o wneud cais am loches fod yn hir a chymhleth iawn. Mae'n bwysig eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol cyn gynted â phosibl.
Efallai yr hoffech ddarllen y ‘Pecyn Cymorth Hawl i Aros’sy’n egluro pob cam o’r ‘daith lloches’. Mae’r Pecyn Cymorth ar gael mewn sawl iaith.
Mae Llywodraeth y DU yn ariannu ‘Migrant Help’ i ddarparu cymorth i geiswyr lloches ledled y DU. Gall Migrant Help eich helpu i wneud cais am loches ac i ymateb i faterion y byddwch o bosibl yn eu profi trwy gydol y broses. Gallwch gysylltu â Migrant Help trwy eu gwefan.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu tri chanllaw i gynorthwyo pobl ifanc i ddeall y system lloches a'r hyn y mae'n rhaid i chi ei wneud i wneud cais i aros yn y DU. Rydym yn argymell eich bod yn darllen pob un o’r canllawiau hyn er mwyn deall y system lloches yn well.
Mae TGP Cymru hefyd yn rhedeg prosiect i gynorthwyo ceiswyr lloches a ffoaduriaid ifainc hyd at 25 oed. Mae hyn yn cynnwys cymorth gan rywun sy'n deall y system lloches yn dda. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd i gwrdd â cheiswyr lloches a ffoaduriaid ifainc eraill, a gwirfoddoli. Ceir rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn ar wefan TGP Cymru.
Fel ffoadur, dylech allu cael mynediad at wasanaethau yng Nghymru. Fodd bynnag, dylech wirio pa statws mewnfudo a roddwyd i chi gan y gallai fod rhai cyfyngiadau. Er enghraifft, efallai fod Llywodraeth y DU wedi penderfynu na allwch gael mynediad at daliadau nawdd cymdeithasol. Fel arfer, bydd Llywodraeth y DU wedi rhoi ‘caniatâd i chi aros’ am hyd at 5 mlynedd yn unig. Efallai y bydd yn rhaid i chi ailymgeisio am ganiatâd i aros yn y DU tuag at ddiwedd y cyfnod hwnnw. Dylech geisio cyngor cyfreithiol wrth wneud cais.
Os gwrthodwyd lloches i chi, mae'n hanfodol eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol cyn gynted â phosibl. Efallai y bydd gennych yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.
Efallai yr hoffech ddarllen y ‘Pecyn Cymorth Hawl i Aros’sy’n egluro pob cam o’r ‘daith lloches’. Mae'r Pecyn Cymorth ar gael mewn sawl iaith. Mae'r Pecyn Cymorth yn cynnwys gwybodaeth am apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod cais am loches. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ‘Rhoi Mewnfudwyr Dan Gadwad’ a’u ‘Hallgludo’.
Gall fod yn anodd iawn meddwl am hyn ond weithiau gall Llywodraeth y DU helpu pobl i ddychwelyd i'w gwlad wreiddiol. Gallant wneud hyn trwy ‘Ddychweliad Gwirfoddol â Chymorth’. Gall hyn gynnwys cyllid er mwyn i chi sefydlu eich busnes eich hun a chymorth parhaus yn eich mamwlad. Efallai eich bod yn teimlo nad yw dychwelyd adref yn opsiwn i chi ond gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynllun ar wefan Llywodraeth y DU.
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu elusen cyngor cyfreithiol o'r enw ‘Cyfiawnder Lloches’ trwy'r Rhaglen Hawliau Lloches (ARP). Fe’i sefydlwyd i roi cyngor arbenigol i'r rhai y gwrthodwyd lloches iddynt. Ceir rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn ar wefan Cyngor Ffoaduriaid Cymru.
Fel ffoadur, dylech allu cael mynediad at wasanaethau yng Nghymru. Fodd bynnag, dylech wirio pa statws mewnfudo a roddwyd i chi gan y gallai fod rhai cyfyngiadau. Er enghraifft, efallai fod Llywodraeth y DU wedi penderfynu na allwch gael mynediad at daliadau nawdd cymdeithasol. Fel arfer, bydd Llywodraeth y DU wedi rhoi ‘caniatâd i chi aros’ am hyd at 5 mlynedd yn unig. Efallai y bydd yn rhaid i chi ailymgeisio am ganiatâd i aros yn y DU tuag at ddiwedd y cyfnod hwnnw. Dylech geisio cyngor cyfreithiol wrth wneud cais.