Rydym eisiau i chi gadw’n ddiogel yn ystod argyfwng y coronafeirws. Darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf yma:
https://noddfa.llyw.cymru/covid-19
Mae arnom eisiau cynorthwyo ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ailadeiladu eu bywydau yng Nghymru. Mae gallu dod o hyd i swydd yn rhan bwysig o'r broses hon. Ni fydd gan bawb yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Llywodraeth y DU sy'n penderfynu pwy sy'n cael gweithio yng Nghymru. Cyn y gallwch weithio, bydd angen i chi fod wedi cael yr hawl i weithio a chael Rhif Yswiriant Gwladol.
Os nad oes gennych yr hawl i weithio yn y DU, dylai fod gennych yr hawl o hyd i wirfoddoli gydag elusen, Cyngor neu un o adrannau eraill y Llywodraeth. Ceir rhagor o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Gwirfoddoli Cymru.
Mae'r adran hon o'r wefan yn egluro pwy sydd â'r hawl i weithio a ble y gellir dod o hyd i gymorth.
Fel arfer, nid oes gan geiswyr lloches hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Efallai y byddwch yn gallu ennill yr hawl i weithio os bydd Llywodraeth y DU wedi cymryd mwy na 12 mis i benderfynu ar eich cais am loches. Rhaid ichi ddangos mai bai Llywodraeth y DU yw'r oedi. Dim ond ar gyfer swyddi sydd wedi’u cynnwys ar ‘Restr Galwedigaethau â Phrinder’Llywodraeth y DU y byddai’r hawl i weithio. Am y rhesymau hyn, ni fydd y rhan fwyaf o geiswyr lloches yn gallu gweithio oni bai eu bod yn cael eu cydnabod fel ffoaduriaid.
Os ydych yn gweithio yn y Deyrnas Unedig fel ceisiwr lloches heb i Lywodraeth y DU fod wedi rhoi'r hawl ichi weithio, byddwch yn torri'r gyfraith.
Tra byddwch yn disgwyl am benderfyniad ar eich cais am loches, gallwch gael help i ddysgu'r Gymraeg neu'r Saesneg. Gweler y dudalen ‘Addysg i bobl o bob oed’ am ragor o wybodaeth.

Ar ôl i chi gael eich cydnabod fel ffoadur, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Mae sawl ffordd o chwilio am waith. Gellir dod o hyd i gyfleoedd gwaith trwy bapurau newydd lleol, gwefannau, asiantaethau swyddi neu drwy ymweld â ‘Chanolfan Byd Gwaith’. Mae Canolfannau Gwaith i'w cael yn y rhan fwyaf o drefi yng Nghymru. Os oes angen help arnoch i ddod o hyd i swydd gallech roi cynnig ar ymweld â'ch canolfan leol. Mae ‘Gyrfa Cymru’ yn cynnig cyngor ynghylch gyrfaoedd i bobl 16 oed a throsodd hefyd.
Efallai y bydd angen i chi brofi i gyflogwr bod gennych yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig.Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch sut i brofi eich hawl i weithio ar wefan Llywodraeth y DU.
Dechrau o’r newydd
Bydd Llywodraeth Cymru yn lansio'r prosiect ‘Dechrau o’r Newydd: Integreiddio Ffoaduriaid’ yn 2019. Bydd yn rhoi cymorth i ffoaduriaid sy'n chwilio am swyddi yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam. Bydd y wefan hon yn cael ei diweddaru'n fuan i ddarparu mwy o wybodaeth.
Cyflogwyr
Rhaid i gyflogwyr drin eu gweithwyr yn gyfartal. Mae hyn yn golygu y dylai ffoaduriaid gael yr un cyflog â rhywun o Gymru os ydynt yn gwneud yr un gwaith. Mae hyn hefyd yn golygu y dylai dynion a menywod gael yr un cyflog am yr un swydd. Os ydych chi’n meddwl eich bod yn cael eich trin yn annheg, gallwch gael cyngor trwy’r ‘Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol’.
Rhaid i gyflogwyr dalu'r ‘Isafswm Cyflog Cenedlaethol’ i'r rhan fwyaf o'u gweithwyr. Yr isafswm cyflog y dylech ei gael ar gyfer eich gwaith yw hwn. Mae’r isafswm cyflog y byddech yn ei gael yn seiliedig ar eich oedran a'ch math o swydd. Caiff cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol eu hegluro ar wefan Llywodraeth y DU.
Yn y rhan fwyaf o achosion bydd gennych yr hawliau canlynol wrth weithio i gyflogwr yn y Deyrnas Unedig:
- Rhaid i chi gael cyflog sydd o leiaf yr un faint â’r ‘Isafswm Cyflog Cenedlaethol’
- Rhaid i'ch cyflogwr beidio â gwneud didyniadau anghyfreithlon o'ch cyflog
- Rhaid i chi gael slip cyflog sy'n egluro eich cyflog ac unrhyw ddidyniadau
- Dylech gael rhestr o brif delerau ac amodau eich swydd
- Mae gennych yr hawl i swm penodol o amser â thâl i ffwrdd o'r gwaith bob blwyddyn.
- Mae gennych hawl i gymryd amser â thâl o’r gwaith ar gyfer absenoldeb gofal cynenedigol, mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu
- Rhaid caniatáu egwylion gorffwys dyddiol ac wythnosol i chi, ac fel arfer ni ellir eich gorfodi i weithio mwy na 48 awr yr wythnos
- Ni ddylech gael eich diswyddo na'ch trin yn annheg yn y gwaith os byddwch yn troi'n ‘chwythwr chwiban’. Rhywun sy'n amlygu camwedd tybiedig yn ei weithle yw hwn.
- Os ydych wedi bod yn gweithio i gyflogwr am o leiaf fis, rhaid i’r cyflogwr roi rhybudd i chi os ydych yn mynd i gael eich diswyddo
- Os cewch eich diswyddo tra byddwch yn feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth yna rhaid i chi gael esboniad ysgrifenedig o'r rheswm gan eich cyflogwr
- Os ydych yn weithiwr rhan-amser, dylai fod gennych yr un hawliau cytundebol â gweithiwr llawn-amser (mewn rôl debyg). Efallai na fyddwch yn derbyn yr un hawlogaethau.
- Os ydych yn gyflogai cyfnod penodol, dylai fod gennych yr un hawliau cytundebol â chyflogai parhaol mewn rôl debyg
- Mae gennych hawl i gyflwyno cais am drefniant gweithio hyblyg (Ar ôl chwe mis)
Ceir rhagor o wybodaeth am hawliau y gallwch ddisgwyl eu cael yn y gwaith ar wefan Cyngor Ar Bopeth.
Cymwysterau
Efallai eich bod yn meddu ar gymwysterau neu brofiad mewn swydd benodol o'ch mamwlad. Os ydych am wneud yr un gwaith yng Nghymru, efallai y bydd angen i chi sicrhau bod eich cymwysterau presennol yn cael eu cydnabod gan sefydliadau yn y Deyrnas Unedig. Gall sefydliad o'r enw UK NARIC helpu gyda hyn ond efallai y bydd angen i chi dalu.Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch sut y gall UK NARIC helpu ar eu gwefan.
Yswiriant Gwladol
Os oes gennych swydd yn y Deyrnas Unedig, rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol. I wneud hyn rhaid bod gennych Rif Yswiriant Gwladol. Os oes gennych hawl i weithio ond eich bod heb gael y rhif hwn, gallwch wneud cais am rif yn y ‘Ganolfan Byd Gwaith’. Ar ôl i chi gael eich rhif, rhaid i chi ei roi i'ch cyflogwr. Mae Cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn helpu i adeiladu eich mynediad at bensiwn y wladwriaeth a thâl mamolaeth neu dadolaeth. Mae hefyd yn ariannu gwasanaethau fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).
Os na allwch ddod o hyd i swydd, efallai y bydd angen i chi wneud cais am gymorth nawdd cymdeithasol (a elwir hefyd yn fudd-daliadau lles). Ewch at yr adran ‘Arian’ ar y wefan hon i gael rhagor o wybodaeth.
Os yw eich cais am loches wedi'i wrthod, ni fydd gennych hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig.
Os nad oes gennych yr hawl i weithio yn y DU, dylai fod gennych yr hawl o hyd i wirfoddoli gydag elusen, Cyngor neu un o adrannau eraill y Llywodraeth. Ceir rhagor o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Gwirfoddoli Cymru.
Unwaith y gwrthodir lloches i chi, ni fyddwch yn gallu gweithio'n gyfreithlon na chael budd-daliadau lles. Gweler yr adran ‘Arian’ am ragor o wybodaeth am gymorth i geiswyr lloches a wrthodwyd.
Os ydych wedi’ch ailsefydlu fel ffoadur, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Mae sawl ffordd o chwilio am waith. Gellir dod o hyd i gyfleoedd gwaith trwy bapurau newydd lleol, gwefannau, asiantaethau swyddi neu drwy ymweld â ‘Chanolfan Byd Gwaith’. Mae Canolfannau Gwaith i'w cael yn y rhan fwyaf o drefi yng Nghymru. Os oes angen help arnoch i ddod o hyd i swydd gallech roi cynnig ar ymweld â'ch canolfan leol. Mae ‘Gyrfa Cymru’ yn cynnig cyngor ynghylch gyrfaoedd i bobl 16 oed a throsodd hefyd.
Efallai y bydd angen i chi brofi i gyflogwr bod gennych yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig.Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch sut i brofi eich hawl i weithio ar wefan Llywodraeth y DU.
Dechrau o’r newydd
Bydd Llywodraeth Cymru yn lansio'r prosiect ‘Dechrau o’r Newydd: Integreiddio Ffoaduriaid’ yn 2019. Bydd yn rhoi cymorth i ffoaduriaid sy'n chwilio am swyddi yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam. Bydd y wefan hon yn cael ei diweddaru'n fuan i ddarparu mwy o wybodaeth.
Cyflogwyr
Rhaid i gyflogwyr drin eu gweithwyr yn gyfartal. Mae hyn yn golygu y dylai ffoaduriaid gael yr un cyflog â rhywun o Gymru os ydynt yn gwneud yr un gwaith. Mae hyn hefyd yn golygu y dylai dynion a menywod gael yr un cyflog am yr un swydd. Os ydych chi’n meddwl eich bod yn cael eich trin yn annheg, gallwch gael cyngor trwy’r ‘Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol’.
Rhaid i gyflogwyr dalu'r ‘Isafswm Cyflog Cenedlaethol’ i'r rhan fwyaf o'u gweithwyr. Yr isafswm cyflog y dylech ei gael ar gyfer eich gwaith yw hwn. Mae’r isafswm cyflog y byddech yn ei gael yn seiliedig ar eich oedran a'ch math o swydd. Caiff cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol eu hegluro ar wefan Llywodraeth y DU.
Yn y rhan fwyaf o achosion bydd gennych yr hawliau canlynol wrth weithio i gyflogwr yn y Deyrnas Unedig:
- Rhaid i chi gael cyflog sydd o leiaf yr un faint â’r ‘Isafswm Cyflog Cenedlaethol’
- Rhaid i'ch cyflogwr beidio â gwneud didyniadau anghyfreithlon o'ch cyflog
- Rhaid i chi gael slip cyflog sy'n egluro eich cyflog ac unrhyw ddidyniadau
- Dylech gael rhestr o brif delerau ac amodau eich swydd
- Mae gennych yr hawl i swm penodol o amser â thâl i ffwrdd o'r gwaith bob blwyddyn.
- Mae gennych hawl i gymryd amser â thâl o’r gwaith ar gyfer absenoldeb gofal cynenedigol, mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu
- Rhaid caniatáu egwylion gorffwys dyddiol ac wythnosol i chi, ac fel arfer ni ellir eich gorfodi i weithio mwy na 48 awr yr wythnos
- Ni ddylech gael eich diswyddo na'ch trin yn annheg yn y gwaith os byddwch yn troi'n ‘chwythwr chwiban’. Rhywun sy'n amlygu camwedd tybiedig yn ei weithle yw hwn.
- Os ydych wedi bod yn gweithio i gyflogwr am o leiaf fis, rhaid i’r cyflogwr roi rhybudd i chi os ydych yn mynd i gael eich diswyddo
- Os cewch eich diswyddo tra byddwch yn feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth yna rhaid i chi gael esboniad ysgrifenedig o'r rheswm gan eich cyflogwr
- Os ydych yn weithiwr rhan-amser, dylai fod gennych yr un hawliau cytundebol â gweithiwr llawn-amser (mewn rôl debyg). Efallai na fyddwch yn derbyn yr un hawlogaethau.
- Os ydych yn gyflogai cyfnod penodol, dylai fod gennych yr un hawliau cytundebol â chyflogai parhaol mewn rôl debyg
- Mae gennych hawl i gyflwyno cais am drefniant gweithio hyblyg (Ar ôl chwe mis)
Ceir rhagor o wybodaeth am hawliau y gallwch ddisgwyl eu cael yn y gwaith ar wefan Cyngor Ar Bopeth.
Cymwysterau
Efallai eich bod yn meddu ar gymwysterau neu brofiad mewn swydd benodol o'ch mamwlad. Os ydych am wneud yr un gwaith yng Nghymru, efallai y bydd angen i chi sicrhau bod eich cymwysterau presennol yn cael eu cydnabod gan sefydliadau yn y Deyrnas Unedig. Gall sefydliad o'r enw UK NARIC helpu gyda hyn ond efallai y bydd angen i chi dalu.Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch sut y gall UK NARIC helpu ar eu gwefan.
Yswiriant Gwladol
Os oes gennych swydd yn y Deyrnas Unedig, rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol. I wneud hyn rhaid bod gennych Rif Yswiriant Gwladol. Os oes gennych hawl i weithio ond eich bod heb gael y rhif hwn, gallwch wneud cais am rif yn y ‘Ganolfan Byd Gwaith’. Ar ôl i chi gael eich rhif, rhaid i chi ei roi i'ch cyflogwr. Mae Cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn helpu i adeiladu eich mynediad at bensiwn y wladwriaeth a thâl mamolaeth neu dadolaeth. Mae hefyd yn ariannu gwasanaethau fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).
Os na allwch ddod o hyd i swydd, efallai y bydd angen i chi wneud cais am gymorth nawdd cymdeithasol (a elwir hefyd yn fudd-daliadau lles). Ewch at yr adran `Arian’ ar y wefan hon i gael rhagor o wybodaeth.