Mae'r adran hon o'r wefan yn esbonio sut a ble y gallwch gael gofal iechyd.
Bydd dinasyddion yr UE sy'n byw'n gyfreithlon yng Nghymru cyn 31 Rhagfyr 2020 yn gallu defnyddio'r GIG yng Nghymru a chael mynediad at wasanaethau'r GIG yn rhad ac am ddim fel y gallwch yn awr, ar yr amod eich bod wedi cofrestru a chael statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog i allu parhau i fyw yn y DU. Os nad ydych yn cofrestru, efallai y cewch eich ystyried yn ymwelydd tramor ac efallai y codir tâl arnoch am wasanaethau'r GIG.
I gael eich ystyried yn breswylydd arferol, rhaid i chi fod yn byw yng Nghymru ar sail gyfreithlon a sefydlog am y tro. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi fod wedi cael Statws Preswylydd Sefydlog neu Statws Preswylydd Cyn-Sefydlog. Os nad oes penderfyniad wedi’i wneud ar eich cais am statws sefydlog, bydd eich hawliau'n cael eu diogelu serch hynny, hyd nes y penderfynir ar y cais hwnnw neu unrhyw apêl.
Efallai y gofynnir i chi am dystiolaeth o hyn. Bydd dinasyddion yr UE sy'n symud i'r DU o 1 Ionawr 2021 am fwy na chwe mis yn destun rheolaeth mewnfudo ac yn talu'r gordal iechyd mewnfudo fel rhan o unrhyw gais am fisa. Fodd bynnag, bydd rhai grwpiau, lle mae Aelod-wladwriaeth yn parhau i dalu eu costau gofal iechyd yn llawn, yn gallu ceisio ad-daliad o'r gordal.
Gellir codi tâl ar ymwelwyr tymor byr i'r DU nad ydynt yn dod o dan gytundeb newydd y DU-UE ar ofal iechyd cyfatebol, gan gynnwys cyn-drigolion y DU, am driniaeth y GIG.
Meddyg teulu yw Ymarferwr Cyffredinol (GP). Rhaid i chi gofrestru gyda meddyg teulu i sicrhau y gallwch gael triniaeth pan fyddwch yn sâl. Mae'n rhaid iddynt gynnig triniaeth angenrheidiol ar unwaith i unrhyw un sydd fel arfer yn byw y tu allan i'w hardal. Os na allwch gofrestru fel preswylydd parhaol yn yr ardal, gallech gael triniaeth fel preswylydd dros dro am o leiaf 14 diwrnod. Os ydych yn cael trafferth cael eich derbyn gan feddygfa Meddyg Teulu, gall eich Bwrdd Iechyd Lleol eich cofrestru i feddygfa. I ddod o hyd i feddygfa yn eich ardal chi, ewch i Galw Iechyd Cymru.
Ni ddylech fod angen prawf o waith na slipiau cyflog i gofrestru gyda'r meddyg teulu ond efallai y bydd angen i chi ddangos eich bod yn byw'n lleol.
Dylech gael esboniad os gwrthodir eich cais cofrestru. Os ydych yn cael trafferth dod o hyd i feddygfa, gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt meddygon teulu yn eich ardal chi a'r Bwrdd Iechyd lleol yn y ddolen isod:
Iechyd yng Nghymru (wales.nhs.uk)
Ni fydd eich iechyd yn cael effaith ar eich statws mewnfudo nac yn effeithio ar ba wasanaethau GIG sydd ar gael i chi. Ni fydd neb sy'n gweithio i'r GIG, gan gynnwys meddygon, nyrsys a chyfieithwyr, yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth am eich iechyd i unrhyw berson neu sefydliad arall y tu allan i'r GIG heb eich caniatâd (ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol iawn, fel os yw'r meddyg yn credu y gallech niweidio eich hun neu bobl eraill).
Mae gennych hawl i gael gwybodaeth berthnasol mewn iaith yr ydych yn ei deall. Cyfrifoldeb y gwasanaethau iechyd yw trefnu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd am ddim er mwyn sicrhau eich bod yn gallu cyfathrebu'n iawn.
Nid oes angen i chi gofrestru gyda deintydd ond dim ond gan ddeintydd sy’n derbyn cleifion y GIG y bydd triniaeth ddeintyddol am ddim ar gael. Gallwch ddod o hyd i un o ddeintyddion y GIG yn lleol trwy chwilio yn eich ardal leol ar y wefan Galw Iechyd Cymru. Os oes angen triniaeth ddeintyddol frys arnoch, gallwch gysylltu â’r llinell gymorth ddeintyddol ar wefan Galw Iechyd Cymru.
Ar ôl i chi gofrestru gyda meddyg teulu, gallwch gael gofal meddygol rheolaidd. Fel arfer, bydd hyn trwy system apwyntiadau. Bydd angen i chi ofyn i'ch meddyg teulu sut y trefnir apwyntiadau yn eich meddygfa. Gallwch hefyd ofyn am gael eich gweld gan feddyg gwrywaidd neu fenywaidd os yn bosibl. Gallwch ofyn am ymweliad cartref os ydych yn anabl neu'n rhy anhwylus i ymweld â’r feddygfa.
Dylech wneud yn siŵr bod y feddygfa yn gwybod ymlaen llaw os bydd angen iddynt drefnu cyfieithydd ar y pryd ar gyfer eich apwyntiad.
Ceir llawer o gyngor ynghylch iechyd ar y wefan Galw Iechyd Cymru neu dros y ffôn, heb fod angen disgwyl am apwyntiad gyda meddyg teulu. Mae gan Galw Iechyd Cymru wasanaeth cyfieithu ar y pryd sy'n helpu pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg i gael cymorth yn eu dewis iaith. Ceir rhagor o wybodaeth am y cymorth y gall Galw Iechyd Cymru ei roi i’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg ar eu gwefan.
Nod y GIG yng Nghymru yw darparu'r gofal gorau a'r driniaeth orau ond weithiau gall triniaeth fynd o chwith. Pan fydd hyn yn digwydd gallwch wneud cwyn. Efallai mai'r peth hawsaf fyddai siarad gyda'r rhai sy'n rhoi triniaeth i chi, ond os nad ydych am wneud hyn, gallwch siarad gyda thîm cwynion y Bwrdd Iechyd. Ewch i wefan Iechyd yng Nghymru i gael rhagor o wybodaeth am wneud cwyn.
Mae llawer o wasanaethau iechyd yng Nghymru yn rhedeg gwasanaethau ‘Y Tu Allan i Oriau’ rhwng 6:30pm a 8:00am yn ystod yr wythnos a thrwy'r dydd ar benwythnosau ac ar wyliau cyhoeddus. Dyma pryd y gall llawer o leoliadau gofal iechyd fod ar gau. Yn ystod cyfnodau ‘y tu allan i oriau’ efallai y byddwch yn dal i allu ffonio eich meddygfa ac efallai y cewch eich ailgyfeirio at wasanaeth arall. Gallwch hefyd gysylltu â Galw Iechyd Cymru ar 08454647 i gael cyngor a gwybodaeth.
Os ydych chi neu aelod o'ch teulu yn cael damwain neu salwch difrifol sydyn, dylech fynd i'ch ysbyty agosaf sydd ag adran Damweiniau ac Achosion Brys sy'n rhad ac am ddim i bawb.
Os yw'n argyfwng eithafol ffoniwch 999 a gofynnwch am ambiwlans i'ch cludo i ysbyty. Mae'r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim a dim ond mewn argyfwng y dylid ei ddefnyddio. Os ydych yn gallu, cewch hefyd wneud eich ffordd eich hun i'r adran Damweiniau ac Achosion Brys.
Peidiwch â defnyddio adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ar gyfer mân broblemau meddygol.
Os oes angen cymorth neu gyngor meddygol arnoch ar frys ond nid yw'n sefyllfa sy'n bygwth bywyd, ffoniwch GIG 111.
Efallai y bydd eich meddyg teulu yn dymuno i chi gymryd meddyginiaethau a bydd yn ysgrifennu presgripsiwn ar eich cyfer. Bydd angen i chi fynd â'ch presgripsiwn i'r fferyllfa neu'r fferyllydd.
Gallwch ymweld â'r wefan hon i ddod o hyd i'ch fferyllfa leol: GIG 111 Cymru – Chwilio am Wasanaethau Lleol neu gofynnwch am gyngor yn eich meddygfa.
Gall y fferyllydd hefyd roi cyngor am ddim ar drin mân broblemau iechyd, fel annwyd a pheswch. Gallwch brynu rhai meddyginiaethau o'r fferyllfa heb bresgripsiwn, gan gynnwys rhai poenladdwyr a meddyginiaethau peswch, ond bydd yn rhaid i chi dalu am y meddyginiaethau hyn. Efallai y codir tâl arnoch am feddyginiaethau ar bresgripsiwn.
Coronafeirws (COVID-19)
Ar hyn o bryd mae'r DU yn profi pandemig y Coronafeirws. Mae gwybodaeth ar gael ar dudalen we Llywodraeth Cymru Coronafeirws (COVID-19) | Pwnc | LLYW.CYMRU am sut i roi gwybod am symptomau COVID-19 a chymorth os oes angen i chi hunanynysu gartref. Mae hefyd yn amlinellu'r rheolau sydd ar waith ynglŷn â'r hyn y gallwch ei wneud yn ystod pandemig y Coronafeirws, er enghraifft faint o bobl y cewch gwrdd â nhw, cadw pellter diogel, a gwisgo gorchuddion wyneb ym mhob man cyhoeddus.
Archebu brechiad coronafeirws
Rydych yn gymwys i gael brechiad COVID-19 am ddim drwy'r GIG. Dyma fanylion am sut y gallwch archebu brechiad coronafeirws: Cael eich brechlyn COVID-19 | LLYW.CYMRU
Bydd y brechlyn yn cael ei gynnig a'i ddarparu i bawb sy'n byw yn y DU yn rhad ac am ddim. Nid oes angen i chi fod wedi cofrestru mewn meddygfa neu fod â rhif GIG i gael y brechlyn.
Mae gofalu am eich iechyd meddwl a'ch lles meddyliol yn rhan bwysig iawn o gadw'n iach. Gall unrhyw un deimlo'n bryderus, yn ofidus neu dan straen ar wahanol adegau yn eu bywyd. Mae addasu i fywyd mewn gwlad newydd yn gallu bod yn anodd iawn. Gallwch siarad gyda'ch meddyg teulu os ydych yn teimlo dan straen neu’n teimlo nad yw bywyd yn werth ei fyw. Efallai y bydd eich meddyg teulu yn gallu dod o hyd i gymorth arbenigol i chi. Os ydych yn dymuno siarad gyda rhywun am y problemau hyn, mae gan y Samariaid linell ffôn am ddim 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, sy’n gyfrinachol. Gallwch eu ffonio ar 116 123.
Gall problemau iechyd meddwl neu les meddyliol gwael effeithio ar blant a phobl ifanc hefyd. Mae gan ysgolion uwchradd wasanaethau cwnsela y gall disgyblion eu defnyddio os ydyn nhw'n teimlo'n bryderus, yn ofidus neu'n ddryslyd.
Os ydych yn feichiog dylech roi gwybod i'r feddygfa er mwyn sicrhau eich bod yn cael cymorth yn ystod eich beichiogrwydd gan fydwragedd y GIG. Ar ôl i'r baban gael ei eni, bydd ‘ymwelwyr iechyd’ yn rhoi cyngor a chymorth i chi er mwyn sicrhau bod eich baban yn datblygu'n dda. Mae GIG Cymru yn darparu gwasanaethau ‘sgrinio’ i wirio bod eich baban yn iach. Mae hyn yn cynnwys gwiriadau cyn i'r baban gael ei eni a phan fydd yn newydd-anedig. Mae rhagor o wybodaeth am raglenni sgrinio plant ar wefan Sgrinio am Oes. Gall plant sydd wedi'u cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru hefyd gael amrywiaeth o frechiadau i'w cadw nhw, eu teulu a’u cymdogion yn ddiogel. Cynigir y brechlynnau hyn am ddim. Ceir rhagor o wybodaeth am frechlynnau yn ystod plentyndod ar wefan Galw Iechyd Cymru.
Mae'r GIG yn darparu amrywiaeth o wasanaethau iechyd atgenhedlol a all eich helpu i wneud penderfyniadau cytbwys. Mae hyn yn cynnwys cyngor ynghylch atal cenhedlu, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, erthylu a chynllunio teulu. Gallant hefyd helpu os ydych wedi dioddef ymosodiad rhywiol. Ceir rhagor o wybodaeth am iechyd rhywiol ar wefan Galw Iechyd Cymru. Mae defnyddio dulliau atal cenhedlu ac erthylu yn gyfreithlon yn y DU a gellir eu darparu yn ddiogel ac yn ddi-dâl.
Gall ysmygu neu yfed alcohol pan ydych yn feichiog wneud niwed i ddatblygiad eich plentyn. Ceir cyngor a chymorth i roi’r gorau i ysmygu ar wefan ‘Helpa Fi i Stopio’. Ceir cyngor ynghylch sut i roi’r gorau i yfed alcohol ar wefan Alcohol Change.
Os ydych yn oroeswr trais rhywiol, gallwch gael rhagor o wybodaeth a allai eich helpu ar dudalen ‘Cadw’n Ddiogel’ y wefan hon.
Gall dinasyddion yr UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy a'r Swistir a ddechreuodd astudio mewn sefydliad addysg uwch achrededig yn y DU ar neu cyn 31 Rhagfyr 2020, ddefnyddio eu EHIC ar gyfer gofal iechyd sy'n angenrheidiol yn feddygol hyd nes ddiwedd eu cwrs, waeth beth fo'u cenedligrwydd. Rhaid i'r unigolyn wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE os yw ei gwrs yn ymestyn y tu hwnt i 30 Mehefin 2021. Bydd angen i ddinasyddion yr UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy a'r Swistir yr oedd eu cwrs astudio yn y DU yn dechrau ar ôl 1 Ionawr 2021 ac sy'n para am fwy na 6 mis, dalu'r gordal iechyd mewnfudo fel rhan o'u cais am fisa myfyriwr. Ar gyfer cwrs astudio byrrach, gall dinasyddion yr UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy a'r Swistir barhau i ddefnyddio eu EHIC ar gyfer gofal iechyd sy'n angenrheidiol yn feddygol.
Bydd trefniadau gofal iechyd a gynlluniwyd yn parhau; a bydd pensiynwyr cymwys, gweithwyr trawsffiniol a rhai grwpiau eraill – ac aelodau o'u teuluoedd - yn parhau i elwa ar drefniadau gofal iechyd cyfatebol sy'n cwmpasu costau eu gofal iechyd.
Os nad ydych yn siŵr a oes gennych ofal iechyd a gynlluniwyd, dylech ofyn i'ch darparwr gofal iechyd wirio eich bod yn gymwys i barhau i gael gofal iechyd cyfatebol
Ar ôl 31 Rhagfyr 2020 bydd unigolion sy'n symud i'r DU (neu i'r DU o Aelod Wladwriaeth) yn gallu cael darpariaeth gofal iechyd lawn tra’u bod yn yr Aelod Wladwriaeth honno. Fodd bynnag, ni fydd pobl sy'n allforio pensiynau a budd-daliadau cymwys eraill bellach yn gymwys i gael triniaeth am ddim ar y GIG os byddant yn dychwelyd i'r DU oni bai bod ganddynt esemptiad parhaus o dan y Cytundeb Ymadael neu os ydynt yn dod o dan eithriad arall o dan Reoliadau Ffioedd Gwasanaethau Iechyd Gwladol Cymru i Ymwelwyr Tramor 1989 ac unrhyw reoliadau diwygio
Fel gyda'r trefniadau presennol, bydd rhai unigolion sy'n symud eu preswylfa arferol i Aelod Wladwriaeth (neu i'r DU o Aelod Wladwriaeth) yn gallu cael darpariaeth gofal iechyd lawn tra’u bod yn yr Aelod Wladwriaeth honno. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr trawsffiniol, rhai gweithwyr trawsffiniol eraill (fel morwyr) a rhai gweithwyr a adleolwyd neu sy’n gweithio’n ‘ddatgysylltiedig’.