Dod o hyd i le addas i fyw fydd un o'ch prif bryderon ar ôl i chi gyrraedd Cymru. Mae tai yn fater datganoledig sy'n golygu mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y mater hwn yng Nghymru.
Mae'r adran hon o'r wefan yn egluro'r system Tai yng Nghymru a phwy all gael cymorth.
Mae cost ac argaeledd tai yn amrywio ledled Cymru. Mae cost llety yn debygol o fod yn un o'r prif gostau i chi bob mis.
Bydd eich hawl i dai yn dibynnu ar ba statws mewnfudo sydd gennych. Bydd angen i chi gysylltu â'ch awdurdod lleol i gael gwybod pa fath o gymorth sydd ar gael i chi.
Bydd llawer o ddinasyddion yr UE oedd yn byw yma erbyn 31 Rhagfyr 2020 yn parhau i fod yn gymwys i gael budd-daliadau a chymorth i'r digartref gan y cyngor.
Ond ni fyddwch fel arfer yn gymwys i gael cymorth os daethoch i fyw yn y DU ar ôl 31 Rhagfyr 2020 oni bai eich bod yn ddinesydd Gwyddelig neu os oes gennych statws sefydlog.
Bydd y cyngor yn gwirio eich bod yn bodloni'r amodau ar gyfer cymorth. Gelwir hyn weithiau'n 'gymwys i gael cymorth'.
Os ydych yn rhentu eiddo, bydd gennych landlord. Mae dyletswydd gyfreithiol ar landlordiaid i roi manylion ysgrifenedig i chi am eich hawliau a'ch cyfrifoldebau. Bydd hyn yn cynnwys manylion rhent, pryd y gellir ei gwneud yn ofynnol i chi adael yr eiddo a phwy sy’n gyfrifol am atgyweirio'r adeilad. Mae hyn fel arfer wedi’i nodi yn nhelerau eich cytundeb tenantiaeth, sy’n gytundeb cyfreithiol rhyngoch chi a'r Landlord.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am rentu eiddo yma: Rhentu eiddo | Is-bwnc | LLYW.CYMRU
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol ar Landlord yng Nghymru i wirio statws mewnfudo darpar denantiaid gan nad yw'r ddeddfwriaeth wedi'i gweithredu eto yng Nghymru.
Opsiynau brys eraill
Efallai y byddwch yn gallu aros mewn:
- hostel i bobl ddigartref
- gwely a brecwast (B&B)
- lloches nos
Fel arfer, bydd angen i chi allu hawlio budd-daliadau yn y DU i aros mewn hostel i bobl ddigartref. Gall gwely a brecwast ofyn am arian parod ymlaen llaw.
Mae llochesi nos yn aml am ddim ond yn cynnig llety sylfaenol iawn.
Os ydych yn fenyw sy'n profi cam-drin domestig, efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i le mewn lloches.
Rhaid i bob cyngor lleol sicrhau bod cyngor a gwybodaeth ar gael am ddim i bawb yn eu hardal i atal pobl rhag dod yn ddigartref, os oes perygl o hynny, neu eu helpu i ddod o hyd i lety os ydynt yn ddigartref. Mae'r hawl hon ar gyfer pawb, waeth beth fo'u statws mewnfudo neu'r hawl i breswylio, ac mae rhai grwpiau o bobl, fel y rhai sy'n gadael gofal ysbyty neu ofal cyngor, y mae'n rhaid i'r cyngor sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar y cyngor a'r wybodaeth hon