Math dros dro o gymorth yw hwn, tra bo Llywodraeth y DU yn penderfynu ar eich cais am gymorth adran 95. Dylai penderfyniad ynghylch cais am gymorth adran 98 gael ei wneud o fewn un diwrnod gwaith.
Gall ceiswyr lloches yr ystyrir eu bod yn ddiymgeledd neu ar fin bod yn ddiymgeledd wneud cais am gymorth ‘adran 98’ gan Lywodraeth y DU. Os byddwch yn cael cymorth adran 98, bydd gofyn i chi wneud cais am gymorth adran 95.
Fel arfer, caiff cymorth adran 98 ei gynnig ar sail llety a phob pryd bwyd mewn canolfan Llety Cychwynnol.
Nid yw cymorth adran 98 ar gael i'r rhai sy'n disgwyl am benderfyniad ynghylch eu cais am gymorth adran 4.