Nod y Ddeddf hon yw gwella llesiant pobl y mae angen gofal neu gymorth arnynt yng Nghymru. Mae llesiant yn golygu bod person yn hapus, yn iach ac yn gyfforddus gyda'i fywyd a'r hyn y mae'n ei wneud.
Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i cynnal ‘asesiad llesiant’ er mwyn canfod y ffordd orau o ddiwallu eich anghenion. Os ydych chi'n geisiwr lloches a wrthodwyd, gall asesiad llesiant arwain at lety neu gymorth arall os canfuwyd fod ar eich teulu angen cymorth ac y byddai gwrthod y cymorth hwnnw yn tramgwyddo ar eich hawliau dynol.