Diffiniad Llywodraeth y DU o fod yn ddiymgeledd yw bod heb y moddion i ddiwallu anghenion o ran llety neu anghenion byw hanfodol. Mae hyn wedi'i ysgrifennu yn Adran 95 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999. Mae hyn hefyd yn cynnwys y rhai sy'n debygol o fynd yn ddiymgeledd o fewn 14 diwrnod.
Gall rhywun fod yn ddiymgeledd ar unrhyw gam yn y broses ceisio noddfa. Efallai y bydd rhai wythnosau heb unrhyw gymorth cyn i gais gael ei brosesu. Wrth ddisgwyl am benderfyniad ynghylch lloches efallai y bydd costau ariannol annisgwyl, fel yr angen am esgidiau ysgol newydd i blant. Pan roddir statws ffoadur, gall gymryd peth amser i drefnu budd-daliadau lles neu ddod o hyd i waith. Os gwrthodir lloches, mae'n debygol mai ychydig iawn o gymorth y byddwch yn gallu cael mynediad ato.
Ewch i’r adran ‘Arian’ ar y wefan am ragor o wybodaeth.