Rhywun sydd wedi cael ‘statws ffoadur’ gan Lywodraeth y DU. Gall hyn fod trwy gynllun ailsefydlu neu drwy gais llwyddiannus am loches. Fel arfer, mae rhywun sy'n cael statws ffoadur yn cael caniatâd i aros yn y DU am 5 mlynedd.
Er mwyn bod yn gymwys i gael statws ffoadur, bydd yn rhaid i chi ddangos bod gennych “ofn ac iddo sail gadarn y cewch eich erlid am resymau hil, crefydd, cenedligrwydd, aelodaeth o grŵp cymdeithasol penodol, neu farn wleidyddol, a chithau’r tu allan i’ch gwlad enedigol, ac yn methu â chael eich amddiffyn neu, oherwydd yr ofn hwnnw, yn amharod i geisio cael eich amddiffyn gan y wlad honno” (Confensiwn Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig, 1951).