Mae Galw Iechyd Cymru yn wefan a rhif ffôn defnyddiol iawn sy'n rhoi cyngor ar ofal iechyd. Gall Galw Iechyd Cymru ddarparu cyfieithwyr ffôn cyfrinachol mewn dros 120 o ieithoedd. Ffoniwch 08454647 ac yn Saesneg nodwch yr iaith rydych am ei defnyddio. Dylech gael eich cysylltu â chyfieithydd a all helpu i gael gwybodaeth feddygol o ansawdd da i chi.
Mae llawer o wybodaeth feddygol ar gael ar wefan Galw Iechyd Cymru.