Mae'r rhan fwyaf o bobl gyflogedig yn y DU yn talu ‘cyfraniadau Yswiriant Gwladol’. Mae'r cyfraniadau hyn yn mynd tuag at wasanaethau cyhoeddus a nawdd cymdeithasol (budd-daliadau lles). Mae angen Rhif Yswiriant Gwladol arnoch cyn y gallwch ddechrau gwneud cyfraniadau.
Nid yw'r rhan fwyaf o geiswyr lloches a cheiswyr lloches a wrthodwyd yn gymwys i gael Rhif Yswiriant Gwladol gan nad oes gennych yr hawl i weithio.