Mae gan Gymru ddwy iaith swyddogol – Cymraeg a Saesneg.
Er bod mwy o bobl yng Nghymru yn siarad Saesneg, mae'r Gymraeg yn rhan bwysig iawn o ddiwylliant a hunaniaeth Cymru. Gall dysgu'r Gymraeg fod yn sgil defnyddiol iawn yn y gweithle ac yn eich cymuned leol. Mae angen siaradwyr Cymraeg ar gyrff cyhoeddus, busnesau ac elusennau. Mae hyn yn eu helpu i gyfathrebu yn y ddwy iaith swyddogol yng Nghymru.