Mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn golygu triniaeth lle mae organau cenhedlu benywod yn cael eu torri, eu hanafu neu eu newid yn fwriadol, ond lle nad oes unrhyw reswm meddygol dros wneud hynny. Mae sawl enw ar hyn, gan gynnwys ‘torri’, ‘sunna’, ‘gudniin’, ‘halalays’, ‘tahur’, ‘megrez’, neu ‘khitan’.
Gall hyn niweidio iechyd menywod a merched yn ddifrifol. Gall hefyd achosi problemau hirdymor gyda rhyw, geni plant ac iechyd meddwl.
Mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn anghyfreithlon yn y DU. Mae'n drosedd cyflawni gweithred anffurfio organau cenhedlu benywod (gan gynnwys mynd â phlentyn dramor er mwyn i hyn allu digwydd). Mae hefyd yn drosedd helpu unrhyw un sy'n gyflawni gweithred anffurfio organau cenhedlu benywod, neu fethu ag amddiffyn merch yr ydych chi'n gyfrifol amdani. Gall unrhyw un sy'n cyflawni gweithred anffurfio organau cenhedlu benywod dreulio 14 mlynedd yn y carchar. Gall unrhyw un a geir yn euog o fethu ag amddiffyn merch rhag triniaeth anffurfio organau cenhedlu benywod wynebu 7 mlynedd yn y carchar.
Gwybodaeth am yr hyn y dylech ei wneud os ydych yn meddwl eich bod chi mewn perygl o ddioddef triniaeth Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod.