Dewis Iaith
  • English
    Official
  • Cymraeg
    Official
  • Default
    Reset
  • Afrikaans
    Afrikaans
  • Albanian
    shqip
  • Amharic
    ኣማርኛ
  • Arabic
    عربي
  • Armenian
    Հայերէն
  • Azerbaijani
    آذربايجانجا ديلي
  • Basque
    euskara
  • Bengali
    বাংলা (baɛṅlā)
  • Belarusian
    Беларуская мова
  • Bosnian
    bosanski
  • Bulgarian
    български (bãlgarski)
  • Catalan
    català
  • Cebuano
    Sinugboanon
  • Chichewa
    Chicheŵa
  • Chinese Simplified
    中国简化
  • Chinese Traditional
    中國傳統
  • Corsican
    corsu
  • Croatian
    Hrvatski
  • Czech
    čeština
  • Danish
    dansk
  • Dutch
    Nederlands
  • English
    English
  • Esperanto
    Esperanto
  • Estonian
    eesti keel
  • Filipino
    filipino
  • Finnish
    suomi
  • French
    français
  • Frisian (West)
    Frysk
  • Galician
    Galego
  • Georgian
    ქართული (kʻartʻuli)
  • German
    Deutsch
  • Greek
    ελληνικά
  • Gujarati
    ગુજરાતી
  • Haitian Creole
    Kreyòl ayisyen
  • Hausa
    حَوْس
  • Hawaiian
    ʻōlelo Hawaiʻi
  • Hebrew
    עִבְרִית
  • Hindi
    हिन्दी
  • Hmong
    Hmong
  • Hungarian
    Hungarian magyaChichewar
  • Icelandic
    Íslenska
  • Igbo
    Igbo
  • Indonesian
    Bahasa Indonesia
  • Irish (Gaelic)
    Gaeilge
  • Italian
    italiano
  • Japanese
    日rus本語
  • Javanese
    baṣa Jawa
  • Kannada
    ಕನ್ನಡ
  • Kazakh
    Қазақ тілі
  • Khmer
    ភាសាខ្មែរ
  • Korean
    한국어
  • Kurdish
    Kurmanji
  • Kyrgyz
    قىرعىز
  • Lao
    ພາສາລາວ
  • Latin
    Lingua Latina
  • Latvian
    latviešu valoda
  • Lithuanian
    lietuvių kalba
  • Luxembourgish
    Lëtzebuergesch
  • Macedonian
    македонски
  • Malagasy
    Fiteny Malagasy
  • Malay
    Bahasa melayu
  • Malayalam
    മലയാളം
  • Maltese
    Malti
  • Maori
    te Reo Māori
  • Marathi
    मराठी
  • Mongolian
    Монгол
  • Myanmar (Burmese)
    ဗမာစကား
  • Nepali
    नेपाली
  • Norwegian
    norsk
  • Pashto
    پښتو
  • Persian
    فارسى
  • Polish
    polski
  • Portuguese
    português
  • Punjabi
    ਪੰਜਾਬੀ
  • Romanian
    limba
  • Russian
    Русский язык
  • Samoan
    Gagana Samoa
  • Scots Gaelic
    Gàidhlig
  • Serbian
    српски
  • Sesotho
    seSotho
  • Shona
    chiShona
  • Sindhi
    سنڌي
  • Sinhala
    සිංහල
  • Slovak
    slovenčina
  • Slovenian
    slovenščina
  • Somali
    af Soomaali
  • Spanish
    español
  • Sundanese
    Basa Sunda
  • Swahili
    Kiswahili
  • Swedish
    svenska
  • Tamil
    தமிழ்
  • Tajik
    тоҷики
  • Telugu
    తెలుగు
  • Thai
    ภาษาไทย
  • Turkish
    Türkçe
  • Ukrainian
    Українська
  • Urdu
    اردو
  • Uzbek
    أۇزبېك ﺗﻴﻠی o\'zbek tili ўзбек тили
  • Vietnamese
    tiếng việt
  • Yiddish
    ײִדיש
  • Xhosa
    isiXhosa
  • Yoruba
    Yorùbá
  • Zulu
    isiZulu
Helpu ffoaduriaid i ddeall eu hawliau

Hawlen Breswylio Fiometrig

Os rhoddir statws ffoadur i chi, byddwch yn cael Hawlen Breswylio Fiometrig (BRP). Nid oes rhaid i chi wneud cais ar wahân am Hawlen Breswylio Fiometrig. Mae Hawlen Breswylio Fiometrig yn cynnwys eich enw, dyddiad geni a man geni, eich olion bysedd a llun ac unrhyw amodau ar eich arhosiad yn y DU.

Dylai'r Hawlen Breswylio Fiometrig hefyd gynnwys eich Rhif Yswiriant Gwladol wedi'i argraffu arno i'ch helpu i gael mynediad at swyddi neu fudd-daliadau lles.

Practis Mynediad at Iechyd Caerdydd (CHAP)

Mae'r prosiect hwn yn rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'n darparu gofal iechyd i geiswyr lloches, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn Llety Cychwynnol. Rôl allweddol a gyflawnir gan CHAP yw sgrinio iechyd pan fydd ceiswyr lloches yn cyrraedd Cymru.

Clearsprings Ready Homes

Darparwr llety i geiswyr lloches yng Nghymru a ariennir gan Lywodraeth y DU.

Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCaChC)

Mae hyn yn helpu unigolion i ddeall a chymharu cymwysterau sy'n bodoli eisoes â safonau cymwysterau Cymraeg.

Allgludo

Mae hyn yn cyfeirio at symud pobl a'u plant o'r DU pan fo Llywodraeth y DU yn tybio bod hyn yn ‘ffafriol i les y cyhoedd’. Efallai y caiff hyn ei argymell hefyd gan lys barn mewn cysylltiad â chollfarn am dramgwydd troseddol.

Diymgeledd

Diffiniad Llywodraeth y DU o fod yn ddiymgeledd yw bod heb y moddion i ddiwallu anghenion o ran llety neu anghenion byw hanfodol. Mae hyn wedi'i ysgrifennu yn Adran 95 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999. Mae hyn hefyd yn cynnwys y rhai sy'n debygol o fynd yn ddiymgeledd o fewn 14 diwrnod.

Gall rhywun fod yn ddiymgeledd ar unrhyw gam yn y broses ceisio noddfa. Efallai y bydd rhai wythnosau heb unrhyw gymorth cyn i gais gael ei brosesu. Wrth ddisgwyl am benderfyniad ynghylch lloches efallai y bydd costau ariannol annisgwyl, fel yr angen am esgidiau ysgol newydd i blant. Pan roddir statws ffoadur, gall gymryd peth amser i drefnu budd-daliadau lles neu ddod o hyd i waith. Os gwrthodir lloches, mae'n debygol mai ychydig iawn o gymorth y byddwch yn gallu cael mynediad ato.

Ewch i’r adran ‘Arian’ ar y wefan am ragor o wybodaeth.

Rhoi Mewnfudwyr dan Gadwad

Mae'n bosibl y cewch eich rhoi dan gadwad tra byddwch yn disgwyl am ganiatâd i ddod i mewn neu cyn i chi gael eich allgludo neu eich symud.

Y Gronfa Cymorth Dewisol

Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn darparu dau fath o grant nad oes angen i chi eu talu'n ôl. Gall y ‘Taliad Cymorth Brys’ dalu am gostau hanfodol mewn argyfwng. Gall hyn gynnwys bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio brys.

Gall y ‘Taliad Cymorth Unigol’ eich helpu chi neu helpu rhywun yr ydych yn gofalu amdanynt i fyw'n annibynnol yn hytrach na gorfod byw mewn cartref gofal neu ysbyty.

Dim ond trwy sefydliad cymorth y gall ceiswyr lloches a cheiswyr lloches a wrthodwyd gael mynediad at y Gronfa. Gallwch ddod o hyd i sefydliad a all helpu yn ein ardal chi trwy’r dudalen Dod o Hyd i Gymorth.

Gallwch ddysgu mwy am y Gronfa Cymorth Dewisol yma.

Absenoldeb dewisol

Mae hwn yn fath o statws mewnfudo a roddirgan Lywodraeth y DU. Fel arfer, fe’i rhoddiros yw'r Swyddfa Gartref wedi penderfynu nad ydych yn gymwys i gael ‘statws ffoadur’ neu ‘ddiogelwch dyngarol’ ond bod rhesymau cryf eraill pam y dylech gael caniatâd i aros yn y DU am gyfnod o amser. Efallai y cewch eich rhwystro rhag cael budd-daliadau lles neu efallai y bydd rheolau eraill y mae angen i chi eu dilyn tra byddwch yn y DU.

Gwahaniaethu

Gwahaniaethu yw pan gaiff rhywun ei drin yn annheg neu'n wahanol. Gallai hyn fod oherwydd eu hil, eu hoed, eu rhyw, eu cred wleidyddol, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth o ran rhywedd, eu crefydd, dosbarth neu anabledd.