Rydym eisiau i chi gadw’n ddiogel yn ystod argyfwng y coronafeirws. Darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf yma:
https://noddfa.llyw.cymru/covid-19
Rydym yn deall bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn aml am wella eu haddysg pan fyddant yma. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi hyn trwy sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gallu cael mynediad at addysg. Bydd hyn yn eich helpu i gyflawni eich potensial ac mae'n un o'r blaenoriaethau yn ein cynllun Cenedl Noddfa. Mae'r adran hon o'r wefan yn egluro'r system addysg yng Nghymru a phwy sy'n gymwys i gael cymorth.
Mae addysg am ddim mewn ysgolion a reolir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae dyletswydd gyfreithiol ar rieni a gofalwyr i sicrhau bod eu plant yn mynychu'r ysgol. Mae'n drosedd cadw eich plant i ffwrdd o'r ysgol am ddim rheswm. Gallwch gofrestru eich plentyn ar gyfer yr ysgol gyda'ch awdurdod lleol. Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen Eich Ardal Leol. Gall addysg yng Nghymru fod trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Gall plant fynychu ysgolion Cymraeg a adwaenir fel ysgolion ‘cyfrwng Cymraeg’ neu glybiau Cymraeg fel yr Urdd neu Fenter Iaith. Mae pob plentyn yng Nghymru’n cael y cyfle i ddysgu rhywfaint o Gymraeg, hyd yn oed mewn ysgol cyfrwng Saesneg.
Bydd plant rhwng 5 ac 11 oed yn mynychu'r ysgol gynradd. Bydd plant rhwng 11 ac 16 oed yn mynd i ysgol uwchradd neu gyfun. Ar ddiwedd yr ysgol uwchradd, bydd plant yn sefyll arholiadau TGAU. Mae llawer o gefnogaeth ar gael yn ysgolion Cymru. Mae hyn yn cynnwys cymorth i blant sydd newydd gyrraedd y wlad sy'n dysgu Saesneg neu Gymraeg fel ail iaith. Mae cwnselwyr mewn ysgolion ar gael i helpu plant a all fod yn ofidus, yn bryderus neu'n ddryslyd. Mae dewisiadau brecwast a chinio am ddim ar gael yn aml mewn ysgolion. Os ydych yn byw yn ddigon pell o'r ysgol, efallai y darperir cludiant am ddim i'r ysgol. Gall plant adael yr ysgol yn 16 oed ond fe’u hanogir yn gryf i gael Addysg Bellach. Mae amrywiaeth o opsiynau ar gyfer astudiaeth Addysg Bellach. Mae'r rhain yn cynnwys colegau a phrentisiaethau. Yn aml bydd cofrestru mewn Prifysgol yn golygu astudio mewn coleg cyn hynny.
Rhaid i chi fod yn barod i deithio i fynd â'ch plant i'r ysgol os nad oes lle yn yr ysgolion yn eich ardal leol. Mae plant mewn ysgolion cynradd yn cael trafnidiaeth wedi’i ddarparu iddynt am ddim os ydynt yn byw 2 filltir neu’n bellach o’r ysgol addas agosaf. Mae plant mewn ysgolion uwchradd yn cael trafnidiaeth wedi’i ddarparu iddynt am ddim os ydynt yn byw 3 filltir neu’n bellach o’r ysgol addas agosaf. Mae'r awdurdod lleol yn penderfynu pa ysgol yw'r ysgol addas agosaf yn seiliedig ar oedran a gallu’r plentyn ac a oes lleoedd ar gael yn yr ysgol.
Gall addysg yng Nghymru gael ei chyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg a cheir ysgolion Cymraeg a Saesneg yng Nghymru.
Mae cadw'ch plant o'r ysgol am ddim rheswm yn drosedd. Yn y Deyrnas Unedig mae dyletswydd gyfreithiol arnoch i sicrhau bod eich plant yn mynd i'r ysgol tan y maent yn 16 oed.
ESOL
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu cyrsiau ‘Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill’ (ESOL). Sefydlir y rhain i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n oedolion i ddysgu Saesneg. Mae’r cyrsiau hyn yn aml yn rhad ac am ddim a gellir eu darparu mewn nifer o ardaloedd ledled Cymru. Efallai na fydd llawer o ffoaduriaid a cheiswyr lloches wedi clywed y Gymraeg yn cael ei siarad erioed cyn cyrraedd. Gall dysgu Cymraeg ddarparu cyfleoedd ar gyfer swyddi yn y dyfodol. Rhaid i lawer o wasanaethau cyhoeddus gael eu darparu yn y Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cymorth dewisol ar gyfer blynyddoedd cynnar eich plentyn. Pan fo plentyn yn cyrraedd ei drydydd pen-blwydd, mae’n gymwys i gael gofal meithrin rhan-amser am ddim. Mae’r gwasanaeth Dechrau’n Deg yn cynnig gofal plant, cymorth iechyd, cymorth rhianta a chymorth iaith.
Mae'r rhan fwyaf o'r cymorth addysg a nodir ar y dudalen hon ar gael i geiswyr lloches. Mae cymorth y blynyddoedd cynnar ac addysg gynradd ac uwchradd ar gael i bob ceisiwr lloches am ddim. Os oes clybiau brecwast ar gael, mae'r rhain am ddim i geiswyr lloches. Mae prydau ysgol am ddim ar gael i'r rhan fwyaf o geiswyr lloches sy'n disgwyl am benderfyniad. Mae'n rhaid i chi wneud cais i'ch awdurdod lleol cyn y caiff y cyllid hwn ei ddarparu. Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen Eich Ardal Leol.
Mae cyrsiau ESOL yn rhad ac am ddim i geiswyr lloches yng Nghymru. Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen Eich Ardal Leol.
Gall mynychu cyrsiau Addysg Bellach fod yn ddrud. Mae'r costau'n cynnwys gwisg ysgol, cludiant i fynd i ddosbarthiadau, deunydd ysgrifennu a chostau byw eraill. Gall ffoaduriaid gael mynediad at grantiau Llywodraeth Cymru i helpu gyda'r costau hyn. Mae'r rhain yn cynnwys y ‘Lwfans Cynhaliaeth Addysg’ a'r ‘Gronfa Ariannol wrth Gefn’. Nid yw'r rhain ar gael eto i geiswyr lloches. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i archwilio ffyrdd y gall ceiswyr lloches fod yn gymwys igael y grantiau hyn yn ein cynllun Cenedl Noddfa. Gall mynychu cyrsiau Addysg Uwch neu gyrsiau Prifysgol fod yn gostus iawn. Mae'r costau'n cynnwys ffioedd dysgu, costau byw, cludiant i fynd i ddarlithoedd a deunyddiau ysgrifennu. Gall ffoaduriaid gael mynediad at fenthyciadau i dalu'r costau hyn trwy Cyllid Myfyrwyr Cymru ond nid yw'r rhain ar gael eto i geiswyr lloches.Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i archwilio ffyrdd y gall ceiswyr lloches fod yn gymwys i gael y benthyciadau hyn yn ein cynllun Cenedl Noddfa.
Mae rhai prifysgolion yn cynnig lleoliadau wedi'u hariannu ar gyfer ceiswyr lloches neu mae ganddynt grwpiau cymorth i fyfyrwyr. Ceir rhagor o wybodaeth am brifysgolion yn eich ardal chi ar y dudalen Eich Ardal Leol.
Os ydych chi'n ‘derbyn gofal’ gan yr awdurdod lleol, efallai y bydd modd i chi gael mwy o gymorth gyda'ch cynlluniau addysg. Mae gan bobl ifanc ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches yr un hawliau i addysg ag unrhyw berson ifanc arall sy'n ceisio lloches. Gall y rhai sy'n derbyn gofal hefyd gael cyllid tuag at Addysg Bellach ac Uwch gan yr awdurdod lleol. Os ydych wedi bod yn derbyn gofal am 13 wythnos cyn eich bod yn 18 oed, gall eich awdurdod lleol barhau i'ch cefnogi wrth i chi ddod yn oedolyn, os hoffech i hyn ddigwydd. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn gweithio gyda chi i baratoi Cynllun Llwybr, a all gynnwys cymorth i gael mynediad at Addysg Bellach neu Uwch. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu gwybodaeth ychwanegol ar gyfer plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches.
Unwaith y byddwch wedi cael statws ffoadur yng Nghymru, bydd gennych yr un hawliau i gael addysg a chymorth ag unrhyw ddinesydd Prydeinig. Mae hyn yn golygu y bydd modd i chi gael mynediad at grantiau a benthyciadau sy'n ei gwneud yn haws mynychu Addysg Bellach ac Uwch. Ni fydd yn rhaid i ddysgwyr 19 oed ac iau dalu am wersi yn y coleg. Efallai y bydd rhai colegau yn gofyn i ddysgwyr dalu ffi gofrestru neu weinyddol fach pan fyddwch yn cofrestru gyntaf. Gan ddibynnu ble rydych yn byw a pha mor bell y mae'n rhaid i chi deithio, gall dysgwyr gael help i deithio i'r coleg. Mae'r rhan fwyaf o golegau'n cynnig rhyw fath o gludiant â chymhorthdal i ddysgwyr 19 oed ac iau, ac mae gan lawer ohonynt fysiau Coleg a neilltuwyd ar gyfer myfyrwyr.
Fel arfer, bydd yn rhaid i ddysgwyr sy'n oedolion dalu rhyw fath o ffi dysgu. Nid yw hyn yn wir os ydych yn dilyn cwrs mewn sgiliau sylfaenol (llythrennedd a rhifedd) neu'n cael mynediad at gyrsiau ESOL. Ni chaniateir i golegau godi tâl ar ddysgwyr am y ddarpariaeth hon.
Mae’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) ar gael i bobl ifanc 16-18 oed sy’n dymuno parhau â’u haddysg ar ôl gadael yr ysgol. Er mwyn bod yn gymwys rhaid eich bod yn bodloni rhai meini prawf penodol mewn perthynas ag oedran, y math o gwrs, incwm yr aelwyd a phreswylio yng Nghymru. Lwfans wythnosol o £30 yw’r LCA ac fe’i telir bob pythefnos yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc.
Efallai y bydd dysgwyr 19 oed a throsodd yn gymwys i gael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru Addysg Bellach (GDLlC (AB)) hyd at £1,500. Mae talu’r grant hwn yn dibynnu ar oedran, cwrs, ac incwm aelwyd y dysgwr a phreswylio yng Nghymru. Gall pobl ifanc ac oedolion fod yn gymwys ar gyfer cronfeydd caledi ariannol os ydynt yn mynychu coleg addysg bellach yng Nghymru. Cynllun y Gronfa Ariannol wrth Gefn (Addysg Bellach) (Cymru)yw’r enw ar y cyllid hwn. Gall colegau gynnig lleoedd wedi’u hariannu i ffoaduriaid hefyd.
Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion Cymru’n codi ffioedd dysgu hyd at £9,250. Mae benthyciadau ar gael i dalu ffioedd dysgu a chostau byw. Gall ffoaduriaid gael mynediad at fenthyciadau yn yr un ffordd â gwladolion y DU.
Mae gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i gael addysg gynradd ac uwchradd am ddim. Nid oes ots os yw cais eu rhieni am loches wedi cael ei wrthod. Mae mynediad at glybiau brecwast am ddim ar gael i chi hefyd. Efallai y bydd prydau ysgol am ddim ar gael ond eich awdurdod lleol fydd yn gwneud y penderfyniad hwn Mae'n rhaid i chi wneud cais i'ch awdurdod lleol cyn y caiff y cyllid hwn ei ddarparu. Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen Eich Ardal Leol.
Mae cyrsiau ESOL yn rhad ac am ddim i geiswyr lloches a wrthodwyd yng Nghymru. Ceir rhagor o fanylion cyrsiau yn eich ardal chi ar y dudalen Eich Ardal Leol.
Os gwrthodwyd lloches i chi, efallai y bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu nad oes gennych yr hawl i fynychu Addysg Bellach neu Uwch yn y DU. Os bydd y penderfyniad hwn wedi'i wneud, ni fyddwch yn gallu cofrestru ar gwrs. Os ydych yn dal i allu mynychu dosbarthiadau, ni fyddwch yn gallu cael mynediad at unrhyw gynlluniau ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Unwaith y byddwch wedi’ch ailsefydlu yng Nghymru, bydd gennych yr un hawliau i gael addysg a chymorth ag unrhyw un a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn golygu y bydd modd i chi gael mynediad at grantiau a benthyciadau sy'n ei gwneud yn haws mynychu Addysg Bellach ac Uwch.
Ni fydd yn rhaid i ddysgwyr 19 oed dalu am wersi yn y coleg. Efallai y bydd rhai colegau yn gofyn i ddysgwyr dalu ffi gofrestru neu weinyddol fach pan fyddwch yn cofrestru gyntaf. Gan ddibynnu ble rydych yn byw a pha mor bell y mae'n rhaid i chi deithio, gall dysgwyr gael help i deithio i'r coleg. Mae'r rhan fwyaf o golegau'n cynnig rhyw fath o gludiant â chymhorthdal i ddysgwyr 19 oed ac iau, ac mae gan lawer ohonynt fysiau Coleg a neilltuwyd ar gyfer myfyrwyr.
Fel arfer, bydd yn rhaid i ddysgwyr sy'n oedolion dalu rhyw fath o ffi dysgu. Nid yw hyn yn wir os ydych yn dilyn cwrs mewn sgiliau sylfaenol (llythrennedd a rhifedd) neu'n cael mynediad at gyrsiau ESOL. Ni chaniateir i golegau godi tâl ar ddysgwyr am y ddarpariaeth hon.
Mae’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) ar gael i bobl ifanc 16-18 oed sy’n dymuno parhau â’u haddysg ar ôl gadael yr ysgol. Er mwyn bod yn gymwys rhaid eich bod yn bodloni rhai meini prawf penodol mewn perthynas ag oedran, y math o gwrs, incwm yr aelwyd a phreswylio yng Nghymru. Lwfans wythnosol o £30 yw’r LCA ac fe’i telir bob pythefnos yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc.
Efallai y bydd dysgwyr 19 oed a throsodd yn gymwys i gael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru Addysg Bellach (GDLlC (AB)) hyd at £1,500. Mae talu’r grant hwn yn dibynnu ar oedran, cwrs, ac incwm aelwyd y dysgwr a phreswylio yng Nghymru. Gall pobl ifanc ac oedolion fod yn gymwys ar gyfer cronfeydd caledi ariannol os ydynt yn mynychu coleg addysg bellach yng Nghymru. Cynllun y Gronfa Ariannol wrth Gefn (Addysg Bellach) (Cymru) yw’r enw ar y cyllid hwn. Gall colegau gynnig eu bwrsariaethau ac ysgoloriaethau dewisol eu hunain hefyd.
Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion Cymru’n codi ffioedd dysgu hyd at £9,250. Mae benthyciadau ar gael i dalu ffioedd dysgu a chostau byw. Gall ffoaduriaid gael mynediad at fenthyciadau yn yr un ffordd â gwladolion y DU.
ReStart
Mae AilGychwyn: Prosiect Integreiddio Ffoaduriaid yn anelu at roi cymorth i ffoaduriaid sydd eisiau dysgu Saesneg. Mae'r gwasanaeth ar gael yn Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam. Dylai ffoaduriaid gael asesiad holistaidd o'u hanghenion iaith er mwyn gwella eu hymdrechion i integreiddio i'r gymdeithas.
Y Ganolfan Integreiddio
Mae'r Ganolfan Integreiddio yn wasanaeth cyngor a galw heibio i ffoaduriaid yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam. Mae'n cynnal asesiadau o anghenion ffoaduriaid ar gyfer gwersi iaith, sgiliau swyddi a hyfforddiant sgiliau eraill. Bydd gweithiwr achos neu fentor yn cadw cysylltiad rheolaidd â chi ac yn eich helpu i symud ymlaen dros amser.
Os oes angen cymorth ieithyddol ar ffoaduriaid sy'n defnyddio'r gwasanaeth, mae'r ganolfan integreiddio yn eu cyfeirio at y Ganolfan Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill.
Os oes angen help arnoch i ddod o hyd i swydd, gall y Ganolfan Integreiddio eich helpu i cysylltu â chynlluniau fel Cymunedau am Waith yn ogystal â helpu gyda CV. Mae'r Ganolfan Integreiddio hefyd yn cydweithio â'rGanolfan Wybodaeth Gydnabod Genedlaethol. Mae'r Ganolfan Wybodaeth Adnabod Genedlaethol yn helpu i gael cydnabyddiaeth yng Nghymru i gymwysterau a sgiliau sydd wedi eu hennill yn eich gwlad enedigol. Mae'r Ganolfan Integreiddio hefyd yn gweithredu 'Cronfa Rhwystrau' sy'n sicrhau y gall y gwasanaeth ddiwallu anghenion penodol y defnyddwyr.
Mae'r Ganolfan Integreiddio yn agwedd ar y prosiect sy'n darparu cefnogaeth i ffoaduriaid yn unig.
Canolfannau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill
Mae Llywodraeth Cymru wedi Cyllido'r gwaith o ddatblygu REACH (Canolfan Ganolog ar gyfer Asesu ESOL yn Rhanbarthol). Nod y gwasanaeth yw gwella lefelau sgiliau iaith a darparu cronfa ddata o ddosbarthiadau ESOL. . Mae prosiect AilGychwyn hefyd wedi cyflwyno'r gwasanaeth hwn yn Abertawe, Casnewydd a Wrecsam.
Darperir y gwasanaeth gan:
City Centre Campus, Dumballs Rd, Cardiff CF10 5FE
7 Coopers Yard, Cardiff, CF10 5NB
Belgrave Rd, Gorseinon, Swansea SA4 6RD
Nash Rd, Newport NP19 4TS
Civic Centre, Godfrey Road
Coleg Cambria (Wrexham)
Kelsterton Road, Connah’s
Quay, Deeside, Flintshire
CH5 4BR.