Rydym eisiau i chi gadw’n ddiogel yn ystod argyfwng y coronafeirws. Darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf yma:
https://noddfa.llyw.cymru/covid-19
Gall cymunedau Cymru fod yn wahanol iawn i'r lle roeddech yn arfer byw. Darperir yr wybodaeth ar y dudalen hon i'ch helpu i gadw'n ddiogel tra'ch bod yn byw yng Nghymru. Mae'r wybodaeth isod yn berthnasol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ar unrhyw adeg yn ystod eu harhosiad yng Nghymru.
Os oes angen help arnoch ar frys oherwydd trosedd, tân neu anaf dylech ffonio 999. Dim ond os yw’n achos brys y dylech ffonio’r rhif hwn. Os nad ydych yn siarad neu'n deall Saesneg, siaradwch yn eich iaith eich hun. Bydd y swyddog ateb galwadau yn trefnu cyfieithydd ar y pryd yn ystod yr alwad. Mae'n bwysig eich bod yn dweud ble rydych chi, gan gynnwys y cyfeiriad a'r cod post.
999 yw rhif y ‘Gwasanaethau Brys’. Mae hyn yn golygu'r Heddlu, y Gwasanaeth Tân, y Gwasanaeth Ambiwlans a Gwylwyr y Glannau. Mae pob galwad ffôn i 999 yn rhad ac am ddim yn y DU.
Os nad ydych yn hyderus yn siarad Saesneg eto, dywedwch y gair ‘Ambulance’ wrth y person ar ben arall y ffôn a dywedwch pa iaith yr ydych fwyaf cyffyrddus yn ei siarad. Bydd y person yn ceisio cael cyfieithydd i chi.
Mae'n bwysig gwybod y dylech deimlo'n ddiogel wrth gysylltu â'r heddlu yng Nghymru. Rydym yn deall mewn rhai achosion y gall yr heddlu mewn gwledydd eraill ddefnyddio trais neu ymddygiad ymosodol ond nid yw hyn yn wir am Gymru na'r Deyrnas Unedig. Dylech deimlo'n ddiogel ac yn hyderus i alw'r heddlu os ydych mewn perygl, os oes rhywun yn troseddu yn eich erbyn neu os ydych wedi cael eich cam-drin gan rywun.
Dylech ffonio am ambiwlans os yw rhywun yn anymwybodol, yn ei chael yn eithriadol o anodd anadlu neu'n gwaedu. Os nad yw'n argyfwng, gallwch gael cyngor gofal iechyd o fannau eraill. I gael rhagor o wybodaeth, ewch at yr adran Iechyd a Lles ar y wefan hon. Peidiwch â mynd i adran ‘Damweiniau ac Achosion Brys’ eich ysbyty lleol os nad yw’n achos brys.
Dylech alw am y Gwasanaeth Tân pan fydd tân yn y cartref neu rywle arall. Peidiwch â cheisio diffodd y tân eich hun. Dylech hefyd ffonio'r gwasanaeth tân os ydych yn gwybod bod cemegau peryglus yn gollwng neu wedi cael eu harllwys.
Dylech alw am yr Heddlu os ydych yn gweld bod trosedd yn mynd rhagddo neu os ydych wedi gweld trosedd. Dylid defnyddio 999 hefyd os gwelwch unigolyn, cerbyd, pecyn neu fag wedi’i adael, a allai fod yn fygythiad yn eich barn chi. Symudwch i ffwrdd a ffoniwch 999 i roi gwybod am hyn. Gallwch roi gwybod am unrhyw beth yr ydych chi'n meddwl sy'n gysylltiedig â therfysgaeth drwy ffonio'r llinell gymorth wrth-derfysgaeth ar 0800789321.
Os oes angen i chi roi gwybod i'r heddlu am rywbeth nad yw'n argyfwng, gallwch ffonio 101 yn lle hynny.
Dylech alw am wylwyr y Glannau pan fydd person wedi ei sgubo allan i'r môr neu lle cafwyd cwch ar y môr.
Gall ‘Trosedd Casineb’ olygu unrhyw drosedd a gyflawnir yn erbyn rhywun oherwydd rhan o'i hunaniaeth. Mae hyn yn cynnwys anabledd unigolyn, ei hunaniaeth o ran rhywedd, ei hil, ei grefydd neu ei gyfeiriadedd rhywiol. Gallai’r trosedd gynnwys ymosodiad, lladrad, difrod i eiddo, ymddygiad bygythiol neu fath arall o drosedd. Os ydych yn credu eich bod yn ddioddefwr trosedd casineb, dylech roi gwybod i'r Heddlu am hyn. Mae gennych hawl i fyw eich bywyd heb ddioddef camdriniaeth a thrais. Nid yw'r rhan fwyaf o ffoaduriaid a cheiswyr lloches wedi profi trosedd casineb ond rydym yn cefnogi unrhyw un sydd wedi. Mae'r Heddlu wedi'u hyfforddi i ymdrin â throsedd casineb gyda sensitifrwydd. Gallwch fod yn hyderus y cewch eich trin yn deg os byddwch yn rhoi gwybod am y math hwn o drosedd.
Os nad ydych am siarad gyda'r heddlu'n uniongyrchol, gallwch hysbysu Cymorth i Ddioddefwyr Cymru am drosedd casineb. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Cymorth i Ddioddefwyr Cymru i gefnogi dioddefwyr troseddau casineb. Ceir rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn ar y wefan Cymorth i Ddioddefwyr.
Mae'n bwysig gwybod y dylech deimlo'n ddiogel wrth gysylltu â'r heddlu yng Nghymru. Rydym yn deall mewn rhai achosion y gall yr heddlu mewn gwledydd eraill ddefnyddio trais neu ymddygiad ymosodol ond nid yw hyn yn wir am Gymru na'r Deyrnas Unedig. Dylech deimlo'n ddiogel ac yn hyderus i alw'r heddlu os ydych mewn perygl, os oes rhywun yn troseddu yn eich erbyn neu os ydych wedi cael eich cam-drin gan rywun.
Mae ‘gwahaniaethu’ yn digwydd pan fydd pobl yn cael eu trin yn wahanol oherwydd rhan o'u hunaniaeth. Gall hyn fod oherwydd eu hoedran, beichiogrwydd, anabledd, rhywedd, statws priodasol, hil, crefydd neu gred neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae'n wahanol i drosedd casineb gan nad oes trosedd wedi cael ei gyflawni. Os ydych chi’n meddwl bod hyn wedi digwydd i chi, gallwch ei drafod gyda’r ‘Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb’ (EASS). Efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i gymorth gan sefydliad lleol sy’n rhoi cymorth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches hefyd.
Cam-drin domestig
Ystyr ‘Cam-drin Domestig’ yw'r defnydd o reolaeth gan un unigolyn dros un arall mewn perthynas glòs neu berthynas deuluol agos. Gall y cam-drin fod yn rhywiol, yn gorfforol, yn emosiynol neu’n seicolegol. Mae cam-drin yn batrwm o ymddygiad ond gall fod yn anodd i’w adnabod. Yn anffodus, mae hyn yn gyffredin iawn ym mhob cymuned.
Mae'n bwysig iawn deall bod trais yn y cartref o unrhyw fath yn anghyfreithlon yng Nghymru. Os cewch eich gweld yn euog o ymddygiad treisgar neu fygythiol tuag at eich partner, gwraig neu ŵr, gallech wynebu dedfryd o garchar. Mae cymorth ar gael i ddioddefwyr gwrywaidd a benywaidd. Mae'n bosibl y gall grwpiau fel BAWSO, Cymorth i Ferched Cymru, Rainbow a Cymorth i Ddioddefwyr helpu a chynnig cyngor.
Trais rhywiol
Ystyr ‘Trais Rhywiol’ yw unrhyw weithred rywiol neu weithgaredd rhywiol sy’n ddigroeso ac na roddwyd cydsyniad (caniatâ) ar ei g/chyfer. Gall trais rhywiol effeithio ar unrhyw un, ar unrhyw adeg yn ystod ei fywyd. Gall trais rhywiol gynnwys treisio, anffurfio organau cenhedlu benywod, masnachu pobl, llosgach, neu aflonyddu rhywiol. Mae gan yr Heddlu yng Nghymru swyddogion arbennig sydd wedi'u hyfforddi i ymdrin yn sensitif â goroeswyr Trais Rhywiol.
Priodas dan orfod
Ystyr ‘Priodas dan Orfod ' yw priodas sy'n digwydd heb gytundeb llawn a rhydd y ddau unigolyn. Os ydych yn priodi am eich bod wedi cael eich bygwth neu eich cam-drin mae hyn yn gyfystyr â phriodas dan orfod. Mae priodasau dan orfod yn anghyfreithlon yn y DU a gellir eu cosbi â dedfryd o garchar i unrhyw un sy'n eich bygwth i wneud i chi ymrwymo i'r math hwn o briodas. Os credwch y gallech fod yn cael eich gorfodi i briodi, gallwch ffonio Llinell Gymorth yr Uned Priodasau dan Orfod ar 02070080151neu ffonio 999 os ydych mewn perygl uniongyrchol.
Anffurfio organau cenhedlu benywod
Ystyr ‘Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod’ (FGM) tynnu organau rhywiol benywaidd allanol yn rhannol neu’n gyfan gwbl am resymau nad ydynt yn rhai meddygol. Mae'n anghyfreithlon yn y DU a gellir cosbi unrhyw un sy'n caniatáu i hyn ddigwydd â dedfryd o garchar. Nid yw FGM yn cael ei nodi mewn unrhyw destun crefyddol a gall arwain at ddeilliannau iechyd gwael i fenywod a merched sy'n goroesi. Os credwch y gallech gael eich gorfodi i fynd trwy weithred anffurfio organau cenhedlu benywod, gallwch ffonio llinell gymorth Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yr NSPCC ar 08000283550 neu ffonio 999 os ydych mewn perygl uniongyrchol.
Gallwch gael help a chefnogaeth gydag unrhyw faterion a nodwyd uchod ar y wefan Byw Heb Ofn. Gallwch siarad yn uniongyrchol gyda rhywun dros y ffôn neu drwy sgwrs ar-lein 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Mae pobl y gwrthodwyd lloches iddynt yn wynebu perygl penodol o ddioddef camfanteisio a chaethwasiaeth. Ein nod yw bod Cymru yn gwrthwynebu caethwasiaeth a chamfanteisio. Mae caethwasiaeth yn cynnwys camfanteisio ar unigolyn ar gyfer rhyw, llafur, troseddoldeb, organau neu feinwe dynol neu am fod rhywun yn blentyn. Mae caethwasiaeth hefyd yn cynnwys ‘masnachu pobl’ pan symudir rhywun er mwyn camfanteisio ar yr unigolyn hwnnw.
Gallwch roi gwybod am gaethwasiaeth trwy’r linell gymorth caethwasiaeth fodern ar 08000121700. Gallwch hefyd geisio cymorth trwy BAWSO ar 08007318147. Ceir rhagor o wybodaeth ar y wefan Byw Heb Ofn. Ffoniwch 999 os ydych mewn perygl uniongyrchol.
Mae Llywodraeth Cymru yn gefnogwr brwd hawliau plant a phobl ifanc.
Mae gan blant yr hawl i fod â barn ynglŷn â phenderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Mae gan blant sy'n ffoaduriaid hawl i gael mynediad at yr un cyfleoedd â phlant eraill yng Nghymru. Mae gan blant sydd wedi'u gwahanu oddi wrth eu rhieni yr hawl i gymorth i sicrhau eu bod hwy a’u rhieni yn dod yn ôl at ei gilydd hefyd. Rhaid i Lywodraethau ystyried budd pennaf plant wrth wneud penderfyniadau.
Mae Comisiynydd Plant Cymru yn ystyried ar benderfyniadau a wneir gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru i weld sut y maent yn effeithio ar hawliau plant. Mae'r Comisiynydd yn cynorthwyo plant i ddysgu mwy am eu hawliau. Bydd y Comisiynydd hefyd yn helpu'r rhai sy'n credu eu bod wedi cael eu trin yn annheg. Ceir rhagor o wybodaeth am waith y Comisiynydd ar ei wefan.
Os ydych chi’n berson ifanc a bod arnoch angen help, cefnogaeth neu gyngor, mae llawer o wasanaethau ar gael. Gall Childline helpu trwy roi cyngor i chi ynghylch materion a allai fod yn effeithio ar eich iechyd meddwl. Gallwch ffonio Childline am ddim ar 08001111,anfon neges e-bost atynt neu siarad gyda chwnselydd ar-lein ar eu gwefan.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu’r gwasanaeth ‘Meic’ i roi gwybodaeth neu gyngor i bobl ifanc os oes arnynt angen rhywun i siarad gyda nhw. Gallwch ffonio Meic am ddim ar 08088023456, anfon neges destun at y gwasanaeth ar 84001 neu siarad ar-lein ar eu gwefan.
Mae TGP Cymru hefyd yn rhedeg prosiect i gynorthwyo ceiswyr lloches a ffoaduriaid ifainc hyd at 25 oed. Mae hyn yn cynnwys cymorth gan rywun sy'n deall y system lloches yn dda. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd i gwrdd â cheiswyr lloches a ffoaduriaid ifainc eraill, a gwirfoddoli. Ceir rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn ar wefan TGP Cymru.
Mae gan blant ac oedolion yr hawl i fod yn ddiogel rhag camdriniaeth a niwed. Mae cam-drin yn cynnwys cam-drin corfforol, cam-drin emosiynol, cam-drin rhywiol a cham-drin ariannol. Mae cam-drin hefyd yn cynnwys esgeulustod, lle nad yw rhywun yn cael gofal yn y ffordd y dylai. Gall plant ac oedolion gael eu cam-drin ac mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i'w hamddiffyn rhag niwed. Ceir rhagor o wybodaeth am gam-drin, esgeulustod a diogelwch ar wefan Childline.
Os credwch fod rhywun mewn perygl uniongyrchol o ddioddef niwed, dylech ffonio'r heddlu ar 999.
Os ydych yn poeni bod rhywun yn cael ei gam-drin neu mewn perygl o gael ei gam-drin gallwch ffonio'r Heddlu ar 101. Gallwch hefyd ffonio adran Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod lleol yn eich ardal. Mae gwybodaeth ynghylch sut i gysylltu â’ch awdurdod lleol wedi'i chynnwys ar y dudalen Eich Ardal Leol.
Os oes rhywun arall yn credu eich bod chi neu rywun yn eich teulu mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu niweidio, gallant roi gwybod i'r Heddlu neu'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Os bydd hyn yn digwydd bydd rhywun o'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn siarad gyda chi neu rywun yn eich teulu i weld a yw unrhyw un mewn perygl o gael ei gam-drin. Bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn defnyddio'r wybodaeth y maen nhw'n ei chasglu i wneud penderfyniad am y ffordd orau o helpu i atal neu camdriniaeth rhag digwydd neu ddod â’r gamdriniaeth i ben.
Ystyr ‘Ymddygiad Gwrthgymdeithasol’ yw ymddygiad gwael sy'n tarfu ar y gymdogaeth leol ac yn cythruddo'r bobl sy'n byw yn yr ardal honno. Gallai hyn fod yn synau uchel, ymddygiad bygythiol neu ddifrïol, neu ganiatáu i'ch eiddo gael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgarwch troseddol.
Mae gennych hawl i fwynhau eich cartref heb i eraill darfu'n afresymol arnoch. Gall cymdogion sy'n rhentu eu cartref gael eu troi allan os canfyddir eu bod wedi achosi niwsans i chi ac nad ydynt yn rhoi’r gorau i’w hymddygiad pan ofynnir iddynt wneud hynny. Gallwch gwyno wrth landlord y cymydog, y mae'n ofynnol iddo gymryd y camau priodol. Efallai y gall Adran Iechyd yr Amgylchedd yn eich awdurdod lleol eich helpu. Dylech gofio bod yr wybodaeth hon yn berthnasol i chi hefyd. Dylech feddwl sut mae eich ymddygiad yn effeithio ar eich cymdogion.
Ni ddylech byth geisio datrys y mathau hyn o faterion trwy drais. Gellid cael eich bod wedi ymddwyn yn anghyfreithlon neu'n wrthgymdeithasol os ydych chi'n gwneud hynny. Mae cario arfau, fel cyllyll neu ynnau, yn anghyfreithlon yn y Deyrnas Unedig. Os canfyddir bod gennych arfau fel hyn yn eich meddiant mewn man cyhoeddus gallech gael eich arestio. Rhaid i chi beidio â chario'r arfau hyn i'ch diogelu eich hun, hyd yn oed os oes ofn arnoch.
Mae llawer o sylweddau'n cael eu hadnabod fel cyffuriau ‘cyfreithlon’ neu ‘anghyfreithlon’ yn y Deyrnas Unedig. Mae cyffuriau cyfreithlon ar gael mewn siopau neu gan eich meddyg teulu. Mae cyffuriau anghyfreithlon yn cynnwys sylweddau fel Khat a Chanabis. Gall meddu ar, cyflenwi neu gynhyrchu cyffuriau anghyfreithlon arwain at gosb droseddol.Ceir rhagor o wybodaeth sy’n egluro pa gyffuriau sy’n anghyfreithlon ar wefan Llywodraeth y DU. Mae’n anghyfreithlon gyrru cerbyd dan ddylanwad cyffuriau anghyfreithlon.