Dyma'r oedran cyfreithiol ar gyfer cael rhyw yn y DU. 16 mlwydd oed yw’r oedran cydsynio. Diben y gyfraith hon yw amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin.
Mae'n anghyfreithlon tynnu, dangos neu rannu lluniau anweddus o blentyn. Mae'n anghyfreithlon i rywun sydd mewn swydd ddibynadwy (fel athro neu weithiwr gofal) gael rhyw gyda phlentyn sy’n derbyn gofal gan ei sefydliad.
Mae Deddf Troseddau Rhywiol 2003 yn darparu rhagor o wybodaeth am y gyfraith mewn perthynas â gweithgarwch rhywiol.