Rydym eisiau i chi gadw’n ddiogel yn ystod argyfwng y coronafeirws. Darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf yma:
https://noddfa.llyw.cymru/covid-19
Dod o hyd i le addas i fyw fydd un o'ch prif bryderon ar ôl i chi gyrraedd Cymru. Mae tai yn fater datganoledig sy'n golygu mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y mater hwn yng Nghymru. Fodd bynnag, mae tai ar gyfer ceiswyr lloches yn dal i gael eu rheoli gan Lywodraeth y DU (y Swyddfa Gartref).
Mae'r adran hon o'r wefan yn egluro'r system Tai yng Nghymru a phwy all gael cymorth.
Mae cost ac argaeledd tai yn amrywio ledled Cymru. Mae cost llety yn debygol o fod yn un o'r prif gostau i chi bob mis.
Os ydych yn rhentu eiddo, bydd gennych landlord. Mae dyletswydd gyfreithiol ar landlordiaid i roi manylion ysgrifenedig i chi am eich hawliau a'ch cyfrifoldebau. Bydd hyn yn cynnwys manylion rhent, pryd y gellir ei gwneud yn ofynnol i chi adael yr eiddo a chyfrifoldebau am atgyweirio'r adeilad.
Bydd eich hawl i gael tai yn dibynnu p'un a ydych yn geisiwr lloches, yn geisiwr lloches a wrthodwyd neu'n ffoadur. Dewiswch yr wybodaeth isod sy'n cyfateb i'ch statws mewnfudo ar gyfer gwybodaeth berthnasol.
Ddiymgeledd
Os ystyrir eich bod yn ‘ddiymgeledd’ a heb unrhyw le i fyw, bydd Llywodraeth y DU yn rhoi rhywle ichi aros heb unrhyw gost. Gelwir hwn yn aml yn ‘llety lloches’. Ni fydd gennych unrhyw ddewis ble y bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu eich cartrefu. Yng Nghymru, caiff y llety hwn ei reoli gan gwmni o'r enw ‘Clearsprings Ready Homes’.
Ffrindau a theulu
Os oes gennych deulu neu ffrindiau y gallwch fyw gyda hwy tra bod eich cais am loches yn cael ei benderfynu, efallai na fyddwch yn gymwys i gael llety gan Lywodraeth y DU. Ni fyddwch yn gallu cael mynediad at dai preifat nes bod eich cais am loches wedi cael ei benderfynu.
Clearsprings
Bydd llawer o geiswyr lloches yn cael eu symud i ‘Lety Cychwynnol’ yng Nghaerdydd. Yna, o fewn ychydig ddyddiau, byddant yn cael eu symud i ‘Lety Gwasgaredig’ mewn rhan arall o Gymru. Ar hyn o bryd, gallai hyn fod yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd neu Wrecsam. Gallai Llywodraeth y DU ofyn i ‘Clearsprings Ready Homes’ eich symud unrhyw bryd. Gallai hyn fod i wlad arall o fewn y DU neu ran arall o Gymru. Mae'n annhebygol y rhoddir mwy nag wythnos neu ddwy i chi baratoi ar gyfer y newid hwn. Gall ceiswyr lloches ofyn am beidio â chael eu symud ond bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan ‘Clearsprings Ready Homes’ a Llywodraeth y DU. Weithiau mae rhesymau da iawn pam y gallai fod angen i chi aros yn eich llety presennol. Efalla y byddwch yn gallu dod o hyd i gymorth gyda’r mater hwn gan sefydliad lleol.
Bydd y llety a ddarperir i chi yn bodloni safon sylfaenol yn unig, ond dylai fod am ddim, yn saff ac yn ddiogel. Efallai y bydd gofyn i chi rannu eich llety gyda cheiswyr lloches eraill nad ydych yn eu hadnabod.
Migrant Help
Os oes unrhyw broblemau gyda'r llety gallwch ofyn am gael trwsio’r rhain trwy roi gwybod i ‘Migrant Help’. Ariennir ‘Migrant Help’ gan Lywodraeth y DU i gefnogi ceiswyr lloches sy'n disgwyl am benderfyniad. Os nad yw’r broblem wedi cael ei chywiro, efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i gymorth gan sefydliad lleol.
Ar ôl eich penderfyniad
Dylech allu parhau i fyw yn eich llety heb unrhyw gost nes i'ch cais am loches gael ei ystyried. Os bydd eich cais am loches yn cael ei ganiatáu, byddwch yn cael 28 diwrnod i ddod o hyd i le newydd i fyw. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Cyngor Ffoaduriaid Cymru i helpu ffoaduriaid sydd newydd gael statws ffoadur i ddod o hyd i rywle arall i fyw. Os bydd eich cais am loches yn cael ei wrthod yn llawn, byddwch yn cael 21 diwrnod i adael y llety. Bydd Llywodraeth y DU hefyd yn gofyn i chi ddychwelyd i'ch gwlad wreiddiol.
Os ydych o dan 18 mlwydd oed, dylai fod gennych hawl i gael cymorth gwahanol wrth i chi wneud cais am loches. Ni ddylech gael eich cartrefu gan ‘Clearsprings Ready Homes’. Dylech fod yn ‘derbyn gofal’ gan yr awdurdod lleol a dylid eich rhoi mewn cartref maeth gyda theulu. Efallai y cynigir llety annibynnol â chymorth i rai ceiswyr lloches ifainc. Rhan o rôl yr awdurdod lleol yw darparu llety, gofal a chymorth addas i chi. Mae hyn yn cynnwys eich helpu i hawlio lloches a darparu ar gyfer eich anghenion. Efallai na fydd Llywodraeth y DU yn credu eich bod o dan 18 oed os na allwch ddarparu dogfen sy'n profi eich dyddiad geni. Efallai y bydd angen i'ch oedran gael ei asesu gan yr awdurdod lleol er mwyn sicrhau eich bod yn cael y cymorth cywir. Diben ‘asesiad oedran’ yw cadarnhau, hyd y gellir, beth yw eich oedran. Bydd hyn yn golygu gwrando ar unrhyw wybodaeth y gallwch ei darparu am eich plentyndod. Nid eich cyfrifoldeb chi yw profi eich oedran ond gallai unrhyw dystiolaeth y gallwch ei darparu fod o gymorth.
Bydd ‘asesiad oedran’ yn arwain at gael eich ystyried yn blentyn neu'n oedolyn. Os ydych yn anghytuno â'r canlyniad, gallwch herio'r penderfyniad. Efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i gymorth gyda’r mater hwn gan TGP Cymru.
Os yw eich cais am loches wedi'i gymeradwyo, bydd Llywodraeth y DU yn eich cydnabod fel ffoadur. Ar y pwynt hwn, bydd gennych yr hawl i gael mynediad at dai unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Bydd Llywodraeth y DU yn disgwyl i chi adael llety ‘Clearsprings Ready Homes’ o fewn 28 diwrnod. Gall fod yn anodd dod o hyd i le fforddiadwy arall i fyw o fewn cyfnod mor fyr. Mae'n bwysig eich bod yn dechrau chwilio cyn gynted â phosibl.
Mae Llywodraeth Cymru yn deall na wnaeth llawer o ffoaduriaid ddewis dod i Gymru ond rydym am i gynifer â phosibl o ffoaduriaid aros yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Cyngor Ffoaduriaid Cymru i gefnogi ffoaduriaid yn ystod y cyfnod hwn o 28 diwrnod. Gwneir hyn er mwyn eich helpu i ddod o hyd i le newydd i fyw ac addasu i gael yr hawl i weithio a hawlio budd-daliadau lles. Efallai y gall Cyngor Ffoaduriaid Cymru eich helpu: 02920 489 800. Unwaith i chi gael eich cydnabod fel ffoadur, gallwch gofrestru gyda'ch awdurdod lleol i geisio cymorth i atal digartrefedd. Gall Cyngor Ffoaduriaid Cymru eich helpu gyda hyn neu gallwch gysylltu â'r awdurdod lleol eich hun. Mae awdurdodau lleol yn gweithredu system ‘Angen Blaenoriaethol’. Mae hyn yn golygu y bydd pobl dan rai amgylchiadau yn cael cymorth tai yn gynt. Mae'r rhai yr ystyrir eu bod yn fwy agored i niwed yn debygol o fod ag ‘Angen Blaenoriaethol’. Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen ‘Eich Ardal Leol’. Gallwch hefyd chwilio am le i fyw heb help gan sefydliadau eraill. Mae landlordiaid yn hysbysebu eu heiddo mewn papurau newydd lleol, ffenestri siopau a chydag asiantau gosod. Mae rheolau ynghylch faint o bobl ddylai fyw mewn mathau penodol o eiddo. Os hoffech wybod a yw eich cartref yn bodloni'r rheolau hyn, cysylltwch â thîm iechyd yr amgylchedd yn eich awdurdod lleol.
Pan fyddwch yn rhentu eiddo dylech gael cytundeb tenantiaeth. Dyma'r cytundeb cyfreithiol rhyngoch chi a'r person sy'n berchen ar y tŷ (y landlord). Mae'r cytundeb yn nodi'r hawliau a'r cyfrifoldebau rhwng y ddau ohonoch. Dylai gynnwys gwybodaeth megis hyd y cytundeb, y rhent sy'n daladwy ac unrhyw gyfyngiadau, megis cadw anifeiliaid anwes. Bydd y cytundeb yn caniatáu i chi aros yn yr eiddo ar yr amod nad ydych yn torri unrhyw un o'r telerau. Efallai y bydd angen geirda ar landlord preifat, ynghyd â blaendal ac un mis o rent y dylid ei dalu cyn i chi symud i'r eiddo.
Os nad yw eich cais am loches yn llwyddiannus, efallai y byddwch yn gallu apelio yn erbyn y penderfyniad neu wneud cais am gymorth ‘Adran 4’. Ceir rhagor o wybodaeth am apeliadau yn yr adran ‘Cyfraith Lloches’.
Ni ddarperir rhywle i fyw ar eich cyfer nes bod eich cais o dan Adran 4 wedi'i benderfynu. Dylid penderfynu ar y ceisiadau hyn cyn pen 5 diwrnod gwaith ond gall gymryd wythnosau i fynd mor bell â chael cynnig o rywle i aros. Os bydd eich cais Adran 4 yn llwyddiannus byddwch yn cael rhywle i fyw. I fod yn gymwys am y cymorth hwn, rhaid i chi gael eich ystyried yn ‘ddiymgeledd’ neu'n debygol o fod yn ddiymgeledd o fewn y 14 diwrnod nesaf. Rhaid ichi hefyd allu dangos eich bod yn ceisio gadael y Deyrnas Unedig ond na allwch wneud hynny. Gallwch hefyd ddangos bod cymorth Adran 4 yn angenrheidiol er mwyn osgoi tramgwyddo ar eich hawliau dynol.
Os gwrthodir eich cais o dan Adran 4, ni fydd Llywodraeth y DU yn darparu llety i chi. Os oes gennych blant gyda chi yna efallai y byddwch yn gallu cael cymorth, gan gynnwys rhywle i aros, gan dîm Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod lleol. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn darparu ar gyfer rhoi cymorth dan amgylchiadau penodol. Efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i gymorth gyda’r mater hwn gan sefydliad lleol.
Os nad oes gennych arian ac os ydych yn amddifad, efallai bod hawl gennych i ychydig o gymorth, a elwir yn ‘cymorth adran 4’. Rhaid i chi ddangos y canlynol hefyd:
- Rydych yn cymryd pob cam rhesymol i adael y Deyrnas Unedig.
- Nid ydych yn gallu gadael y Deyrnas Unedig oherwydd bod rhwystr corfforol neu reswm meddygol arall yn eich atal rhag teithio.
- Nid ydych yn gallu gadael y Deyrnas Unedig oherwydd nad oes ffordd ymarferol i chi ddychwelyd.
- Rydych wedi gwneud cais am adolygiad barnwrol o'ch penderfyniad ar eich cais am loches ac rydych wedi cael caniatâd i fwrw ymlaen.
- Mae llety yn angenrheidiol er mwyn osgoi torri eich hawliau dynol.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma.
Os gwrthodir eich cais Adran 4 ac nad oes plant gyda chi yng Nghymru, bydd yn anodd iawn i chi ddod o hyd i rywle i fyw yn gyfreithlon. Ni fydd Llywodraeth y DU yn darparu llety i chi ac ni fydd eich awdurdod lleol yn gallu eich cartrefu yn ôl y gyfraith. Efallai y bydd landlord preifat yn torri'r gyfraith hefyd os yw'n rhoi cartref i chi ar rent. Efallai y bydd modd i chi gael cymorth gan ‘gynllun lletya’. Mae llawer o gynlluniau lletya bach yn weithredol yng Nghymru. Efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i gymorth gyda’r mater hwn gan sefydliad lleol.
Os rhoddwyd statws ffoadur i chi cyn i chi ddod i'r Deyrnas Unedig, ni fydd yn rhaid i chi fyw mewn llety lloches. Ni fydd yn rhaid i chi aros am ganlyniad cais am loches. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch yn cael eich ailsefydlu’n uniongyrchol mewn llety gan eich awdurdod lleol. Gall hwn fod yn eiddo y mae’r awdurdod lleol, ‘cymdeithas dai’ neu landlord preifat yn berchen arno. Dros amser, bydd yn ofynnol i chi wneud y taliadau rhent. Os na allwch ddod o hyd i swydd yna mae'n bosibl y cewch daliadau nawdd cymdeithasol (a elwir hefyd yn fudd-daliadau lles) i helpu gyda'r costau hyn.
Gallwch gofrestru gyda'ch awdurdod lleol i geisio cymorth i atal digartrefedd. Mae rhai awdurdodau lleol yn gweithredu system ‘Angen Blaenoriaethol’. Mae hyn yn golygu y bydd pobl dan rai amgylchiadau yn cael cymorth tai yn gynt. Mae'r rhai yr ystyrir eu bod yn fwy agored i niwed yn debygol o fod ag ‘Angen Blaenoriaethol’. Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen ‘Eich Ardal Leol'.
Pan fyddwch yn rhentu eiddo dylech gael cytundeb tenantiaeth. Dyma'r cytundeb cyfreithiol rhyngoch chi a'r person sy'n berchen ar y tŷ (y landlord). Mae'r cytundeb yn nodi'r hawliau a'r cyfrifoldebau rhwng y ddau ohonoch. Dylai gynnwys gwybodaeth megis hyd y cytundeb, y rhent sy'n daladwy ac unrhyw gyfyngiadau, megis cadw anifeiliaid anwes. Bydd y cytundeb yn caniatáu i chi aros yn yr eiddo ar yr amod nad ydych yn torri unrhyw un o'r telerau. Efallai y bydd angen geirda ar landlord preifat, ynghyd â blaendal ac un mis o rent y dylid ei dalu cyn i chi symud i'r eiddo.