Dewis Iaith
  • English
    Official
  • Cymraeg
    Cymraeg
  • Default
    Reset
  • Afrikaans
    Afrikaans
  • Albanian
    shqip
  • Amharic
    ኣማርኛ
  • Arabic
    عربي
  • Armenian
    Հայերէն
  • Azerbaijani
    آذربايجانجا ديلي
  • Basque
    euskara
  • Bengali
    বাংলা (baɛṅlā)
  • Belarusian
    Беларуская мова
  • Bosnian
    bosanski
  • Bulgarian
    български (bãlgarski)
  • Catalan
    català
  • Cebuano
    Sinugboanon
  • Chichewa
    Chicheŵa
  • Chinese Simplified
    中国简化
  • Chinese Traditional
    中國傳統
  • Corsican
    corsu
  • Croatian
    Hrvatski
  • Czech
    čeština
  • Danish
    dansk
  • Dutch
    Nederlands
  • English
    English
  • Esperanto
    Esperanto
  • Estonian
    eesti keel
  • Filipino
    filipino
  • Finnish
    suomi
  • French
    français
  • Frisian (West)
    Frysk
  • Galician
    Galego
  • Georgian
    ქართული (kʻartʻuli)
  • German
    Deutsch
  • Greek
    ελληνικά
  • Gujarati
    ગુજરાતી
  • Haitian Creole
    Kreyòl ayisyen
  • Hausa
    حَوْس
  • Hawaiian
    ʻōlelo Hawaiʻi
  • Hebrew
    עִבְרִית
  • Hindi
    हिन्दी
  • Hmong
    Hmong
  • Hungarian
    Hungarian magyaChichewar
  • Icelandic
    Íslenska
  • Igbo
    Igbo
  • Indonesian
    Bahasa Indonesia
  • Irish (Gaelic)
    Gaeilge
  • Italian
    italiano
  • Japanese
    日rus本語
  • Javanese
    baṣa Jawa
  • Kannada
    ಕನ್ನಡ
  • Kazakh
    Қазақ тілі
  • Khmer
    ភាសាខ្មែរ
  • Korean
    한국어
  • Kurdish
    Kurmanji
  • Kyrgyz
    قىرعىز
  • Lao
    ພາສາລາວ
  • Latin
    Lingua Latina
  • Latvian
    latviešu valoda
  • Lithuanian
    lietuvių kalba
  • Luxembourgish
    Lëtzebuergesch
  • Macedonian
    македонски
  • Malagasy
    Fiteny Malagasy
  • Malay
    Bahasa melayu
  • Malayalam
    മലയാളം
  • Maltese
    Malti
  • Maori
    te Reo Māori
  • Marathi
    मराठी
  • Mongolian
    Монгол
  • Myanmar (Burmese)
    ဗမာစကား
  • Nepali
    नेपाली
  • Norwegian
    norsk
  • Pashto
    پښتو
  • Persian
    فارسى
  • Polish
    polski
  • Portuguese
    português
  • Punjabi
    ਪੰਜਾਬੀ
  • Romanian
    limba
  • Russian
    Русский язык
  • Samoan
    Gagana Samoa
  • Scots Gaelic
    Gàidhlig
  • Serbian
    српски
  • Sesotho
    seSotho
  • Shona
    chiShona
  • Sindhi
    سنڌي
  • Sinhala
    සිංහල
  • Slovak
    slovenčina
  • Slovenian
    slovenščina
  • Somali
    af Soomaali
  • Spanish
    español
  • Sundanese
    Basa Sunda
  • Swahili
    Kiswahili
  • Swedish
    svenska
  • Tamil
    தமிழ்
  • Tajik
    тоҷики
  • Telugu
    తెలుగు
  • Thai
    ภาษาไทย
  • Turkish
    Türkçe
  • Ukrainian
    Українська
  • Urdu
    اردو
  • Uzbek
    أۇزبېك ﺗﻴﻠی o\'zbek tili ўзбек тили
  • Vietnamese
    tiếng việt
  • Yiddish
    ײִדיש
  • Xhosa
    isiXhosa
  • Yoruba
    Yorùbá
  • Zulu
    isiZulu
Helpu ffoaduriaid i ddeall eu hawliau
Subheading
Dinasyddion yr UE

Gall cymunedau Cymru fod yn wahanol iawn i'r lle roeddech yn arfer byw. Darperir yr wybodaeth ar y dudalen hon i'ch helpu i gadw'n ddiogel tra'ch bod yn byw yng Nghymru.

Accordion
Title
Achosion brys
Body

Os oes angen help arnoch ar frys oherwydd trosedd, tân neu anaf dylech ffonio 999. Dim ond os yw’n achos brys y dylech ffonio’r rhif hwn. Os nad ydych yn siarad neu'n deall Saesneg, siaradwch yn eich iaith eich hun. Bydd y swyddog ateb galwadau yn trefnu cyfieithydd ar y pryd yn ystod yr alwad. Mae'n bwysig eich bod yn dweud ble rydych chi, gan gynnwys y cyfeiriad a'r cod post. 

999 yw rhif y ‘Gwasanaethau Brys’. Mae hyn yn golygu'r Heddlu, y Gwasanaeth Tân, y Gwasanaeth Ambiwlans a Gwylwyr y Glannau. Mae pob galwad ffôn i 999 yn rhad ac am ddim yn y DU.

Dylech ffonio am ambiwlans os yw rhywun yn anymwybodol, yn ei chael yn eithriadol o anodd anadlu neu'n gwaedu. Os nad yw'n argyfwng, gallwch gael cyngor gofal iechyd o fannau eraill. I gael rhagor o wybodaeth, ewch at yr adran Iechyd a Lles ar y wefan hon. Peidiwch â mynd i adran ‘Damweiniau ac Achosion Brys’ eich ysbyty lleol os nad yw’n achos brys.

Dylech alw am y Gwasanaeth Tân pan fydd tân yn y cartref neu rywle arall. Peidiwch â cheisio diffodd y tân eich hun. Dylech hefyd ffonio'r gwasanaeth tân os ydych yn gwybod bod cemegau peryglus yn gollwng neu wedi cael eu harllwys.

Dylech alw am yr Heddlu os ydych yn gweld bod trosedd yn mynd rhagddo neu os ydych wedi gweld trosedd. Dylid defnyddio 999 hefyd os gwelwch unigolyn, cerbyd, pecyn neu fag wedi’i adael, a allai fod yn fygythiad yn eich barn chi. Symudwch i ffwrdd a ffoniwch 999 i roi gwybod am hyn. Gallwch roi gwybod am unrhyw beth yr ydych chi'n meddwl sy'n gysylltiedig â therfysgaeth drwy ffonio'r llinell gymorth wrth-derfysgaeth ar 0800789321.

Os oes angen i chi roi gwybod i'r heddlu am rywbeth nad yw'n argyfwng, gallwch ffonio 101 yn lle hynny.

Dylech alw am wylwyr y Glannau pan fydd person wedi ei sgubo allan i'r môr neu lle cafwyd cwch ar y môr

Title
Trosedd casineb a gwahaniaethu
Body

Gall ‘Trosedd Casineb’ olygu unrhyw drosedd a gyflawnir yn erbyn rhywun oherwydd rhan o'i hunaniaeth. Mae hyn yn cynnwys anabledd unigolyn, ei hunaniaeth o ran rhywedd, ei hil, ei grefydd neu ei gyfeiriadedd rhywiol. Gallai’r trosedd gynnwys ymosodiad, lladrad, difrod i eiddo, ymddygiad bygythiol neu fath arall o drosedd. Os ydych yn credu eich bod yn ddioddefwr trosedd casineb, dylech roi gwybod i'r Heddlu am hyn. Mae gennych hawl i fyw eich bywyd heb ddioddef camdriniaeth a thrais. Nid yw'r rhan fwyaf o ffoaduriaid a cheiswyr lloches wedi profi trosedd casineb ond rydym yn cefnogi unrhyw un sydd wedi. Mae'r Heddlu wedi'u hyfforddi i ymdrin â throsedd casineb gyda sensitifrwydd. Gallwch fod yn hyderus y cewch eich trin yn deg os byddwch yn rhoi gwybod am y math hwn o drosedd.

Os nad ydych am siarad gyda'r heddlu'n uniongyrchol, gallwch hysbysu Cymorth i Ddioddefwyr Cymru am drosedd casineb. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Cymorth i Ddioddefwyr Cymru i gefnogi dioddefwyr troseddau casineb. Ceir rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn ar y wefan Cymorth i Ddioddefwyr.

Mae ‘gwahaniaethu’ yn digwydd pan fydd pobl yn cael eu trin yn wahanol oherwydd rhan o'u hunaniaeth. Gall hyn fod oherwydd eu hoedran, beichiogrwydd, anabledd, rhywedd, statws priodasol, hil, crefydd neu gred neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae'n wahanol i drosedd casineb gan nad oes trosedd wedi cael ei gyflawni. Os ydych chi’n meddwl bod hyn wedi digwydd i chi, gallwch ei drafod gyda’r ‘Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb’ (EASS). 

Title
Cadw menywod a merched yn ddiogel
Body

Cam-drin domestig

Ystyr ‘Cam-drin Domestig’ yw'r defnydd o reolaeth gan un unigolyn dros un arall mewn perthynas glòs neu berthynas deuluol agos. Gall y cam-drin fod yn rhywiol, yn gorfforol, yn emosiynol neu’n seicolegol. Mae cam-drin yn batrwm o ymddygiad ond gall fod yn anodd i’w adnabod. Yn anffodus, mae hyn yn gyffredin iawn ym mhob cymuned. 

Trais rhywiol

Ystyr ‘Trais Rhywiol’ yw unrhyw weithred rywiol neu weithgaredd rhywiol sy’n ddigroeso ac na roddwyd cydsyniad (caniatâ) ar ei g/chyfer. Gall trais rhywiol effeithio ar unrhyw un, ar unrhyw adeg yn ystod ei fywyd. Gall trais rhywiol gynnwys treisio, anffurfio organau cenhedlu benywod, masnachu pobl, llosgach, neu aflonyddu rhywiol. Mae gan yr Heddlu yng Nghymru swyddogion arbennig sydd wedi'u hyfforddi i ymdrin yn sensitif â goroeswyr Trais Rhywiol.

Priodas dan orfod

Ystyr ‘Priodas dan Orfod ' yw priodas sy'n digwydd heb gytundeb llawn a rhydd y ddau unigolyn. Os ydych yn priodi am eich bod wedi cael eich bygwth neu eich cam-drin mae hyn yn gyfystyr â phriodas dan orfod. Mae priodasau dan orfod yn anghyfreithlon yn y DU a gellir eu cosbi â dedfryd o garchar i unrhyw un sy'n eich bygwth i wneud i chi ymrwymo i'r math hwn o briodas. Os credwch y gallech fod yn cael eich gorfodi i briodi, gallwch ffonio Llinell Gymorth yr Uned Priodasau dan Orfod ar 02070080151neu ffonio 999 os ydych mewn perygl uniongyrchol.

Anffurfio organau cenhedlu benywod

Ystyr ‘Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod’ (FGM) tynnu organau rhywiol benywaidd allanol yn rhannol neu’n gyfan gwbl am resymau nad ydynt yn rhai meddygol. Mae'n anghyfreithlon yn y DU a gellir cosbi unrhyw un sy'n caniatáu i hyn ddigwydd â dedfryd o garchar. Nid yw FGM yn cael ei nodi mewn unrhyw destun crefyddol a gall arwain at ddeilliannau iechyd gwael i fenywod a merched sy'n goroesi. Os credwch y gallech gael eich gorfodi i fynd trwy weithred anffurfio organau cenhedlu benywod, gallwch ffonio llinell gymorth Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yr NSPCC ar 08000283550 neu ffonio 999 os ydych mewn perygl uniongyrchol.

Gallwch gael help a chefnogaeth gydag unrhyw faterion a nodwyd uchod ar y wefan Byw Heb Ofn. Gallwch siarad yn uniongyrchol gyda rhywun dros y ffôn neu drwy sgwrs ar-lein 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Title
Caethwasiaeth a chamfanteisio
Body

Ein nod yw sicrhau bod Cymru yn gwrthwynebu caethwasiaeth a chamfanteisio. Mae caethwasiaeth yn cynnwys camfanteisio ar unigolyn ar gyfer rhyw, llafur, troseddoldeb, organau neu feinwe dynol neu am fod rhywun yn blentyn. Mae caethwasiaeth hefyd yn cynnwys ‘masnachu pobl’ pan symudir rhywun er mwyn camfanteisio ar yr unigolyn hwnnw.

Gallwch roi gwybod am gaethwasiaeth trwy’r linell gymorth caethwasiaeth fodern ar 08000121700. Gallwch hefyd geisio cymorth trwy BAWSO ar 08007318147. Ceir rhagor o wybodaeth ar y wefan Byw Heb Ofn. Ffoniwch 999 os ydych mewn perygl uniongyrchol.

Title
Cadw plant ac oedolion yn ddiogel rhag cael eu cam-drin
Body

Mae gan blant ac oedolion yr hawl i fod yn ddiogel rhag camdriniaeth a niwed. Mae cam-drin yn cynnwys cam-drin corfforol, cam-drin emosiynol, cam-drin rhywiol a cham-drin ariannol. Mae cam-drin hefyd yn cynnwys esgeulustod, lle nad yw rhywun yn cael gofal yn y ffordd y dylai. Gall plant ac oedolion gael eu cam-drin ac mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i'w hamddiffyn rhag niwed. Ceir rhagor o wybodaeth am gam-drin, esgeulustod a diogelwch ar wefan Childline.

Os credwch fod rhywun mewn perygl uniongyrchol o ddioddef niwed, dylech ffonio'r heddlu ar 999.

Os ydych yn poeni bod rhywun yn cael ei gam-drin neu mewn perygl o gael ei gam-drin gallwch ffonio'r Heddlu ar 101. Gallwch hefyd ffonio adran Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod lleol yn eich ardal. Mae gwybodaeth ynghylch sut i gysylltu â’ch awdurdod lleol wedi'i chynnwys ar y dudalen Eich Ardal Leol.

Os oes rhywun arall yn credu eich bod chi neu rywun yn eich teulu mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu niweidio, gallant roi gwybod i'r Heddlu neu'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Os bydd hyn yn digwydd bydd rhywun o'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn siarad gyda chi neu rywun yn eich teulu i weld a yw unrhyw un mewn perygl o gael ei gam-drin. Bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn defnyddio'r wybodaeth y maen nhw'n ei chasglu i wneud penderfyniad am y ffordd orau o helpu i atal neu camdriniaeth rhag digwydd neu ddod â’r gamdriniaeth i ben.

 

Title
Ymddygiad gwrthgymdeithasol
Body

Ystyr ‘Ymddygiad Gwrthgymdeithasol’ yw ymddygiad gwael sy'n tarfu ar y gymdogaeth leol ac yn cythruddo'r bobl sy'n byw yn yr ardal honno. Gallai hyn fod yn synau uchel, ymddygiad bygythiol neu ddifrïol, neu ganiatáu i'ch eiddo gael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgarwch troseddol.

Mae gennych hawl i fwynhau eich cartref heb i eraill darfu'n afresymol arnoch. Gall cymdogion sy'n rhentu eu cartref gael eu troi allan os canfyddir eu bod wedi achosi niwsans i chi ac nad ydynt yn rhoi’r gorau i’w hymddygiad pan ofynnir iddynt wneud hynny. Gallwch gwyno wrth landlord y cymydog, y mae'n ofynnol iddo gymryd y camau priodol. Efallai y gall Adran Iechyd yr Amgylchedd yn eich awdurdod lleol eich helpu. Dylech gofio bod yr wybodaeth hon yn berthnasol i chi hefyd. Dylech feddwl sut mae eich ymddygiad yn effeithio ar eich cymdogion.

Ni ddylech byth geisio datrys y mathau hyn o faterion trwy drais. Gellid cael eich bod wedi ymddwyn yn anghyfreithlon neu'n wrthgymdeithasol os ydych chi'n gwneud hynny. Mae cario arfau, fel cyllyll neu ynnau, yn anghyfreithlon yn y Deyrnas Unedig. Os canfyddir bod gennych arfau fel hyn yn eich meddiant mewn man cyhoeddus gallech gael eich arestio. Rhaid i chi beidio â chario'r arfau hyn i'ch diogelu eich hun, hyd yn oed os oes ofn arnoch.

Mae llawer o sylweddau'n cael eu hadnabod fel cyffuriau ‘cyfreithlon’ neu ‘anghyfreithlon’ yn y Deyrnas Unedig. Mae cyffuriau cyfreithlon ar gael mewn siopau neu gan eich meddyg teulu. Mae cyffuriau anghyfreithlon yn cynnwys sylweddau fel Khat a Chanabis. Gall meddu ar, cyflenwi neu gynhyrchu cyffuriau anghyfreithlon arwain at gosb droseddol.Ceir rhagor o wybodaeth sy’n egluro pa gyffuriau sy’n anghyfreithlon ar wefan Llywodraeth y DU. Mae’n anghyfreithlon gyrru cerbyd dan ddylanwad cyffuriau anghyfreithlon.

Title
Halloween and Bon Fire Night
Body

Halloween is celebrated on the 31st October. The main tradition of Halloween is to dress up in a costume. Some people like scary costumes such as ghosts, witches, or skeletons. Others dress up in fun costumes like superheroes, movie stars, or cartoon characters. Children celebrate the day by going trick-or-treating at night. They go from door to door saying "Trick or treat". People usually give out sweets as a treat. This may mean that you have children knocking on your door or see people dressed in costume around your neighbourhood.

Other Halloween activities can include bonfires, parties, and carving pumpkins.

 

Bon Fire Night

In the UK, Bonfire Night (or Guy Fawkes Night) is celebrated on 5 November. This is where people remember the plot to blow up the Houses of Parliament in 1605. All over Britain there are firework displays and bonfires with models of Guy Fawkes, which are sometimes burned on the fire. The Guy is made of old clothes and the clothes are filled with newspaper. Some people have a small bonfire in their garden or there are organized firework displays at local parks or clubs.

Traditional Bonfire Night food is hot baked potatoes, soup and hot dogs. There are also toffee apples (apples on a stick, covered in sweet toffee) and in the north of England they eat a special type of cake called parkin. Toasting marshmallows on the bonfire is also popular.

In Britain only people over the age of 18 can buy fireworks. Before Bonfire Night, children used to take their home-made Guys onto the streets. They would ask for ‘a penny for the Guy’ to collect money to buy fireworks.

People can set off fireworks in the weeks before Bonfire Night, so you may hear loud bangs in the evenings.

Some techniques to cope with bonfire night can be found in the following website;

Five tips to help you deal with Bonfire Night and fireworks (veteransgateway.org.uk)

You can report any concerns about your safety to the Police by ringing 101 ( non-emergency). If you think there is a serious risk ( emergency ) you can call 999.


 

Hate Crime

If you have been a victim of hate crime you can report it to the police. You can also report it to the National Hate Crime Report and Support Centre (run by Victim Support). You can report these crimes if you see them happen to someone else too.

Both the Police and Victim Support can offer you support to deal with what happened to you and find a way forward.

You can talk to Victim Support as an alternative to the Police. They provide independent, confidential help, advice and support to victims and witnesses of hate crimes in Wales.

You can call Victim Support free at any time on 0300 3031 982. You can also visit their website for further information.