Mae'r adran hon o'r wefan yn egluro'r system addysg yng Nghymru a phwy sy'n gymwys i gael cymorth.
Mae addysg am ddim mewn ysgolion a reolir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae dyletswydd gyfreithiol ar rieni a gofalwyr i sicrhau bod eu plant yn mynychu'r ysgol. Mae'n drosedd cadw eich plant i ffwrdd o'r ysgol am ddim rheswm. Gallwch gofrestru eich plentyn ar gyfer yr ysgol gyda'ch awdurdod lleol. Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen Eich Ardal Leol.
Bydd plant rhwng 5 ac 11 oed yn mynychu'r ysgol gynradd. Bydd plant rhwng 11 ac 16 oed yn mynd i ysgol uwchradd neu gyfun. Ar ddiwedd yr ysgol uwchradd, bydd plant yn sefyll arholiadau TGAU. Mae llawer o gefnogaeth ar gael yn ysgolion Cymru. Mae hyn yn cynnwys cymorth i blant sydd newydd gyrraedd y wlad sy'n dysgu Saesneg neu Gymraeg fel ail iaith. Mae cwnselwyr mewn ysgolion ar gael i helpu plant a all fod yn ofidus, yn bryderus neu'n ddryslyd. Mae dewisiadau brecwast a chinio am ddim ar gael yn aml mewn ysgolion. Os ydych yn byw yn ddigon pell o'r ysgol, efallai y darperir cludiant am ddim i'r ysgol. Gall plant adael yr ysgol yn 16 oed ond fe’u hanogir yn gryf i gael Addysg Bellach. Mae amrywiaeth o opsiynau ar gyfer astudiaeth Addysg Bellach. Mae'r rhain yn cynnwys colegau a phrentisiaethau. Yn aml bydd cofrestru mewn Prifysgol yn golygu astudio mewn coleg cyn hynny.
Mae cadw'ch plant o'r ysgol am ddim rheswm yn drosedd. Yn y Deyrnas Unedig mae dyletswydd gyfreithiol arnoch i sicrhau bod eich plant yn mynd i'r ysgol tan y maent yn 16 oed.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu cyrsiau ‘Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill’ (ESOL). Sefydlir y rhain i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n oedolion i ddysgu Saesneg. Mae’r cyrsiau hyn yn aml yn rhad ac am ddim a gellir eu darparu mewn nifer o ardaloedd ledled Cymru.
Gall addysg yng Nghymru fod trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Gall plant fynychu ysgolion Cymraeg a adwaenir fel ysgolion ‘cyfrwng Cymraeg’ neu glybiau Cymraeg fel yr Urdd neu Fenter Iaith. Mae pob plentyn yng Nghymru’n cael y cyfle i ddysgu rhywfaint o Gymraeg, hyd yn oed mewn ysgol cyfrwng Saesneg.
Efallai na rhai o’r bobl sy’n dod i fyw yn y DU am y tro cyntaf wedi clywed y Gymraeg yn cael ei siarad erioed cyn cyrraedd. Gall dysgu Cymraeg ddarparu cyfleoedd ar gyfer swyddi yn y dyfodol. Rhaid i lawer o wasanaethau cyhoeddus gael eu darparu yn y Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cymorth dewisol ar gyfer blynyddoedd cynnar eich plentyn. Pan fo plentyn yn cyrraedd ei drydydd pen-blwydd, mae’n gymwys i gael gofal meithrin rhan-amser am ddim. Mae’r gwasanaeth Dechrau’n Deg yn cynnig gofal plant, cymorth iechyd, cymorth rhianta a chymorth iaith.
Gall unrhyw un yng Nghymru sy'n 16 oed neu'n hŷn wneud cais am brentisiaeth a manteisio ar y cyfleoedd a gynigir. Mae dysgwyr 15 oed sydd wedi cyrraedd oedran gadael ysgol statudol hefyd yn gymwys i wneud cais.
Gall unrhyw un sy'n gweithio yng Nghymru sydd wedi gadael addysg statudol (y rhai 16 oed neu'n hŷn fel arfer) ac sydd â'r hawl i fyw a gweithio yn y DU wneud cais am brentisiaeth a manteisio ar y cyfleoedd a gynigir; Bydd cyllid Llywodraeth Cymru ar gael i helpu i gwblhau Cynllun Dysgu Prentisiaeth y prentis.
I gael rhagor o wybodaeth am ddod yn brentis, ewch i gyrfacymru.com
Yng Nghymru, byddwn yn parhau i groesawu pobl o'r UE, gan gynnwys gwladolion y DU sy'n byw yn yr AEE neu'r Swistir, i weithio neu astudio yng Nghymru.
Bydd angen i ddinasyddion o'r UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy a'r Swistir sy'n bwriadu astudio yng Nghymru o 1 Ionawr 2021 wneud cais drwy'r Llwybr Myfyrwyr newydd cyn dod i'r DU.
Bydd pob myfyriwr a ddechreuodd gwrs cyn 1 Awst 2021 yn parhau i dderbyn cymorth drwy gydol eu cwrs. Dylai myfyrwyr o'r UE siarad â swyddfa cyllid myfyrwyr eu prifysgol neu fynd i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
Ni fydd myfyrwyr o'r UE heb statws preswylydd sefydlog sy'n dechrau cwrs addysg uwch neu addysg bellach ar neu ar ôl 1 Awst 2021 yn gymwys i gael cymorth neu, yn achos cyrsiau addysg uwch, statws ffi cartref.
Fodd bynnag, bydd gwladolion Iwerddon yn dal i fod yn gymwys i gael cymorth o dan drefniant yr Ardal Deithio Gyffredin.
Os hoffech astudio yng Nghymru, dylech gysylltu â Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael rhagor o wybodaeth. Ar gyfer astudiaethau mewn gwlad arall yn y DU, cysylltwch â'r corff cyllido myfyrwyr perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich cymhwysedd i gael cymorth cyllid myfyrwyr.
Bydd angen i chi wirio a oes angen fisa y DU arnoch, os ydych yn bwriadu astudio yn y DU o 1 Ionawr 2021 gan na fyddwch yn gymwys i wneud cais am y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE oni bai eich bod yn byw yn y DU cyn 31 Rhagfyr 2020.
Gallwch wneud cais am fisa myfyriwr os ydych dros 16 oed ac yn bwriadu dechrau cwrs gyda darparwr a all weithredu fel noddwr myfyrwyr trwyddedig.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael fisa myfyriwr i blant yn lle hynny os ydych yn 16 neu'n 17 oed ac eisiau astudio mewn ysgol annibynnol yn y DU.
Nid oes angen fisa arnoch i astudio yn y DU ar gyfer cyrsiau hyd at 6 mis, cyn belled â'ch bod yn astudio mewn sefydliad achrededig; mae hyn yn cynnwys cyrsiau Saesneg.
Gallwch wneud cais am fisa astudio tymor byr os ydych yn astudio ar gwrs Saesneg sy'n para hyd at 11 mis.
Os ydych chi'n gwybod ble yr hoffech astudio yng Nghymru, y man cychwyn gorau yw gwefan eich prifysgol. Mae pob sefydliad yn gweinyddu ei ysgoloriaethau a'i raglenni ariannu ei hun, a bydd y swyddfa ryngwladol yn gallu eich helpu i wneud eich penderfyniadau ar sail eich amgylchiadau personol.