Dewis Iaith
  • English
    Official
  • Cymraeg
    Official
  • Default
    Reset
  • Afrikaans
    Afrikaans
  • Albanian
    shqip
  • Amharic
    ኣማርኛ
  • Arabic
    عربي
  • Armenian
    Հայերէն
  • Azerbaijani
    آذربايجانجا ديلي
  • Basque
    euskara
  • Bengali
    বাংলা (baɛṅlā)
  • Belarusian
    Беларуская мова
  • Bosnian
    bosanski
  • Bulgarian
    български (bãlgarski)
  • Catalan
    català
  • Cebuano
    Sinugboanon
  • Chichewa
    Chicheŵa
  • Chinese Simplified
    中国简化
  • Chinese Traditional
    中國傳統
  • Corsican
    corsu
  • Croatian
    Hrvatski
  • Czech
    čeština
  • Danish
    dansk
  • Dutch
    Nederlands
  • English
    English
  • Esperanto
    Esperanto
  • Estonian
    eesti keel
  • Filipino
    filipino
  • Finnish
    suomi
  • French
    français
  • Frisian (West)
    Frysk
  • Galician
    Galego
  • Georgian
    ქართული (kʻartʻuli)
  • German
    Deutsch
  • Greek
    ελληνικά
  • Gujarati
    ગુજરાતી
  • Haitian Creole
    Kreyòl ayisyen
  • Hausa
    حَوْس
  • Hawaiian
    ʻōlelo Hawaiʻi
  • Hebrew
    עִבְרִית
  • Hindi
    हिन्दी
  • Hmong
    Hmong
  • Hungarian
    Hungarian magyaChichewar
  • Icelandic
    Íslenska
  • Igbo
    Igbo
  • Indonesian
    Bahasa Indonesia
  • Irish (Gaelic)
    Gaeilge
  • Italian
    italiano
  • Japanese
    日rus本語
  • Javanese
    baṣa Jawa
  • Kannada
    ಕನ್ನಡ
  • Kazakh
    Қазақ тілі
  • Khmer
    ភាសាខ្មែរ
  • Korean
    한국어
  • Kurdish
    Kurmanji
  • Kyrgyz
    قىرعىز
  • Lao
    ພາສາລາວ
  • Latin
    Lingua Latina
  • Latvian
    latviešu valoda
  • Lithuanian
    lietuvių kalba
  • Luxembourgish
    Lëtzebuergesch
  • Macedonian
    македонски
  • Malagasy
    Fiteny Malagasy
  • Malay
    Bahasa melayu
  • Malayalam
    മലയാളം
  • Maltese
    Malti
  • Maori
    te Reo Māori
  • Marathi
    मराठी
  • Mongolian
    Монгол
  • Myanmar (Burmese)
    ဗမာစကား
  • Nepali
    नेपाली
  • Norwegian
    norsk
  • Pashto
    پښتو
  • Persian
    فارسى
  • Polish
    polski
  • Portuguese
    português
  • Punjabi
    ਪੰਜਾਬੀ
  • Romanian
    limba
  • Russian
    Русский язык
  • Samoan
    Gagana Samoa
  • Scots Gaelic
    Gàidhlig
  • Serbian
    српски
  • Sesotho
    seSotho
  • Shona
    chiShona
  • Sindhi
    سنڌي
  • Sinhala
    සිංහල
  • Slovak
    slovenčina
  • Slovenian
    slovenščina
  • Somali
    af Soomaali
  • Spanish
    español
  • Sundanese
    Basa Sunda
  • Swahili
    Kiswahili
  • Swedish
    svenska
  • Tamil
    தமிழ்
  • Tajik
    тоҷики
  • Telugu
    తెలుగు
  • Thai
    ภาษาไทย
  • Turkish
    Türkçe
  • Ukrainian
    Українська
  • Urdu
    اردو
  • Uzbek
    أۇزبېك ﺗﻴﻠی o\'zbek tili ўзбек тили
  • Vietnamese
    tiếng việt
  • Yiddish
    ײִדיש
  • Xhosa
    isiXhosa
  • Yoruba
    Yorùbá
  • Zulu
    isiZulu
Helpu ffoaduriaid i ddeall eu hawliau

Asesiad oedran

Efallai y bydd angen gwneud penderfyniad i benderfynu a yw ceisiwr lloches yn blentyn neu'n oedolyn. Mae person ifanc yn y sefyllfa hon yn debygol o gael ‘asesiad oedran’ er mwyn rhoi ystyriaeth ofalus i unrhyw dystiolaeth sydd ar gael. Mae'n rhaid ystyried yr holl wybodaeth a thystiolaeth, gan nad yw unrhyw dechneg asesu unigol yn debygol o ddarparu amcangyfrif manwl gywir o oedran.

Plentyn y mae ei oedran yn cael ei herio

Mae hyn fel arfer yn golygu rhywun sy'n dweud ei fod yn blentyn (o dan 18 oed) ond y mae'r Swyddfa Gartref neu'r Awdurdod Lleol yn meddwl ei fod yn oedolyn (18 oed neu drosodd). Bydd eich hawliau yn wahanol os ydych yn cael eich ystyried yn blentyn neu'n oedolyn.

Oedran cydsynio

Dyma'r oedran cyfreithiol ar gyfer cael rhyw yn y DU. 16 mlwydd oed yw’r oedran cydsynio. Diben y gyfraith hon yw amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin. 

Mae'n anghyfreithlon tynnu, dangos neu rannu lluniau anweddus o blentyn. Mae'n anghyfreithlon i rywun sydd mewn swydd ddibynadwy (fel athro neu weithiwr gofal) gael rhyw gyda phlentyn sy’n derbyn gofal gan ei sefydliad.

Mae Deddf Troseddau Rhywiol 2003 yn darparu rhagor o wybodaeth am y gyfraith mewn perthynas â gweithgarwch rhywiol.

Cerdyn Cofrestru Cais

Dylid rhoi Cerdyn Cofrestru Cais i bob ceisiwr lloches, sydd hefyd yn cael ei alw'n ARC. Dogfen sydd yr un maint â cherdyn credyd yw hon, y gellir ei defnyddio i brofi mai chi yw'r sawl yr ydych yn honni bod. Mae'r cerdyn yn cynnwys gwybodaeth amdanoch chi, gan gynnwys eich ôl bys a'ch ffotograff.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o ymddygiad, sy’n amrywio o ollwng sbwriel i droseddau lefel isel. Gall fod yn rhwystredig iawn i gymdogion a’u brifo’n arw. Nid yw peth o'r ymddygiad hwn yn anghyfreithlon ond gall niweidio cysylltiadau cymunedol.

Ffurflen ASF1

Mae angen cwblhau'r ffurflen hon ar gyfer ceiswyr lloches er mwyn iddynt gael cymorth gan Lywodraeth y DU. Dylech wneud cais os ydych yn ddigartref, neu'n debygol o fod yn ddigartref neu os bydd eich arian yn dod i ben o fewn y 14 diwrnod nesaf. Gallwch wneud hawliad ar y wefan ganlynol ond gall Migrant Help roi cymorth i chi gwblhau'r ffurflen hon hefyd:

https://www.gov.uk/government/publications/application-for-asylum-support-form-asf1

Cerdyn ASPEN

Darperir y cerdyn hwn gan Lywodraeth y DU i gefnogi ceiswyr lloches. Mae'r cerdyn yn ei gwneud yn bosibl darparu arian cymorth lloches (cyllid Adran 95 ac Adran 4) i geiswyr lloches heb yr angen am daliadau arian parod. Gellir defnyddio'r cerdyn mewn siopau i brynu nwyddau a chodi arian mewn peiriant arian.

Rhaglen Hawliau Lloches

Partneriaeth wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru o saith sefydliad sy'n gweithio gyda phobl sy'n chwilio am noddfa. Mae'r rhaglen hawliau lloches yn darparu cyngor ac eiriolaeth. Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ARP yma:

https://welshrefugeecouncil.org.uk/news/21042017-1405/asylum-rights-programme-arp

Ceisiwr Lloches

Rhywun yw hwn sydd wedi gwneud cais am loches i’w amddiffyn yn y DU ac sy'n disgwyl am benderfyniad gan Lywodraeth y DU.

Cymorth Lloches

Mae'n bosibl y gall ceiswyr lloches sy'n ddiymgeledd gael llety neu gymorth ariannol gan y Swyddfa Gartref. Rhaid cyflwyno cais, a elwir yn ASF1, i'r Swyddfa Gartref i gael cymorth. Bydd derbyn cymorth llety yn golygu na fydd gennych ddewis o ran lle y cewch eich lleoli mewn llety gwasgaredig yn y DU.