Mae gan Lywodraeth y DU set o reolau sy'n rheoli sut mae'r system Fewnfudo yn gweithio. Gwneir newidiadau i'r rheolau'n aml a gall hyn effeithio ar y gwasanaethau neu gronfeydd y mae caiff pobl sy'n chwilio am noddfa fynediad atynt. Gellir gweld y fersiwn ddiweddaraf o'r Rheolau Mewnfudo yma:
- EnglishOfficial
- CymraegCymraeg
- DefaultReset
- AfrikaansAfrikaans
- Albanianshqip
- Amharicኣማርኛ
- Arabicعربي
- ArmenianՀայերէն
- Azerbaijaniآذربايجانجا ديلي
- Basqueeuskara
- Bengaliবাংলা (baɛṅlā)
- BelarusianБеларуская мова
- Bosnianbosanski
- Bulgarianбългарски (bãlgarski)
- Catalancatalà
- CebuanoSinugboanon
- ChichewaChicheŵa
- Chinese Simplified中国简化
- Chinese Traditional中國傳統
- Corsicancorsu
- CroatianHrvatski
- Czechčeština
- Danishdansk
- DutchNederlands
- EnglishEnglish
- EsperantoEsperanto
- Estonianeesti keel
- Filipinofilipino
- Finnishsuomi
- Frenchfrançais
- Frisian (West)Frysk
- GalicianGalego
- Georgianქართული (kʻartʻuli)
- GermanDeutsch
- Greekελληνικά
- Gujaratiગુજરાતી
- Haitian CreoleKreyòl ayisyen
- Hausaحَوْس
- Hawaiianʻōlelo Hawaiʻi
- Hebrewעִבְרִית
- Hindiहिन्दी
- HmongHmong
- HungarianHungarian magyaChichewar
- IcelandicÍslenska
- IgboIgbo
- IndonesianBahasa Indonesia
- Irish (Gaelic)Gaeilge
- Italianitaliano
- Japanese日rus本語
- Javanesebaṣa Jawa
- Kannadaಕನ್ನಡ
- KazakhҚазақ тілі
- Khmerភាសាខ្មែរ
- Korean한국어
- KurdishKurmanji
- Kyrgyzقىرعىز
- Laoພາສາລາວ
- LatinLingua Latina
- Latvianlatviešu valoda
- Lithuanianlietuvių kalba
- LuxembourgishLëtzebuergesch
- Macedonianмакедонски
- MalagasyFiteny Malagasy
- MalayBahasa melayu
- Malayalamമലയാളം
- MalteseMalti
- Maorite Reo Māori
- Marathiमराठी
- MongolianМонгол
- Myanmar (Burmese)ဗမာစကား
- Nepaliनेपाली
- Norwegiannorsk
- Pashtoپښتو
- Persianفارسى
- Polishpolski
- Portugueseportuguês
- Punjabiਪੰਜਾਬੀ
- Romanianlimba
- RussianРусский язык
- SamoanGagana Samoa
- Scots GaelicGàidhlig
- Serbianсрпски
- SesothoseSotho
- ShonachiShona
- Sindhiسنڌي
- Sinhalaසිංහල
- Slovakslovenčina
- Slovenianslovenščina
- Somaliaf Soomaali
- Spanishespañol
- SundaneseBasa Sunda
- SwahiliKiswahili
- Swedishsvenska
- Tamilதமிழ்
- Tajikтоҷики
- Teluguతెలుగు
- Thaiภาษาไทย
- TurkishTürkçe
- UkrainianУкраїнська
- Urduاردو
- Uzbekأۇزبېك ﺗﻴﻠی o\'zbek tili ўзбек тили
- Vietnamesetiếng việt
- Yiddishײִדיש
- XhosaisiXhosa
- YorubaYorùbá
- ZuluisiZulu
Ymgeisydd yn y wlad
Rhywun sydd eisoes yn y DU cyn gwneud cais am loches yw hwn. Mae Llywodraeth y DU am i bob ceisiwr lloches wneud cais am loches ar y cyfle cyntaf, a fyddai fel rheol yn golygu gwneud hynny mewn porthladd neu faes awyr.
Caniatâd Amhenodol i Aros (ILR)
Math o statws mewnfudo a roddir gan Lywodraeth y DU yw hwn. Weithiau gelwir caniatâd amhenodol i aros yn breswylio parhaol neu statws preswylydd sefydlog. Mae hyn yn rhoi caniatâd i aros yn y DU yn barhaol.
Llety Cychwynnol
Os ydych yn geisiwr lloches ac yn cael cymorth am eich bod yn cael eich ystyried yn ddiymgeledd, cewch eich rhoi mewn Llety Cychwynnol. Ar hyn o bryd, mae 7 canolfan Llety Cychwynnol ledled y DU, gan gynnwys un yng Nghaerdydd, Cymru. Fel arfer ni fyddwch ond yn treulio ychydig wythnosau mewn Llety Cychwynnol. Yna byddwch yn cael eich ‘gwasgaru’ i lety tymor hwy mewn rhan arall o'r DU.
Benthyciad integreiddio
Os ydych wedi cael statws ffoadur neu ddiogelwch dyngarol, efallai y gallwch gael gafael ar fenthyciad integreiddio gan Lywodraeth y DU. Gellir cael rhagor o wybodaeth yma:
Canolfan Byd Gwaith
Mae'r swyddfeydd hyn a ariennir gan Lywodraeth y DU i'w cael yn y rhan fwyaf o ddinasoedd ac yn helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth yn y DU. Nid oes gan y rhan fwyaf o geiswyr lloches yr hawl i weithio felly ni fyddant yn gallu cael cymorth.
Adolygiad Barnwrol
Mae hyn yn eich galluogi i herio penderfyniad a wnaed gan gorff cyhoeddus yn y DU, fel y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru neu awdurdodau lleol. Fodd bynnag, ni ellir adolygu penderfyniadau ynghylch lloches, gan fod rhaid i apeliadau fynd i'r Tribiwnlys Lloches a mewnfudo.
Yn derbyn gofal
Mae plant “sy'n derbyn gofal” yn cael eu lletya gan awdurdod lleol i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd. Mae hyn naill ai ar gais eu rhiant neu yn unol â “gorchymyn gofal” a wnaed o dan adran 31 o Ddeddf Plant 1989.
Mae'n debygol y bydd plant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches ac sy'n cyrraedd y DU heb eu rhieni neu berthnasau eraill yn dod yn blant sy’n derbyn gofal.
Iechyd meddwl
Mae hyn yn ymwneud â sut rydyn ni'n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn. Mae un ym mhob pedwar person yn y DU yn profi problem iechyd meddwl ar ryw adeg, sy'n gallu effeithio ar eu bywyd pob dydd. Gall y problemau hyn effeithio ar eich perthnasoedd neu eich iechyd corfforol.
Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un. Heb driniaeth, gall y problemau hyn gael effaith ddifrifol arnoch chi neu ar eich teulu. Gallai problemau iechyd meddwl gynnwys Anhwylder Straen wedi Trawma (a elwir hefyd yn PTSD), iselder neu anhwylderau eraill.
Ceir rhagor o wybodaeth am iechyd meddwl ar wefan Galw Iechyd Cymru.
Migrant Help
Ariennir y sefydliad hwn gan Lywodraeth y DU i gefnogi ceiswyr lloches yn y DU. Bydd Migrant Help yn cefnogi ceisiadau am gymorth ariannol, cwynion a gaiff eu cyfleu am lety lloches neu faterion eraill.
Gellir dod o hyd i gyngor am ddim i geiswyr lloches trwy ffonio 08088000630.