Dewis Iaith
  • English
    Official
  • Cymraeg
    Cymraeg
  • Default
    Reset
  • Afrikaans
    Afrikaans
  • Albanian
    shqip
  • Amharic
    ኣማርኛ
  • Arabic
    عربي
  • Armenian
    Հայերէն
  • Azerbaijani
    آذربايجانجا ديلي
  • Basque
    euskara
  • Bengali
    বাংলা (baɛṅlā)
  • Belarusian
    Беларуская мова
  • Bosnian
    bosanski
  • Bulgarian
    български (bãlgarski)
  • Catalan
    català
  • Cebuano
    Sinugboanon
  • Chichewa
    Chicheŵa
  • Chinese Simplified
    中国简化
  • Chinese Traditional
    中國傳統
  • Corsican
    corsu
  • Croatian
    Hrvatski
  • Czech
    čeština
  • Danish
    dansk
  • Dutch
    Nederlands
  • English
    English
  • Esperanto
    Esperanto
  • Estonian
    eesti keel
  • Filipino
    filipino
  • Finnish
    suomi
  • French
    français
  • Frisian (West)
    Frysk
  • Galician
    Galego
  • Georgian
    ქართული (kʻartʻuli)
  • German
    Deutsch
  • Greek
    ελληνικά
  • Gujarati
    ગુજરાતી
  • Haitian Creole
    Kreyòl ayisyen
  • Hausa
    حَوْس
  • Hawaiian
    ʻōlelo Hawaiʻi
  • Hebrew
    עִבְרִית
  • Hindi
    हिन्दी
  • Hmong
    Hmong
  • Hungarian
    Hungarian magyaChichewar
  • Icelandic
    Íslenska
  • Igbo
    Igbo
  • Indonesian
    Bahasa Indonesia
  • Irish (Gaelic)
    Gaeilge
  • Italian
    italiano
  • Japanese
    日rus本語
  • Javanese
    baṣa Jawa
  • Kannada
    ಕನ್ನಡ
  • Kazakh
    Қазақ тілі
  • Khmer
    ភាសាខ្មែរ
  • Korean
    한국어
  • Kurdish
    Kurmanji
  • Kyrgyz
    قىرعىز
  • Lao
    ພາສາລາວ
  • Latin
    Lingua Latina
  • Latvian
    latviešu valoda
  • Lithuanian
    lietuvių kalba
  • Luxembourgish
    Lëtzebuergesch
  • Macedonian
    македонски
  • Malagasy
    Fiteny Malagasy
  • Malay
    Bahasa melayu
  • Malayalam
    മലയാളം
  • Maltese
    Malti
  • Maori
    te Reo Māori
  • Marathi
    मराठी
  • Mongolian
    Монгол
  • Myanmar (Burmese)
    ဗမာစကား
  • Nepali
    नेपाली
  • Norwegian
    norsk
  • Pashto
    پښتو
  • Persian
    فارسى
  • Polish
    polski
  • Portuguese
    português
  • Punjabi
    ਪੰਜਾਬੀ
  • Romanian
    limba
  • Russian
    Русский язык
  • Samoan
    Gagana Samoa
  • Scots Gaelic
    Gàidhlig
  • Serbian
    српски
  • Sesotho
    seSotho
  • Shona
    chiShona
  • Sindhi
    سنڌي
  • Sinhala
    සිංහල
  • Slovak
    slovenčina
  • Slovenian
    slovenščina
  • Somali
    af Soomaali
  • Spanish
    español
  • Sundanese
    Basa Sunda
  • Swahili
    Kiswahili
  • Swedish
    svenska
  • Tamil
    தமிழ்
  • Tajik
    тоҷики
  • Telugu
    తెలుగు
  • Thai
    ภาษาไทย
  • Turkish
    Türkçe
  • Ukrainian
    Українська
  • Urdu
    اردو
  • Uzbek
    أۇزبېك ﺗﻴﻠی o\'zbek tili ўзбек тили
  • Vietnamese
    tiếng việt
  • Yiddish
    ײִדיש
  • Xhosa
    isiXhosa
  • Yoruba
    Yorùbá
  • Zulu
    isiZulu
Helpu ffoaduriaid i ddeall eu hawliau

Ffoadur

Rhywun sydd wedi cael ‘statws ffoadur’ gan Lywodraeth y DU. Gall hyn fod trwy gynllun ailsefydlu neu drwy gais llwyddiannus am loches. Fel arfer, mae rhywun sy'n cael statws ffoadur yn cael caniatâd i aros yn y DU am 5 mlynedd.

Er mwyn bod yn gymwys i gael statws ffoadur, bydd yn rhaid i chi ddangos bod gennych “ofn ac iddo sail gadarn y cewch eich erlid am resymau hil, crefydd, cenedligrwydd, aelodaeth o grŵp cymdeithasol penodol, neu farn wleidyddol, a chithau’r tu allan i’ch gwlad enedigol, ac yn methu â chael eich amddiffyn neu, oherwydd yr ofn hwnnw, yn amharod i geisio cael eich amddiffyn gan y wlad honno” (Confensiwn Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig, 1951).

Prosiect Tai i Ffoaduriaid

Cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy'n cael ei redeg gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru yw hwn. Mae'n rhoi cyngor a chymorth i ffoaduriaid yn ystod y cyfnod ‘symud ymlaen’ o 28 diwrnod’. Gall Cyngor Ffoaduriaid Cymru eich helpu i gael mynediad at lety, cyfrifon banc, taliadau nawdd cymdeithasol a mwy.

Rhagor o wybodaeth ynghylch sut y gall Cyngor Ffoaduriaid Cymru eich helpu.

Symud

Os gwrthodir eich cais am loches, bydd y Swyddfa Gartref yn gofyn i chi ddychwelyd i'ch gwlad enedigol yn wirfoddol. Os na allwch wneud hynny neu os na fyddwch yn fodlon gwneud hynny, gall timau Gorfodaeth Fewnfudo'r Swyddfa Gartref geisio eich gorfodi i ddychwelyd. Gallant wneud hyn trwy eich rhoi dan gadwad ac yna’ch allgludo, mewn proses a elwir yn symud.

Mynychu

Disgwylir i'r rhan fwyaf o geiswyr lloches nad ydynt wedi eu rhoi dan gadwad fynychu canolfan fynychu neu orsaf heddlu yn rheolaidd. Gallai methu â bodloni'r amodau mynychu a osodwyd arnoch gan Lywodraeth y DU fforffedu eich hawl i loches ac arwain at eich symud o'r DU.

Ailsefydlu

Mae Llywodraeth y DU yn derbyn ffoaduriaid yn uniongyrchol o wersylloedd mewn rhannau eraill o'r byd ac yn darparu diogelwch o fewn y DU. Mae Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'r Cenhedloedd Unedig i adnabod y rhai y mae arnynt fwyaf angen cymorth a'u hatal rhag gwneud siwrneiau peryglus i'r DU. Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys y ‘Cynllun Ailsefydlu Pobl Agored i Niwed o Syria’ a’r ‘Cynllun Ailsefydlu Plant Agored i Niwed’.

Dechrau o’r Newydd: Prosiect Integreiddio Ffoaduriaid

Cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n darparu cymorth mentora, hyfforddiant cyflogaeth a chyfleoedd dysgu iaith i ffoaduriaid. Rheolir y prosiect gan Goleg Caerdydd a'r Fro ac mae'n cynnwys colegau eraill ledled Cymru.

Cymorth Adran 4

Gall Llywodraeth y DU roi cymorth i geiswyr lloches y gwrthodwyd eu cais a'u hapeliadau. Gelwir cymorth dan yr amodau hyn yn gymorth Adran 4. Mae Adran 4 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 yn rhoi'r pŵer i Lywodraeth y DU roi cymorth. Mae rhagor o wybodaeth am sut i hawlio ar gael yma:
https://www.gov.uk/asylum-support/how-to-claim

Cymorth Adran 95

Gall ceiswyr lloches yr ystyrir eu bod yn ddiymgeledd neu ar fin bod yn ddiymgeledd wneud cais am gymorth ‘Adran 95’ gan Lywodraeth y DU. Gall y cymorth hwn fod yn gymorth ariannol yn unig os oes gennych rywle i aros, neu arian a llety os nad oes gennych rywle i aros. Ar hyn o bryd (Ebrill 2019), mae cymorth lloches yn £37.75 y pen yr wythnos. I gael llety, rhaid i chi gytuno i gael eich symud i unrhyw le yn y DU, heb gael dewis i ble.

Cymorth Adran 98

Math dros dro o gymorth yw hwn, tra bo Llywodraeth y DU yn penderfynu ar eich cais am gymorth adran 95. Dylai penderfyniad ynghylch cais am gymorth adran 98 gael ei wneud o fewn un diwrnod gwaith.

Gall ceiswyr lloches yr ystyrir eu bod yn ddiymgeledd neu ar fin bod yn ddiymgeledd wneud cais am gymorth ‘adran 98’ gan Lywodraeth y DU. Os byddwch yn cael cymorth adran 98, bydd gofyn i chi wneud cais am gymorth adran 95.

Fel arfer, caiff cymorth adran 98 ei gynnig ar sail llety a phob pryd bwyd mewn canolfan Llety Cychwynnol.

Nid yw cymorth adran 98 ar gael i'r rhai sy'n disgwyl am benderfyniad ynghylch eu cais am gymorth adran 4.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Nod y Ddeddf hon yw gwella llesiant pobl y mae angen gofal neu gymorth arnynt yng Nghymru. Mae llesiant yn golygu bod person yn hapus, yn iach ac yn gyfforddus gyda'i fywyd a'r hyn y mae'n ei wneud.

Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i cynnal ‘asesiad llesiant’ er mwyn canfod y ffordd orau o ddiwallu eich anghenion. Os ydych chi'n geisiwr lloches a wrthodwyd, gall asesiad llesiant arwain at lety neu gymorth arall os canfuwyd fod ar eich teulu angen cymorth ac y byddai gwrthod y cymorth hwnnw yn tramgwyddo ar eich hawliau dynol.