Croeso i Gymru. Crëwyd y wefan hon i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ddeall eu hawliau. Bydd y wefan yn eich helpu i ddysgu am Gymru a chanfod ble i gael cymorth hefyd. Mae croeso yng Nghymru i bobl sy’n ceisio noddfa.
Gellir defnyddio’r wefan hon mewn nifer o wahanol ieithoedd. Defnyddiwch y blwch ‘Dewis Iaith’ uchod i ddod o hyd i iaith y gallwch chi ei deall. Mae’r wybodaeth ar y wefan hon wedi’i rhannu’n themâu, megis tai neu addysg. Ym mhob adran, fe gewch fod yr wybodaeth wedi’i rhannu yn ôl y cam yr ydych chi arno yn y broses lloches. Er enghraifft, tra byddwch yn disgwyl am benderfyniad neu ar ôl rhoi statws ffoadur i chi.
Rydym am i chi gadw’n ddiogel yn ystod yr argyfwng coronafeirws. Dewch o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf yma:
https://icc.gig.cymru/pynciau/coronafeirws/ a https://noddfa.llyw.cymru/covid-19
Gallwch ledaenu'r feirws hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw symptomau. Gall pobl sy'n sâl gael peswch neu dymheredd uchel.
Mae ‘Meddygon y Byd’ wedi darparu gwybodaeth mewn llawer o ieithoedd gwahanol:
https://www.doctorsoftheworld.org.uk/coronavirus-information/#
Ni fydd rhaid i chi dalu am unrhyw driniaeth yr ydych ei hangen ar gyfer y coronafeirws.